Michael Parkinson
Michael Parkinson | |
---|---|
Ganwyd | 28 Mawrth 1935 Cudworth |
Bu farw | 16 Awst 2023 Bray |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyflwynydd teledu, newyddiadurwr, llenor, hunangofiannydd, cyflwynydd radio |
Priod | Mary Parkinson |
Gwobr/au | Marchog Faglor, CBE |
Gwefan | http://www.michaelparkinson.tv/ |
Cyflwynydd teledu, newyddiadurwr ac awdur o Loegr oedd Syr Michael Parkinson CBE (28 Mawrth 1935 – 16 Awst 2023).[1] Cyflwynodd ei sioe siarad teledu Parkinson o 1971 i 1982 ac o 1998 i 2007, yn ogystal â sioeau siarad eraill yn rhyngwladol. Fe’i disgrifiwyd gan The Guardian fel “y gwesteiwr sioe siarad Prydeinig gwych”.[2]
Cafodd Parkinson ei eni ym mhentref Cudworth, ger Barnsley, Swydd Efrog. Yn fab i löwr,[3] cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Barnsley ac yn 1951 pasiodd ddwy Lefel O, mewn celf ac iaith Saesneg. Roedd yn gricedwr dros Nghlwb Criced Barnsley, gyda'i ffrind Dickie Bird.[4] [5]
Dechreuodd Parkinson ei yrfa fel awdur erthyglau nodwedd i'r Manchester Guardian ac yn ddiweddarach ar y Daily Express. [2] Ar ol ei ddwy flynedd o Wasanaeth Cenedlaethol, derbyniodd gomisiwn fel swyddog yn y Royal Army Pay Corps.[6]
Teledu
[golygu | golygu cod]Yn ystod y 1960au, bu Parkinson yn gweithio ar raglenni materion cyfoes i'r BBC a Granada Television. Roedd e'n cyflwynydd y rhaglen gylchgrawn newyddion dyddiol ''24 Hours'' ar BBC1 o 1966 [7] hyd at 1968.[8] O 1969 cyflwynodd Cinema, rhaglen adolygu ffilm hwyr y nos a Granada[6] , cyn ym mis Gorffennaf 1971 cyflwyno ei gyfres BBC Parkinson, gan adael y BBC ar gyfer ITV1 hanner ffordd drwy'r ail rediad a ddaeth i ben ar ôl 31 cyfres. Roedd wedi cyfweld â 2,000 o enwogion y byd.[9] Roedd Parkinson yn un o'r "Famous Five" ar y teledu yn y bore ym 1983, gydag Angela Rippon, Anna Ford, David Frost a Robert Kee.[10]
Ar 26 Mehefin 2007, cyhoeddodd Parkinson ei fod yn ymddeol ar ôl 25 mlynedd o wneud ei sioe siarad.[11] Ar 22 Awst 1959, priododd Mary Agnes Heneghan, a hanai o Doncaster. Bu iddynt dri o blant. Yn y 1970au, ymgyrchodd Parkinson i gefnogi rheolaeth geni, ar ôl cael fasectomi ym 1972 . [12]
Gwnaethpwyd Parkinson yn Farchog Baglor yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2008; dwedodd nad oedd "y math i gael urdd marchog" yn dod o Barnsley.[13]
Ar 11 Tachwedd 2008, daeth yn Ganghellor cyntaf Prifysgol Nottingham Trent.[14]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Sir Michael Parkinson, broadcaster who won the nation's affections with his long-running chat show – obituary". The DailyTelegraph (yn Saesneg). 17 Awst 2023. ISSN 0307-1235. Cyrchwyd 17 Awst 2023.
- ↑ 2.0 2.1 Hattenstone, Simon (24 Chwefror 2012). "Saturday interview: Michael Parkinson". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Mehefin 2012.
- ↑ "Sir Michael Parkinson: Feature Interview – The Bottom Line" (yn Saesneg). thebottomlinetv.com.au. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Mawrth 2015. Cyrchwyd 13 Mawrth 2015.
- ↑ Parkinson, Michael (2008). Parky (yn Saesneg). Hodder & Stoughton. ISBN 978-0-340-96166-7.
- ↑ Armstrong, Kathryn (17 Awst 2023). "Yorkshire pays tribute to Sir Michael Parkinson". Great British Life (yn Saesneg). Cyrchwyd 17 Awst 2023.
- ↑ 6.0 6.1 "biography" (yn Saesneg). Screenonline. Cyrchwyd 3 Mehefin 2012.
- ↑ "Broadcast – BBC Programme Index". genome.ch.bbc.co.uk (yn Saesneg). 14 Mawrth 1966.
- ↑ "Broadcast – BBC Programme Index". genome.ch.bbc.co.uk (yn Saesneg). 26 Ionawr 1968.
- ↑ "Sydney Morning Herald: How to talk to anyone in the world" (yn Saesneg). Smh.com.au. 2 June 2003. Cyrchwyd 3 Mehefin 2012.
- ↑ "TV-am Presenters". www.tv-am.org.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 17 Awst 2023.
- ↑ Pidd, Helen (27 Mehefin 2007). "After 25 years, Parkinson retires again". The Guardian (yn Saesneg). London. Cyrchwyd 1 Medi 2010.
- ↑ Bennett, Stephanie, "A Present for Mrs Parkinson", Cosmopolitan (UK), issue 1, Mawrth 1972. (Saesneg)
- ↑ "Parkinson bows out with honour". BBC News (yn Saesneg). 29 Rhagfyr 2007. Cyrchwyd 3 Mehefin 2012.
- ↑ "Sir Michael Parkinson Appointed as First Chancellor" (yn Saesneg). Ntu.ac.uk. 29 Gorffennaf 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Ebrill 2009. Cyrchwyd 3 Mehefin 2012.