Neilon
Enghraifft o'r canlynol | grwp neu ddosbarth o sylweddau cemegol |
---|---|
Math | polyamide |
Dyddiad darganfod | 1935 |
Rhan o | nylon catabolic process, nylon metabolic process |
Yn cynnwys | nylon 6, nylon 66 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r gair nylon (Cymreigiad: neilon) yn enw generig neu gyffredinol am grŵp o bolymerau synthetig h.y. wedi eu gwneud gan ddyn. Gellir eu toddi a'u prosesu'n ffibrau, yn ffilmau ac yn siapau gwahanol.[1] Cynhyrchwyd y neilon cyntaf (neilon 66) am y tro cyntaf ar 28 Chwefror 1935 gan Wallace Carothers yng nghanolfan ymchwil DuPont.[2][3] Ceir nifer o gymwysiadau masnachol i'r deunydd hwn, gan gynnwys dillad, lloriau ac i atgyfnerthu rwber, rhannau o geir ac offer trydanol ac mewn deunyddiau pacio bwyd.[4]
Ystyr y gair
[golygu | golygu cod]Un chwedl ar lafar gwlad yw mai gair cyfansawdd ydyw, sef cyfuniad o 'New York' (N. Y.) a 'London': 'NY-Lon'. Fodd bynnag, mynegodd John W. Eckelberry o'r cwmni DuPont a greodd neilon yn wreiddiol, yn 1940, nad oedd ystyr i'r "nyl", ond fod y rhan "on" wedi'i gopio o enwau tebyg e.e. cotton (cotwm) a rayon. Cyhopeddodd DuPont yn ddiweddarach mai "No-Run" - gyda 'run' yn golygu 'rhedeg' - oedd yr enw gwreiddiol a fwriwyd, ond nad oeddent yn berffaith sicr na fyddai neilon yn rhedeg (h.y. yn hollti ac yn gwahanu).[5][6]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Kohan, Melvin (1995). Nylon Plastics Handbook. Munich: Carl Hanser Verlag. t. 2. ISBN 1569901899.
- ↑ American Chemical Society National Historic Chemical Landmarks. "Foundations of Polymer Science: Wallace Carothers and the Development of Nylon". ACS Chemistry for Life. Cyrchwyd 27 Ionawr 2015.
- ↑ "Wallace Hume Carothers". Chemical Heritage Foundation. Cyrchwyd 27 Ionawr 2015. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ "Materials/Polyamide". PAFA. Packaging and Film Association. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-19. Cyrchwyd 19 Ebrill 2015.
- ↑ Algeo, John (2009). The Origins and Development of the English Language. 6. Cengage. t. 224. ISBN 9781428231450.
- ↑ Wolfe, Audra J. (2008). "Nylon: A Revolution in Textiles". Chemical Heritage Magazine 26 (3). http://www.chemheritage.org/discover/media/magazine/articles/26-3-nylon-a-revolution-in-textiles.aspx?page=3. Adalwyd 27 Ionawr 2015.