Neidio i'r cynnwys

Mersia

Oddi ar Wicipedia
Mersia
Mathgwlad ar un adeg, gwladwriaeth ddibynnol Edit this on Wikidata
PrifddinasTamworth Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 527 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Hen Saesneg, Lladin Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Saith Deyrnas Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.6°N 1.6°W Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
brenin Mersia Edit this on Wikidata
Map
Crefydd/Enwadpaganiaeth Eingl-Sacsonaidd, Christianity in Anglo-Saxon England Edit this on Wikidata
Arianpunt yr Anglo-Sacson Edit this on Wikidata

Roedd Mersia[1] (neu Mercia; Eingl-Sacsoneg: Mierce, "pobl y gororau"), yn un o deyrnasoedd yr Eingl-Sacsoniaid, gyda'i chalon o gwmpas dyffryn Afon Trannon.

Roedd Mersia'n ffinio â nifer o deyrnasoedd Cymru, yn enwedig Powys, a bu llawer o ymladd rhyngddynt, ond hefyd ambell dro gynghrair. Y brenin cyntaf y gwyddir amdano oedd Creoda, a ddaeth i rym tua 585. Dilynwyd ef gan ei fab, Pybba, yn 593. Dilynwyd ef gan Cearl yn 606, yna daeth Penda yn frenin. Gwnaeth Penda gynghrair gyda nifer o'r brenhinoedd Cymreig i ymgyrchu yn erbyn Northumbria, yn enwedig Cadwallon ap Cadfan, brenin Gwynedd.

Lladdwyd Penda gan y Northunbriaid ym Mrwydr Winwaed yn 655, ac am gyfnod gwanychwyd Mersia yn fawr. Yn ddiweddarach, tua dechrau'r 8g, cryfhaodd y deyrnas eto, a chipiwyd darn sylweddol o ddwyrain Powys, yn cynnwys y brifddinas, Pengwern. Daeth Æthelbald yn frenin yn 716, ac wedi iddo ef farw bu rhyfel am yr orsedd a enillwyd gan Offa. Yn ddiweddarach edwinodd grym Mersia, cipiwyd rhan ddwyreiniol y deyrnas gan y Daniaid a thyfodd Wessex i fod y mwyaf grymus o deyrnasoedd Lloegr.

Terynas Mersia, yn dangos y deyrnas wreiddiol yn y 6ed ganrif mewn gwyrdd tywyll, a maint eithaf y deyrnas rhwng y 7fed a'r 9fed ganrif mewn gwyrdd golau

Brenhinoedd a rheolwyr Mersia

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Geiriadur yr Academi, s.v. "Mercia"