Neidio i'r cynnwys

Lloyd Lewis

Oddi ar Wicipedia
Lloyd Lewis
Ganwyd5 Medi 1996 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi, cyflwynydd teledu, rapiwr Edit this on Wikidata
Pwysau90 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Cyflwynydd teledu, chwaraewr rygbi a rapiwr o Gymru yw Lloyd Lewis (ganwyd 5 Medi 1996 ).[1] Mae'n chwarae rygbi saith bob ochr fel asgellwr i'r Dreigiau.

Magwyd Lewis yng Nghwmbran ac aeth i Ysgol Gymraeg Cwmbrân ac Ysgol Gyfun Gwynllyw, Pontypŵl.[2] Astudiodd am radd Llenyddiaeth Saesneg ar y cyd â'r Cyfryngau a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd[3] gan raddio yn 2019.[4]

Fel chwaraewr rygbi saith bob ochr, mae Lewis wedi cynrychioli Cymru ar y lefel Dan 18 a Dan 20. Roedd hefyd yn rhan o dîm Cymru a gyrhaeddodd dwrnamaint Saith Bob Ochr Cwpan Rygbi'r Byd a gynhaliwyd yn Ne Affrica. Cystadlodd hefd yng Ngemau'r Gymanwlad 2022.[4]

Yn 2020 enillodd le ar gynllun gan ITV ac S4C i hyfforddi newyddiadurwyr er mwyn creu deunydd ar gyfer platfform digidol Hansh. Mae wedi cyflwyno CIC, y gyfres chwaraeon i blant ar S4C.[5] Mae hefyd yn gapten tîm ar Tekkers, y cwis chwaraeon i blant.[6] Roedd yn un o gyflwynwyr rhaglen uchafbwyntiau Tafwyl 2024.[7] Roedd yn ohebydd yn crwydro'r maes ar gyfer rhaglenni teledu Eisteddfod Genedlaethol 2024.[8]

Mae'n rapiwr ac wedi cydweithio gyda Dom James ar sawl cân.[9] Mae Dom a Lloyd wedi chwarae mewn gigiau yng nghŵyl Tafwyl 2023[10] ac yn Eisteddfod Genedlaethol 2023.[11]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Websites - 3bit.co.uk, We Build. "Lloyd Lewis | Dragons Player". dragonsrfc.wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-06.
  2. Howell, Andy (2017-09-29). "The Wales rugby star who's become an internet hit as a rapper". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-06.
  3. "Datblygu a denu talent newydd i'r maes Newyddiaduraeth". www.s4c.cymru. 2020-11-05. Cyrchwyd 2024-08-06.
  4. 4.0 4.1 "Cyn-fyfyrwyr a myfyrwyr presennol Prifysgol Caerdydd sy'n cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad". Prifysgol Caerdydd. 2022-07-28. Cyrchwyd 2024-08-06.
  5. "Y chwaraewr rygbi Lloyd Lewis i gyflwyno cyfres newydd CIC ar S4C". Golwg360. 2021-09-25. Cyrchwyd 2024-08-06.
  6. "Young footballers showcase their Tekkers for S4C show". Cambrian News (yn Saesneg). 2023-12-14. Cyrchwyd 2024-08-06.
  7. "Tafwyl 2024". www.s4c.cymru. Gorffennaf 2024. Cyrchwyd 2024-08-06.
  8. Price, Stephen (2024-08-02). "S4C broadcasts all the excitement of the 2024 Rhondda Cynon Taf National Eisteddfod". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-06.
  9. "Pwy sy'n galw? Y sengl newydd sydd â neges glir am rap Cymreig". www.s4c.cymru. 2022-05-20. Cyrchwyd 2024-08-06.
  10. "Tafwyl 2023". Y Selar. 2023-07-15. Cyrchwyd 2024-08-06.
  11. "Cyhoeddi cyngherddau prif bafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol". BBC Cymru Fyw. 2023-06-05. Cyrchwyd 2024-08-06.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]