Piacenza
Math | cymuned, dinas, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 102,465 |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Nawddsant | Antoninus o Piacenza |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Piacenza |
Gwlad | Yr Eidal |
Arwynebedd | 118.24 km² |
Uwch y môr | 61 ±1 metr |
Yn ffinio gyda | Calendasco, Caorso, Corno Giovine, Gossolengo, Gragnano Trebbiense, Podenzano, Pontenure, Rottofreno, San Rocco al Porto, Santo Stefano Lodigiano, Caselle Landi, Polesine Parmense |
Cyfesurynnau | 45.05°N 9.7°E |
Cod post | 29121–29122 |
Dinas a chymuned (comune) yng ngogledd-ddwyrain, yr Eidal, yw Piacenza (Lladin a Hen Saesneg: Placentia, ac yn nhafodiaith leol Emiliano-Romagnolo: Piasëinsa), sy'n brifddinas talaith Piacenza yn rhanbarth Emilia-Romagna.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y gymuned boblogaeth o 100,311.[1]
Hanes hynafol
[golygu | golygu cod]Cyn cael ei chyfaneddu gan y Rhufeinwyr, roedd yr ardal yn gartref i lwythi Celtaidd a Ligurian. Roedd yr Etrwsgiaid yn adnabyddus am ddewina perfedd defaid. Darganfyddwyd cerflun efydd o iau, "Iau Piacenza", ger Piacenza yn 1877, roedd enwau'r ardal wedi eu marcio arni, ac phob un wedi ei neulltuo i amryw o dduwiau. Mae hefyd wedi cael ei chysyllu â arfer Haruspex. Sefydlwyd Piacenza yn 218 CC (yn ôl traddodiad, ar 31 Mai), hon oedd y cyntaf o sawl gwladfa milwrol Rhufeinig, er hen enw oedd Placentia yn Lladin a Saesneg.
Anfonwyd 6,000 o wladwyr Lladin i Placentia a gwladfa Cremona gerllaw, yn arbennig aelodau o'r dosbarth Marchogol Rhufain. Enillodd Hannibal Brwydr Trebbia yn ardal Piacenza yr un flwyddyn a sefydliad y ddinas, ond fe wrthsafodd y ddinas fyddinoedd Punic. Yn ystod y blynyddoedd canlynol, fe ddraenwyd tir y ddinas, ac adeiladwyd porthladd ar yr Afon Po. Ffynnodd Placentia fel conolfan cynhyrchu graen, barlys, miled, a gwlan. Er iddi gael ei anrheithio a'i dinistrio sawl gwaith, adferwyd y ddinas pob tro. Gelwodd Procopius hi'n Urbs Aemilia Princeps, "Tywysoges dinasoedd Via Aemilia", gan olygu "dinas gyntaf Via Aemilia", yn y 6g.
Roedd yr oes hen fyd hwyr, tua 300-700/800, yn Piacenza yn nodwediadol am ehangiad Cristnogaeth, a phresenoldeb sawl merthyr. Roedd y nawddsant presennol, Antoninus, yn gyn-lengwr a drodd yr holl ardal yn Gristnogol, a gafodd ei ladd yn ystod teyrnasiad Diocletian.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 14 Tachwedd 2022