Pab Calistus III
Gwedd
Pab Calistus III | |
---|---|
Ganwyd | Alfons de Borja i Llançol 8 Ionawr 1379 Torreta de Canals |
Bu farw | 15 Awst 1458 Rhufain |
Dinasyddiaeth | Coron Aragón |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig |
Swydd | pab, Esgob Valencia, cardinal, cardinal-offeiriad |
Adnabyddus am | Etsi propheta docente |
Tad | Domingo de Borja |
Mam | Francisca (Marti) |
Llinach | teulu Borgia |
Pab yr Eglwys Gatholig Rufeinig a rheolwr Taleithiau'r Babaeth o 8 Ebrill 1453 hyd ei farwolaeth oedd Calistus III (ganwyd Alfonso de Borja) (31 Rhagfyr 1378 – 6 Awst 1458). Tra'n Bab canolbwyntiodd yn bennaf ar drefnu Croesgad aflwyddiannus yn erbyn y Twrciaid, a oedd wedi meddiannu Caergystennin ym 1453. Bu'r ymdrech yn fethiant oherwydd anhrefn yn sefyllfa wleidyddol Ewrop. Ym 1456 ail-ystyrrodd y Pab achos Jeanne d'Arc, a'i lladdwyd ym 1431 dan gyhuddiaeth o ddewiniaeth a heresi; penderfynwyd ei bod hi'n ddi-euog. Dyrchafodd ddau nai i statws cardinal, a daeth un o'r rhain yn Bab yn ddiweddarach, yn dwyn yr enw Alecsander VI.
Rhagflaenydd: Nicholas V |
Pab 8 Ebrill 1453 – 6 Awst 1458 |
Olynydd: Pïws II |