Neidio i'r cynnwys

Palas Holyrood

Oddi ar Wicipedia
Palas Holyrood
Mathpreswylfa swyddogol, palas, plasty gwledig Edit this on Wikidata
Cysylltir gydatirwedd cynlluniedig Palas Holyrood Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadHolyrood Edit this on Wikidata
SirDinas Caeredin Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau55.9527°N 3.17229°W Edit this on Wikidata
Cod OSNT2689673919 Edit this on Wikidata
Cod postEH8 8DX Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethDafydd I Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig categori A Edit this on Wikidata
Manylion
Llun o'r palas Calton Hill yn y 19fed ganrif
Adfeilion yr abaty gyferbyn a'r palas

Sefydlwyd Palas Holyrood, neu'n swyddogol Palas Tŷ Holyrood, fel mynachlog gan David I, brenin yr Alban yn 1128, ac mae wedi gwasanaethu fel prif gartref brenhnoedd a brenhinesau'r Alban ers yr 15g. Safai'r palas ar ben y Filltir Frenhinol yng Nghaeredin. Palas Holyrood yw cartref swyddogol Elizabeth II yn yr Alban; mae hi'n treulio amser yn y palas ar ddechrau'r haf.

Daw'r enw Holyrood o Seisnigeiddio'r gair Sgoteg Haly Ruid (Croes Sanctaidd).

Mae adfeilion abaty Awgwstinaidd ar dir y palas, adeiladwyd hi yn 1128 yn ôl gorchymyn Brenin David I yr Alban. Bu'n safle nifer o goroniadau a phriodasau brenhinol. Disgynodd tô'r abaty yn ystod yr 18g, gan ei adael yn y cyflwr y mae heddiw.

Addaswyd yr Abaty'n gapel ar gyfer Urdd yr Ysgallen gan y brenin Iago VII, ond dinistrwyd hi gan y dorf. Yn 1691 cymerodd Kirk of the Canongate le'r Abaty fel yr eglwys plwyf leol; dyma lle mynycha'r frenhines wasanaethau pan fydd yn aros yn y palas.

Cartref Mari I, brenhines yr Alban, oedd y palas yn y 16g. Yn y palas, yn 1565, bu farw David Rizzio, ysgrifennydd y brenhines, wedi llofruddio gan yr Arglwydd Darnley, priod Mari, a'i ffrindiau.    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Ystafell wely Mary, Palas Holyrood

Ceidwad Tŷ Holyrood

[golygu | golygu cod]

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato