Le nozze di Figaro
Enghraifft o'r canlynol | gwaith drama-gerdd |
---|---|
Iaith | Eidaleg |
Dyddiad cyhoeddi | 1785 |
Dechrau/Sefydlu | 1785 |
Genre | opera buffa, opera |
Cyfres | list of operas by Wolfgang Amadeus Mozart |
Cymeriadau | Figaro, Cherubino, Iarll Almaviva, Marcellina, Bartolo, Basilio, Don Curzio, Barbarina, Dwy fenyw, Susanna, Iarlles Rosina Almaviva, Antonio |
Yn cynnwys | Agorawd (priodas Figaro), Non più andrai, Se vuol ballare, Voi che sapete |
Libretydd | Lorenzo Da Ponte |
Lleoliad y perff. 1af | Burgtheater |
Dyddiad y perff. 1af | 1 Mai 1786 |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Cyfansoddwr | Wolfgang Amadeus Mozart |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Opera buffa (comedi) gan Wolfgang Amadeus Mozart, gyda libretto gan Lorenzo da Ponte, yw Le nozze di Figaro, (Saesneg: The Marriage of Figaro) K. 492. Perfformiwyd gyntaf ar 1 Mai 1786, yn y Burgtheater, Wien. Mae libreto yr opera wedi'i seilio ar y comedi gan Pierre Beaumarchais, La folle journée, ou le Mariage de Figaro ('Y Diwrnod Gwyllt, neu Priodas Figaro'). Mae'n datgan stori am y gweision Figaro a Susanna sy'n llwyddo i brodi, gan ddymchwel ymdrechion eu cyflogwr, y Cownt Almaviva i gamarwain Susanna a dysgu iddo wers am ffyddlondeb.
Ystyrir Le nozze di Figaro un o gyfansoddiadau gorau opera,[1] ac mae'n gonglfaen y repertoire sy'n ymddangos yn gyson ymysg y deg opera sydd wedi'u perffromio'r mwyaf aml, yn ôl Operabase.[2]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Mae Le nozze di Figaro ("Priodas Figaro") yn opera a gyfansoddwyd gan Wolfgang Amadeus Mozart ym 1786 gyda libreto Eidalaidd a ysgrifennwyd gan Lorenzo Da Ponte. Mae'r opera yn adrodd hanes Figaro i gadw ei dyweddi Susanna rhag eu meistr, Ardalydd Almaviva, sy'n credu bod gan feistr hawl i gael rhyw gyda'i morynion ar noswyl eu priodas. Mae libreto'r opera yn seiliedig ar gomedi llwyfan gan Pierre Beaumarchais, La folle journée, ou le Mariage de Figaro ("Y diwrnod gorffwyll," neu "Briodas Figaro"), a berfformiwyd gyntaf ym 1784. Mae'n adrodd sut bu'r gweision, Figaro a Susanna, llwyddo priodi, gan rwystro ymdrechion eu cyflogwr ofer, Ardalydd Almaviva, i lathludo Susanna a rhoi gwers iddo mewn pwysigrwydd ffyddlondeb.
Mae'r sioe yn gonglfaen i'r repertoire opera ac mae'n ymddangos yn gyson ymhlith y deg uchaf yn rhestr Operabase o'r operâu a berfformir amlaf.[3]
Hanes perfformio
[golygu | golygu cod]Perfformiwyd Le nozze di Figaro am y tro cyntaf yn y Burgtheater, Fienna ar 1 Mai 1786 o dan arweiniad Mozart, yn arwain o'r allweddell, fel oedd arfer y diwrnod.[4] Ar ôl y ddau berfformiad gyntaf, fe arweiniodd Joseph Weigl. Chwaraewyd rhan Figaro gan Francesco Benucci, rhan Susanna gan Nancy Storace a rhan Ardalydd Almaviva gan Stefano Mandini yn y perfformiad cyntaf. Cafwyd naw perfformiad o'r cynhyrhciad cyntaf yn 1786.[5]
Er nad oedd cyfanswm o naw perfformiad yn ddim byd i gymharu â llwyddiannau diweddarach Mozart gyda Die Zauberflöte, a gafodd ei berfformio am fisoedd bob yn ail ddiwrnod[6], ystyrir y perfformiad cyntaf yn llwyddaint. Fe olygodd gymeradwyaeth o'r gynulleidfa ar y noson cyntaf cafodd pum aria eu hailberfformio, a saith ar 8 Mai.[4] Roedd Joseph II, pwy oedd yn ogystal yn Ymerawdwr, yn rheoli y Burgtheater, yn pryderi am hyd yr opera a chyfarwyddodd ei weinydd:
To prevent the excessive duration of operas, without however prejudicing the fame often sought by opera singers from the repetition of vocal pieces, I deem the enclosed notice to the public (that no piece for more than a single voice is to be repeated) to be the most reasonable expedient. You will therefore cause some posters to this effect to be printed.[7]
Cafodd y posteri eu hargraffu a'u rhoi yn y Burgtheater mewn amser ar gyfer y trydydd perfformiad ar 24 Mai.
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]Cymeriad | Llais | Cast perfformiad cyntaf, 1 Mai 1786
Arweinydd: W. A. Mozart |
---|---|---|
Y Cownt Almaviva | bariton | Stefano Mandini |
Y Cowntes Rosina Almaviva | soprano | Luisa Laschi |
Susanna, morwyn y gowntes | soprano | Nancy Storace |
Figaro, gwas i'r cownt | bas | Francesco Benucci |
Cherubino, gwas bach i'r cownt | soprano (rôl trwser) | Forotea Bussani |
Marcellina, gwraig cadw tŷ Doctor Bartolo | soprano | Maria Mandini |
Bartolo, doctor o Seville, cyfreithiwr | bas | Francesco Bussani |
Basilio, athro cerddoriaeth | tenor | Michael Kelly |
Don Curzio, barnwr | tenor | Michael Kelly |
Barbarina, merch Antonio, cefnither i Susanna | soprano | Anna Gottlieb |
Antonio, garddwr y cownt, ewythr Susanna | bas | Francesco Bussani |
Corws y werin, pentrefwyr a gwesion |
Eitemau Cerddorol
[golygu | golygu cod]- Agorawd - Cerddorfa
Act 1
Act 2
|
Act 3
Act 4
|
Offeryniaeth
[golygu | golygu cod]Sgoriwyd Le Nozze di Figaro ar gyfer dau ffliwt, dau obo, dau fasŵn, dau glarinét, dau gorn ffrengig, timpani, a llinynnau. Mae offeryn allweddell (piano neu harpsichord), a soddgwrth yn cyfeilio y recitativi secchi (darnau recitiatif). Nid yw offerinyniaeth y recitatif wedi'i gynnwys yn y sgôr, felly ma'en ddewis yr arweinydd a'r perfromwyr. Mae perfformiad o'r opera yn dueddol o bara am 3 awr.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Le nozze di Figaro - disgyddiaeth
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "The 20 Greatest Operas of All Time". Classical Music.
- ↑ "Statistics for the five seasons 2009/10 to 2013/14". Operabase.
- ↑ "Statistics for the five seasons 2009/10 to 2013/14". Operabase. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 1 Hydref 2018.
- ↑ 4.0 4.1 Deutsch 1965, t. 272
- ↑ Yr rhain oedd: 3, 8, 24 Mai; 4 Gorffennaf, 28 Awst, 22 (efallai 23) Medi, 15 Tachwedd, 18 Rhagfyr Deutsch 1965, t. 272
- ↑ Solomon 1995
- ↑ 9 May 1786, o Deutsch 1965, t. 272