Neidio i'r cynnwys

Llyn Nadroedd

Oddi ar Wicipedia
Llyn Nadroedd
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYr Wyddfa Edit this on Wikidata
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr1,741 troedfedd Edit this on Wikidata
GerllawAfon Treweunydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.067477°N 4.098116°W Edit this on Wikidata
Map

Llyn yn Eryri, Gwynedd, yw Llyn Nadroedd. Fe'i lleolir yng Nghwm Clogwyn yn uchel ar lethrau gorllewinol Yr Wyddfa tua milltir i'r gorllewin o'r copa.[1] Llyn bychan ydyw, 1,741 troedfedd i fyny.[2]

Llyn Nadroedd (cornel chwith isaf) gyda Llyn Cwellyn yn y cefndir, o'r Wyddfa

Mae'n llyn bychan gyda dŵr tywyll a dwfn. Mae'r tir o'i gwmpas yn gorsiog ac mae glan y llyn yn greigiog. Ymddengys nad oes pysgod ynddo.[2]

Llifa ffrwd o ben gogleddol y llyn i lifo i lawr i Afon Treweunydd sy'n llifo wedyn i Llyn Cwellyn. Tua chwarter milltir i'r dwyrain o Lyn Nadroedd ceir llyn bychan arall, sef Llyn Coch.[1]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Map OS 1:50,000 Landranger 115 Caernarfon a Bangor.
  2. 2.0 2.1 Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931), tud. 176.