Mark Rylance
Mark Rylance | |
---|---|
Llais | Mark Rylance voice.ogg |
Ganwyd | 18 Ionawr 1960 Ashford |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | dramodydd, actor llwyfan, actor ffilm, cyfarwyddwr theatr, actor teledu |
Priod | Claire van Kampen |
Perthnasau | Juliet Rylance |
Gwobr/au | Gwobr Laurence Olivier, Gwobr yr Academi i'r Actor-gynorthwyydd Gorau, Gwobr y 'Theatre World', Gwobr Deledu yr Academi Brydeinig am Actor Gorau, Gwobr Tony am yr Actor Gorau mewn Drama, Gwobr Tony am yr Actor Gorau mewn Drama, Marchog Faglor, Gwobr Drama Desk ar gyfer Actor Eithriadol mewn Drama, Drama League Award, Sam Wanamaker Award |
Gwefan | http://www.markrylance.co.uk/ |
Mae David Mark Rylance Waters (ganed 18 Ionawr 1960) yn actor, cyfarwyddwr theatr a dramodydd o Loegr. Ef oedd cyfarwyddwr artistig cyntaf Glôb Shakespeare yn Llundain, o 1995 i 2005. Cynhwysa ei ymddangosiadau ffilm Prospero's Books (1991), Angels and Insects (1995), Institute Benjamenta (1996), ac Intimacy (2001). Enillodd Rylance Wobr yr Academi a Gwobr BAFTA ar gyfer yr Actor Cefnogol Gorau yn dilyn ei berfformiad fel Rudolf Abel yn Bridge of Spies (2015). Yn 2016 serenna yn y rôl deitl yn ffilm Steven Spielberg The BFG, addasiad acsiwn-byw o'r llyfr plant gan Roald Dahl.
Gwnaeth Rylance ei ddebut proffesiynol yn Theatr y Citizens, Glasgow yn 1980. Aeth yn ei flaen i ennill y Wobr Olivier ar gyfer yr Actor Gorau ar gyfer Much Ado About Nothing yn 1994 a Jerusalem yn 2010, a'r Wobr Tony ar gyfer yr Actor Gorau mewn Drama ar gyfer Boeing Boeing yn 2008 a Jerusalem yn 2011. Enillodd trydedd gwobr Tony yn 2014 ar gyfer Twelfth Night. Ar deledu, enillodd y Wobr BAFTA TV ar gyfer yr Actor Gorau ar gyfer ei rôl fel David Kelly yn nrama 2005 Channel 4 The Government Inspector a fe'i enwebwyd ar gyfer Gwobrau Emmy, Golden Globe and Screen Actors Guild ar gyfer chwarae Thomas Cromwell ym mini-gyfres 2015 BBC Two Wolf Hall.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Rylance yn Ashford, Caint, i Anne (Skinner yn gynt) a David Waters, y ddau yn athrawon Saesneg. Roedd un o'i famau cu yn Wyddeles.[1] Roedd ei ddau dad-cu yn garcharorion rhyfel i Siapan yn yr Ail Ryfel Byd.[2] Mae gan Rylance chwaer o'r enw Susannah, cantores opera ac awdur, a brawd, Jonathan, sy'n gweithio fel sommelier yn y tŷ bwyty Chez Panisse yn Berkeley, Califfornia.[3] Symudodd ei rieni i'r Unol Daleithiau yn 1962, yn gyntaf i Connecticut ac wedyn i Wisconsin yn 1969, lle ddysgodd ei dad Saesneg ym Mhrifysgol Milwaukee. Mynychodd Rylance yr ysgol hon. Serennodd yn rhaf fwyaf o ddramâu'r ysgol gyda chyfarwyddwr y theatr, Dale Gutzman, gan gynnwys y brif ran mewn cynhyrchiad 1976 o Hamlet.[4] Chwaraeodd Romeo yng nghynhyrchiad Romeo and Juliet yr ysgol.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Dechreuodd Rylance ganlyn y gyfarwyddwraig, cyfansoddwraig a dramodydd Claire van Kampen yn 1987 tra'n gweithio ar gynhyrchiad o The Wandering Jew yn y Theatr Genedlaethol, a phriodasant yn Swydd Rydychen ar 21 Rhagfyr 1989.[5] Trwy'r briodas hon, daeth yn lys-dad i'w dwy ferch o briodas flaenorol, yr actores Juliet Rylance a'r wnethurwraig ffilmiau Nataasha van Kampen. Bu Nataasha farw yng Ngorffennaf 2012 yn 28 mlwydd oed, yn dilyn hyn, tynnodd Rylance yn ôl o'i ran yn seremoni agoriadol Gemau'r Olympaidd 2012. Cymerodd Kenneth Branagh ei le.[6][7]
Mae Rylance wedi bod yn gefnogwr o'r sefydliad ar gyfer hawliau brodorol Survival International am lawer o flynyddoedd.[8] Ef yw crëwr a chyfarwyddwr "We Are One", digwyddiad codi arian a gymerodd le yn Theatr yr Apollo ym mis Ebrill 2010. Cynhwysodd y noson berfformiadau o ryddiaith a barddoniaeth lwythol o rai o actorion a cherddorion blaenaf y byd.
Mae Rylance yn noddwr i Peace Direct a Stop the War Coalition.[9] Perfformiodd fywyd a geiriau Henri, dyn sy'n byw yng nghanol rhyfel yn nwyrain Congo, yn ystod cyflwyniad yn Ninas Efrog Newydd yn 2011. Mae hefyd yn noddwr i Gwmni Theatr The Outside Edge, sy'n gweithio trwy greu theatr a drama gyda phobl sydd wedi cael eu heffeithio gan gamddefnydd sylweddau. Darpara ymyraethau mewn triniaeth cyffuriau ac alcohol a chyfleusterau cyffredinol i'r gymuned ar draws Prydain. Cynhyrcha hefyd cynyrchiadau theatr proffesiynol i'r cyhoedd sy'n cymryd lle mewn theatrau, theatrau stiwdio a chanolfannau celfyddydau.
Daeth Rylance yn noddwr i LIFT (Gŵyl Theatr Ryngwladol Llundain) yn 2013. Tra'n sôn am yr ŵyl, meddai: "I feel LIFT has done more to influence the growth and adventure of English theatre than any other organisation we have."[10]
Daeth Rylance yn noddwr i'r prosiect Speech Bubbles Archifwyd 2016-03-06 yn y Peiriant Wayback gan Gwmni Theatr Swigen Llundain yn 2015. “I found a voice through making theatre and am proud to be the patron of Speech Bubbles, which helps hundreds of children to do the same.”
Ffilmyddiaeth
[golygu | golygu cod]Ffilmiau
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
1985 | The McGuffin | Gavin | |
1987 | Hearts of Fire | Fizz | |
1991 | The Grass Arena | John Healy | |
1991 | Prospero's Books | Ferdinand | |
1995 | Institute Benjamenta | Jakob von Gunten | |
1995 | Angels & Insects | William Adamson | |
2000 | William Shakespeare | Cyfarwyddwr artistig | Glôb Shakespeare |
2001 | Intimacy | Jay | |
2008 | The Other Boleyn Girl | Thomas Boleyn | |
2011 | Blitz | Bruce Roberts | |
2011 | Anonymous | Henry Condell | |
2013 | Days and Nights | Stephen | |
2015 | The Gunman | Cox | |
2015 | Bridge of Spies | Rudolf Abel | Gwobr yr Academi ar gyfer yr Actor Cefnogol Gorau
Gwobr AACTA International ar gyfer yr Actor Cefnogol Gorau Gwobr BAFTA ar gyfer yr Actor Gorau mewn Rôl Gefnogol |
2016 | The BFG | Yr CMM | Ôl-gynhyrchu |
Teledu
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
1985 | Wallenberg: A Hero's Story | Nikki Fodor | |
1993 | Love Lies Bleeding | Conn | |
1995 | Loving | Charlie Raunce | |
1995 | Hamlet | Hamlet | |
1997 | Henry V | King Henry V | |
2001 | Changing Stages | Himself | |
2003 | Leonardo | Leonardo da Vinci | |
2003 | Richard II | Richard II | |
2005 | The Government Inspector | David Kelly | |
2014 | Bing | Flop (llais) | |
2015 | Wolf Hall | Thomas Cromwell |
Theatr
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Cyfnod | Perfformiad Theatraidd | Cymeriad Theatraidd | Theatr y Perfformiad |
---|---|---|---|---|
1981 | Desperado Corner | Bazza | Theatr y Citizens, Glasgow | |
1982 | The Tempest | Ariel | ||
1989 | Hamlet | Hamlet | (Perfformio gyda'r Cwmni Brenhinol Shakespeare) | |
Romeo and Juliet | Romeo | |||
1991 | Hamlet | Hamlet | (Perfformio gyda'r Theatr Repertory Americanaidd) | |
The Seagull | Treplev | |||
1993 | Henry V | Henry V | TFANA, Efrog Newydd | |
Much Ado About Nothing | Benedick | Theatr y Queens | ||
1994 | As You Like It | Touchstone | TFANA, Efrog Newydd | |
True West | Lee/Austin | Donmar Warehouse | ||
1995 | Macbeth | Macbeth | Theatr y Greenwich | |
2000 | Live x 3 | Henry | Theatr Frenhinol Genedlaethol | |
2007 | Boeing Boeing | Robert | Theatr Gomedi | |
I am Shakespeare | Frank | Taith y DU | ||
2008 | Peer Gynt | Peer Gynt | Theatr y Guthrie, Minneapolis | |
Boeing Boeing | Robert | Theatr y Longacre T, Dinas Efrog Newydd | ||
2009 | Gorff–Awst | Jerusalem gan Jez Butterworth | Johnny Byron | Theatr y Llys Brenhinol |
Hyd–Rhag | Endgame gan Samuel Beckett | Hamm | Theatr y Duchess | |
2010 | Ion–Ebr | Jerusalem gan Jez Butterworth | Johnny Byron | Theatr yr Apollo |
Meh–Awst | La Bete gan David Hirson | Valere | Theatr Gomedi | |
Medi–Chwe | Theatr y Music Box, Broadway | |||
2011 | ||||
Ebr–Awst | Jerusalem gan Jez Butterworth | Johnny Byron | Theatr y Music Box, Broadway | |
Hyd–Ion | Theatr yr Apollo | |||
2012 | Tach–Chwe 2013 | aryneilio yn Richard III a Twelfth Night | Richard III / Olivia | Theatr yr Apollo |
2013 | Ebr–Mai |
Nice Fish gan Mark Rylance a Louis Jenkins |
Ron | Theatr y Guthrie |
2013 | Hyd–Chwe | aryneilio yn Richard III a Twelfth Night | Richard III / Olivia | Theatr y Belasco, Broadway |
2014 | ||||
2015 | Chwe–Maw | Farinelli and the King gan Claire van Kampen | King Philippe V | Chwaraedy Sam Wanamaker |
Medi-Rhag | Theatr y Dug Efrog | |||
2016 | Ion-Chwe | Nice Fish gan Mark Rylance a Louis Jenkins | Ron | St. Ann's Warehouse[11] |
Glôb Shakespeare
[golygu | golygu cod]Ynghyd â pherfformiadau llwyfan Rylance, mae wedi ymddangos yn rheolaidd yng Glôb newydd Shakespeare yn Southwark, Llundain ar lan ddeheuol Afon Tafwys.
Blwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
1996 | The Two Gentlemen of Verona | Proteus | |
1997 | A Chaste Maid in Cheapside | Mr. Allwit | |
1997 | Henry V | Henry V | |
1998 | The Merchant of Venice | Bassanio | |
1998 | The Honest Whore | Hippolito | |
1999 | Antony and Cleopatra | Cleopatra | |
2000 | Hamlet | Hamlet | |
2001 | Cymbeline | Cloten | |
2002 | The Golden Ass | Lucius | |
2002 | Twelfth Night | Olivia | |
2003 | Richard II | Richard II | |
2004 | Measure for Measure | Dug Vincentio | |
2005 | The Tempest | Prospero Stephano | |
2005 | The Storm | Daemones Labrax | |
2012 | Richard III | Richard III | |
2012 | Twelfth Night | Olivia |
Gwobrau ac enwebiadau
[golygu | golygu cod]Mae Rylance wedi derbyn llawer o enwebiadau a gwobrau ar gyfer ei berfformiadau, gan gynnwys Gwobrau Tony a BAFTA. Yn yr 88ain Gwobrau'r Academi, enillodd Rylance Wobr yr Academi ar gyfer yr Actor Cefnogol Gorau ar gyfer ei berfformiad fel Rudolf Abel yn Bridge of Spies.[12]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Mark Rylance: Play – A Recollection in Pictures and Words of the First Five Years of Play at Shakespeares's Globe Theatre. Photogr.: Sheila Burnett, Donald Cooper, Richard Kolina, John Tramper. Shakespeare's Globe Publ., Llundain, DU. 2003. ISBN 0-9536480-4-4.
- The Wisdom of Shakespeare Series gan Peter Dawkins (Rhagair Mark Rylance):
- The Wisdom of Shakespeare in As You Like It. I.C. Media Productions, 1998. Clawr papur. ISBN 0-9532890-1-X.
- The Wisdom of Shakespeare in The Merchant of Venice. I.C. Media Productions, 1998. Clawr papur. ISBN 0-9532890-0-1.
- The Wisdom of Shakespeare in Julius Caesar. I.C. Media Productions, 1999. Clawr papur. ISBN 0-9532890-2-8.
- The Wisdom of Shakespeare in The Tempest. I.C. Media Productions, 2000. Clawr papur. ISBN 0-9532890-3-6.
- The Wisdom of Shakespeare in Twelfth Night. I.C. Media Productions, 2002. Clawr papur. ISBN 0-9532890-4-4.
- Peter Dawkins. The Shakespeare Enigma (Foreword by Mark Rylance). Polair, DU. 2004. Clawr papur â lluniau, 476pp. ISBN 0-9545389-4-3.
- John Abbott. Improvisation In Rehearsal (Rhagair gan Mark Rylance). Nick Hern Books, UK. 2009. Clawr papur, 256pp. ISBN 978-1-85459-523-2.
- Dave Patrick. The View Beyond: Sir Francis Bacon: Alchemy, Science, Mystery (Y Gyfres 'View') (Rhagair gan Mark Rylance, Ervin Lazslo, Rose Elliot). Deep Books, UK. 2011. Clawr papur, 288pp. ISBN 978-1-905398-22-5.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Mark Rylance: 'I remember bringing food to trees.
- ↑ "Mark Rylance: from Wolf Hall courtier to Steven Spielberg spy" Archifwyd 2016-03-06 yn y Peiriant Wayback.
- ↑ Cooke, Rachel (30 Mehefin 2013). "Mark Rylance: You Have To Move Into The Chaos". The Guardian. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2013.
- ↑ "The Milwaukee Journal – Google News Archive Search". google.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-29. Cyrchwyd 2016-03-26.
- ↑ Schulman, Michael (18 Tachwedd 2013). "Play On". The New Yorker. Cyrchwyd 22 Ionawr 2015.
- ↑ Baker, Richard Anthony (1 Awst 2012). "Nataasha van Kampen". The Stage.
- ↑ Brown, Mark (6 Gorffennaf 2012). "Mark Rylance exits from Olympics opening after step-daughter's death". The Guardian.
- ↑ "We Are One a fundraising evening in aid of Survival International with performance of tribal prose and poetry from leading actors and musicians at Apollo Theatre 18 April". Londontheatre.co.uk. 8 Mawrth 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-09. Cyrchwyd 9 Mehefin 2014.
- ↑ Stop the War Coalition, "Stop the War Patrons, Officers and Steering Committee", 2016.
- ↑ LIFT website "Olivier and Tony Winner Mark Rylance announced as LIFT Patron" Archifwyd 2013-11-01 yn y Peiriant Wayback, 23 Mai 2013.
- ↑ "Nice Fish - St Ann's Warehouse". St Ann's Warehouse (yn Saesneg). Cyrchwyd 2015-11-02.
- ↑ "Actor in a Supporting Role". Oscar.go.com. Cyrchwyd 29 Chwefror 2016.