Neidio i'r cynnwys

Keith Barnes

Oddi ar Wicipedia
Keith Barnes
Ganwyd30 Hydref 1934 Edit this on Wikidata
Port Talbot Edit this on Wikidata
Bu farw8 Ebrill 2024 Edit this on Wikidata
Sydney Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAwstralia, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r gynghrair Edit this on Wikidata
Gwobr/auAustralian Sports Medal, Aelod o Urdd Awstralia Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auAustralia national rugby league team Edit this on Wikidata
SafleCefnwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Chwaraewr rygbi'r gynghrair o Awstralia a aned yng Nghymru oedd William Keith Barnes AC (30 Hydref 19348 Ebrill 2024), a adnabyddir hefyd wrth y llysenw "Golden Boots".

Cafodd Barnes ei eni ym Mhort Talbot. Chwaraeodd yn y 1950au a'r 1960au; hyfforddodd yn y 1960au, 1970au a 1980au. Roedd e'n gefnwr i dîm cenedlaethol Awstralia mewn 14 prawf rhwng 1959 a 1966, ac fel capten cenedlaethol ar 12 achlysur. Roedd yn cael ei adnabod fel "Golden Boots" oherwydd ei allu eithriadol i gicio gôl. Ar ôl ymddeol fel chwaraewr daeth yn ddyfarnwr ac yn ddiweddarach bu'n cyd-sylwebu ar Gwpan Amco ar Network Ten yn y 1970au. Mae'n cael ei ystyried yn un o bêl-droedwyr gorau'r genedl yn yr 20fed ganrif.

Roedd Barnes yn 15 oed pan ymfudodd ei deulu i Awstralia ym 1950 i Wollongong lle dysgodd Barnes y gêm yn Ysgol Uwchradd Wollongong. Graddiwyd ef gan glwb Wollongong yn 19 oed fel hanner cefnwr ac yn 1954 cynrychiolodd ar gyfer Country ac yn y De Rhanbarthau yn erbyn y Great Britain Lions teithiol.[1]

Bu farw yn 89 oed.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Pollard, Jack (1965). Gregory's Guide to Rugby League (yn Saesneg). Awstralia: Grenville Publishing. p152A.
  2. "Keith Barnes Dead: Rugby League's Golden Boots". BioGeek. 9 Ebrill 2024. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-04-09. Cyrchwyd 2024-04-10.