Cân a berfformir gan Jedward a gynrychiolodd Iwerddon yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2011 yn Düsseldorf, yr Almaen yw "Lipstick". Dyma'r sengl gyntaf o'u hail albwm. Dewiswyd y gân ar 11 Chwefror 2011 ar sioe Wyddelig Eurosong 2011 allan o bum o artistiaid.[1][2] Daeth y gân wythfed yn rownd derfynol Eurovision 2011 gyda 119 pwynt. Cafodd y gân 12 pwynt oddi wrth Denmarc, y Deyrnas Unedig a Sweden. Yn Awstralia, pleidleisiodd y wlad ar wahân ac oedd "Lipstick" eu henillwr.[3]