NBC
Enghraifft o'r canlynol | rhwydwaith teledu, rhwydwaith radio |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 19 Mehefin 1926 |
Perchennog | NBCUniversal |
Sylfaenydd | RCA Corporation, David Sarnoff |
Gweithwyr | 7,000 |
Rhiant sefydliad | NBCUniversal, RCA Corporation, Radio Corporation of America |
Pencadlys | 30 Rockefeller Plaza, NBC Tower, 10 Universal City Plaza, Stamford |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Gwefan | https://nbc.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r National Broadcasting Company (NBC) yn rwydwaith deledu Americanaidd. Lleolir eu pencadlys yn yr Adeilad GE yng Nghanolfan Rockefeller yn Ninas Efrog Newydd. Weithiau cyfeirir at NBC fel Rhwydwaith y Paun oherwydd logo'r cwmni sy'n edrych fel plu paun.
Ffurfiwyd y cwmni ym 1926 gan Gorfforaeth Radio America ac NBC oedd y rhwydwaith ddarlledu mawr cyntaf yn yr Unol Daleithiau. Ym 1986, trosglwyddwyd rheolaeth o NBC i General Electric (GE) pan brynodd GE Gorfforaeth Radio America am $6.4 biliwn. Ar ôl hyn, uwch gyfarwyddwr NBC oedd Bob Wright nes iddo ymddeol a throsglwyddo'r awenau i Jeff Zucker. Ar hyn o bryd, mae'r rhwydwaith yn rhan o gwmni cyfryngol NBC Universal, sy'n rhan o General Electric a Vivendi.
Amcangyfrifir fod NBC ar gael mewn 112 miliwn o gartrefi, neu 98.6% o'r Unol Daleithiau.