Pab Pïws VIII
Gwedd
Pab Pïws VIII | |
---|---|
Ganwyd | Francesco Saverio Castiglioni 20 Tachwedd 1761 Cingoli |
Bu farw | 30 Tachwedd 1830 Rhufain |
Dinasyddiaeth | Taleithiau'r Babaeth |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, esgob Catholig |
Swydd | pab, cardinal, esgob esgobaethol, esgob esgobaethol |
llofnod | |
Pab yr Eglwys Gatholig Rufeinig a rheolwr Taleithiau'r Babaeth o 31 Mawrth 1829 hyd ei farwolaeth y flwyddyn ganlynol oedd Pïws VIII (ganwyd Francesco Saverio Castiglioni) (20 Tachwedd 1761 – 30 Tachwedd 1830). Ei deyrnasiad fel pab oedd y byrraf o'r 19g.
Cafodd Castiglioni ei eni yn Cingoli, Marche, yr Eidal, yn fab i'r Cownt Ottavio Castiglioni a'i wraig Sanzia Ghislieri. Cafodd ei addysg yn y Collegio Campana a Phrifysgol Bologna.[1]
Daeth yn Esgob Montalto yn 1800. Etholwyd ef yn bab yn 1829. Aeth yn sâl iawn ym mis Tachwedd 1830, a bu sibrydion iddo gael ei wenwyno. Bu farw ar 30 Tachwedd ym Mhalas y Quirinale yn Rhufain, yn 69 oed.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "CASTIGLIONI, Francesco Saverio (1761–1830)" (yn Saesneg). The Cardinals of the Holy Roman Church. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-09. Cyrchwyd 11 Chwefror 2014.
- ↑ "Sede Vacante 1830–1831" (yn Saesneg). 15 Awst 2015. Cyrchwyd 20 Ionawr 2019.
Rhagflaenydd: Leo XII |
Pab 31 Mawrth 1829 – 30 Tachwedd 1830 |
Olynydd: Grigor XVI |