Lleweni
Gwedd
Math | plasty gwledig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Stad Lleweni |
Lleoliad | Dinbych |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 26 metr |
Cyfesurynnau | 53.2057°N 3.37591°W |
Perchnogaeth | teulu Salusbury |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Plasty yn Sir Ddinbych yw Lleweni neu Blas Lleweni. Fe'i lleolwyd tua 3 km i'r gogledd-ddwyrain o dref Dinbych, Sir Ddinbych ar lan Afon Clwyd. Bu'n gartref i aelodau teulu'r Salusbury (weithiau: 'Salbriaid') o tua 1066 hyd 1748. Cyn hynny, Llysmarchweithian oedd enw'r plasdy a'i berchennog oedd Marchweithian.
Yn ôl Hester Piozzi (1741 - 1821) roedd dros 200 o ystafelloedd yn y plas ar un adeg.
Rhai perchnogion
[golygu | golygu cod]- Syr John Salusbury
- Wedi marwolaeth Thomas Salusbury yn 1586, aeth perchnogaeth y plasdy i'w frawd
- Syr John Salusbury, (m. 1612), a briododd merch Henry Stanley, 4ydd Iarll Derby. Yna i'w fab
- Syr Henry Salusbury, Barwn Cyntaf. (m. 1632), yna i'w fab
- Syr Thomas Salusbury, Ail Farwn (m. 1643), yna i'w fab
- Syr Thomas Salusbury, Trydydd Barwn (m. 1658) ac yna i'w frawd
- Syr John Salusbury, Pedwerydd Barwn (a'r olaf), a fu farw heb etifedd yn 1684. aeth perchnogaeth y plasdy i'w chwaer
- Hester Salusbury, gwraig Syr Robert Cotton o Combermere a Lleweni, Barwn cyntaf, (m. 1712). Yna i'w fab.
- Syr Thomas Cotton of Combermere a Lleweni, Ail farwn (m. 1715). Ac yna i...
- Syr Robert Salusbury Cotton, Trydydd Barwn (m. 1748). Dim etifedd ac aeth perchnogaeth y plasdy i'w frawd Sir Lynch Cotton, ac yna i'w fab yntau
- Syr Robert Salusbury Cotton 5ed Bart, a'i fab Stapleton Cotton, 1st Viscount Combermere - a werthodd y plasdy i William Lewis Hughes, Barwn Dinorben.
Dymchwel rhannau
[golygu | golygu cod]Dymchwelwyd rhannau o Blas Lleweni gan William Lewis Hughes er mwyn atgyweirio plasdy arall a oedd ganddo, sef Neuadd Cinmel (Sylwer: nid Parc Cinmel).
Adeiladau allanol
[golygu | golygu cod]Ar un cyfnod roedd yma ddiwydiant cannu, sef gwynnu dillad mewn bleach neu gemegolyn tebyg.
-
Hen adeiladau'r gwaith cannu yn 2006.
-
Yr hen goetsiws, ar ei newydd wedd yn 2009 (bellach yn fflatiau)
-
Y coetsiws o'r ochr
-
Y plasty o ongl arall; allan o A tour in Wales (1781) gan Thomas Pennant
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Bachymbyd, plasty ger Rhuthun a sefydlwyd gan Pyrs Salbri.
- Gwaith Cannu Lleweni
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Noson lawen yn Lleweni, 13 Chwefror 1953[dolen farw] - Delwedd oddi ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.