Neidio i'r cynnwys

Mur Mawr Gorgan

Oddi ar Wicipedia
Mur Mawr Gorgan
Mathamddiffynfa, fortified line Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlGorgan Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol420 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 420 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSasanian defense lines Edit this on Wikidata
SirTalaith Golestan Edit this on Wikidata
GwladIran Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37.070382°N 54.076552°E Edit this on Wikidata
Hyd200 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolSasanian architecture Edit this on Wikidata
Statws treftadaethTentative World Heritage Site Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddbricsen Edit this on Wikidata

Gwaith amddiffynnol hynafol a leolir yn ardal Gorgan yng ngogledd-ddwyrain Iran, yn y rhanbarth a adnabyddid yn yr Henfyd fel Hyrcania, yw Mur Mawr Gorgan. Cyfeirir ato hefyd fel Mur Amddiffynnol Gorgan, Rhwystr Anushirvân, Rhwystr Firuz a Qazal Al'an, a hefyd Sadd-i-Iskandar, (Perseg: 'Argae/Rhwystr Alecsander). Mae rhai archaeolegwyr yn ei alw 'Y Sarff Goch' am fod ei friciau o liw coch. Mae'n amddiffyn Pyrth Caspia a oedd yn eu tro yn fynedfa i wastadiroedd gogledd a chanolbarth Iran i nomadiaid Canolbarth Asia. Teithiodd Alecsander Fawr a'i fyddin trwy'r Pyrth ar ei daith i Hyrcania a'r dwyrain.

Dyma'r mur amddiffynnol ail hiraf erioed, ar ôl Mur Mawr Tsieina, ond fe'i codwyd tua mil o flynyddoedd cyn y mur hwnnw ac mae ei adeiladwaith yn fwy cadarn na Mur Mawr Tsieina fel y saif heddiw. Mae'n fwy na Mur Hadrian a Mur Antoninus gyda'i gilydd. Mae'n rhedeg am 155 km gyda thrwch o rwng 6 - 10 medr. Ceir sawl caer ar hyd y mur, wedi eu lleoli rhwng 10 a 50 km oddi wrth ei gilydd.

Does dim cytundeb ymhlith archaeolegwyr am oed y mur, ond credir iddo gael ei godi rhwng y 3edd a'r 7g OC, er bod rhai yn dadlau iddo gael ei godi am y tro cyntaf yn y ganrif gyntaf OC.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]