Malacara
Enghraifft o'r canlynol | ceffyl |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ceffyl oedd Malacara (bu farw 1909). Enillodd le yn hanes y Wladfa trwy naid a achubodd fywyd ei farchog, John Daniel Evans, pan ymosodwyd arnynt gan Indiaid ar daith i'r Andes.
Roedd John Daniel Evans yn dair oed pan gyrhaeddodd Patagonia gyda'r mewnfudwyr Cymreig cyntaf yn 1865. Fel y tyfodd y Wladfa, prinhaodd tir ffrwythlon yn rhan isaf Dyffryn Camwy, a bu gan John Evans ran amlwg yn y gwaith o fforio'r rhan uchaf o'r dyffryn i gyfeiriad yr Andes, gan ddefnyddio sgiliau a ddysgodd gan y brodorion Tehuelche. Yn Nhachwedd 1883 arweiniodd grŵp tua'r Andes, yn chwilio am aur ac am dir ffrwythlon. Ar y ffordd, deuthant ar draws mintai o filwyr yn dwyn carcharorion Tehuelche i Valcheta, rhan o un o ymgyrchoedd olaf Concwest yr Anialwch. Penderfynodd rhai o'r grŵp droi yn ôl, ond aeth pedwar yn eu blaenau dan arweiniad John Evans.
Erbyn diwedd Chwefror 1884, roeddynt wedi cyrraedd Afon Gualjaina, ac yno roedd tri aelod o'r llwyth oedd dan arweiniad y cacique Foyel. Roedd un o'r tri, Juan Salvo, yn eu hadnabod, a dywedodd ei fod yn amau eu bod yn ysbïo dros y fyddin, Ceisiodd ei harwain at Foyel, a phan wrthodasant, datblygodd cweryl. Penderfynodd y pedwar ddychwelyd i ran isaf Dyffryn Camwy, 600 km i ffwrdd, gyda rhyfelwyr Foyel yn ei dilyn. Ar 4 Mawrth ymosodwyd arnynt, a lladdwyd tri chydymaith Evans. Sbardunodd John Evans ei geffyl, Malacara, tua dibyn serth, a llamodd Malacara i lawr y dibyn ac i fyny yr ochr arall. Ni feiddiai yr un o'r ymosodwyr geisio ei ddilyn, a llwyddodd John Evans i ddychwelyd i'r Wladfa yn ddiogel. Cafodd y man lle bu'r ymosodiad yr enw Dyffryn y Merthyron (Sbaeneg:Valle de los Mártires).
Aeth Evans ymlaen i fod a rhan bwysig yn y gwaith o sefydlu yr ardal a gafodd yr enw Cwm Hyfryd yn yr ardal yma, a bu hyn yn ei dro yn elfen bwysig yn y penderfyniad fod yr ardaloedd hyn yn dod yn rhan o'r Ariannin yn hytrach na Tsile. Bu Malacara fyw hyd 1909, gan farw yn 31 oed. Claddodd Evans ef ger Trevelin mewn bedd gyda'r arysgrif "Aquí yacen los restos de mi caballo Malacara que me salvó la vida en el ataque de los indios en el Valle de los Mártires 4-3-84 al regresarme de la cordillera R.I.P. John Daniel Evans" ("Yma y gorwedd gweddillion fy ngheffyl Malacara, a achubodd fy mywyd pan ymosododd yr Indiaid yn Nyffryn y Merthyron 4-3-84 pan yn dychwelyd o'r mynyddoedd"). Mae bedd Malacara yn awr yn un o atyniadau twristaidd Trevelin.