Lodnwm
Tinctur opiwm yw lodnwm[1] a ddefnyddid yn hanesyddol fel poenliniarydd a thawelydd. Fe'i wneir o fwydion crai opiwm, ac mae'n cynnwys 1 y cant morffin.[2] Cafodd y toddiant hydroalcoholig hwn ei gymysgu'n gyntaf yn Ewrop gan Paracelsus yn yr 16g. Ar y pryd, na wyddys taw cyffur caethiwus yw lodnwm. Defnyddid hyd ddiwedd y 19g i drin nifer o afiechydon. Roedd nifer o lenorion, cyfansoddwyr ac arlunwyr enwog yn cymryd lodnwm, gan gynnwys Iolo Morganwg,[3] Samuel Taylor Coleridge, Edgar Allan Poe, Modest Mussorgsky, a Thomas De Quincey.[4]
Defnydd hanesyddol yng Nghymru
[golygu | golygu cod]Cofnododd William Bulkeley, Brynddu, Llanfechell yn ei ddyddiadur fel hyn tra roedd yn aros yn Nulyn ar 25 Hydref 1735:
- The wind S.W.; rained almost all day. Paid 6/- for a pair of shoes ; paid 4d. for 1/4 dr. of opium; paid at my lodging house 4/6 for Punch.
Meddai Twm Elias[5]: “roedd ‘na ddefnyddiau meddygol pwysig iawn i opiwm (sug y pabi gwyn) ac fe’i ceid fel soled wedi ei sychu o sug y ffrwyth. Neu gellid ei doddi mewn alcohol a dŵr (cyfartaledd 1 : 1 : 1) i greu Laudanum, oedd yn fwy cyfleus ac yn gweithio’n gynt. Fel hypnotig a thawelydd (‘sedative’) roedd yn ddefnyddiol iawn i leddfu poen a thawelu rhywun oedd wedi gor- gynhyrfu. Roedd ei effeithiau astringent yn dda ar gyfer y dolur rhydd a dysentri a’i effeithiau expectorant, diafforetig, tawelyddol a gwrth-spasmodig yn ei wneud yn dda ar gyfer rhai mathau o beswch. Mae ‘na dros 20 o wahanol alcaloidiau mewn opiwm, a’r ddau fwyaf cyfarwydd erbyn heddiw ydi Codeine a Morphine. Mae’n cael ei dyfu dan drwydded mewn sawl gwlad i gyflenwi’r cyffuriau meddygol hyn ond mae ‘na gryn dyfu arno fo hefyd i gyflenwi’r farchnad gyffuriau anghyfreithlon! ‘Swn i’n feddwl mai i bwrpas meddygol yr oedd Bulkeley yn ei brynu...?
Datgelwyd yn ddiweddar bod tad yr actor enwog Kenneth Williams yn gaeth i heroine ar ffurf y moddion cyffredin Gee’s Linctus[6]