Neidio i'r cynnwys

Kamala Harris

Oddi ar Wicipedia
Kamala Harris
Portread swyddogol, 2021
49eg Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau
Deiliad
Cychwyn y swydd
20 Ionawr 2021
ArlywyddJoe Biden
Rhagflaenwyd ganMike Pence
Seneddwr yr Unol Daleithiau
dros California
Yn ei swydd
3 Ionawr 2017 – 18 Ionawr 2021
Rhagflaenwyd ganBarbara Boxer
Dilynwyd ganAlex Padilla
32eg Twrnai Cyffredinol o California
Yn ei swydd
3 Ionawr 2011 – 3 Ionawr 2017
LlywodraethwrJerry Brown
Rhagflaenwyd ganJerry Brown
Dilynwyd ganXavier Becerra
27eg Atwrnai Dosbarth o San Francisco
Yn ei swydd
8 Ionawr 2004 – 3 Ionawr 2011
Rhagflaenwyd ganTerence Hallinan
Dilynwyd ganGeorge Gascón
Manylion personol
GanwydKamala Devi Harris
(1964-10-20) 20 Hydref 1964 (59 oed)
Oakland, California, UDA
Plaid wleidyddolDemocratwr
PriodDoug Emhoff (pr. 2014)
Llofnod

Twrnai, gwleidydd Americanaidd a 49eg Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau yw Kamala Devi Harris (ganed 20 Hydref 1964). Hi yw'r Is-Arlywydd benywaidd cyntaf yn ogystal a'r cyntaf o dras Affricanaidd a De Asia Americanaidd.

Ganed Harris yn Oakland, Califfornia, a graddiodd o Brifysgol Howard a Phrifysgol California, Coleg y Gyfraith Hastings.

Rhwng 2017 a 2021 roedd hi'n cynrychioli California fel is-seneddwr yr Unol Daleithiau. Yn aelod o'r Blaid Ddemocrataidd, bu gynt yn 27ain Twrnai Dosbarth San Francisco rhwng 2004 a 2011 a 32ain Twrnai Cyffredinol California rhwng 2011 a 2017. Cafodd ei ethol i'r Senedd yn etholiadau 2016 gan ddod yn yr ail fenyw Americanaidd Affricanaidd a'r gyntaf o gefndir Dde Asia Americanaidd i wasanaethu yn Senedd yr Unol Daleithiau.[1]

Ymgeisyddiaeth arlywyddol 2020

[golygu | golygu cod]

Ar ôl misoedd o ddamcaniaethu, fe gyhoeddodd Harris ei hymgyrch am arlywydd yr Unol Daleithiau yn yr etholiad arlywyddol 2020 ar 21 Ionawr 2019.[2] Yn ystod y 24 awr gyntaf ar ôl ei chyhoeddiad, roedd Harris wedi cyrraedd record Bernie Sanders yn 2016 am godi'r swm mwyaf o arian mewn diwrnod.[3] Fodd bynnag, torrodd Sanders y record hon yn ddiweddarach ar ôl cyhoeddi ei ymgyrch arlywyddol 2020 ei hun.[4] Collodd Harris yr enwebiad hynny gyda Joe Biden yn dod i'r brig. Cafodd Harries ei nodi fel un o'r 'Top tier' gall Biden dewis ar gyfer ei bartner arlywyddol neu ymgeisydd Is-arlywydd.[5][6]

Ar 11 Awst 2020 ddewisodd Biden Harris fel ymgeisydd Is Arlywydd ar gyfer yr Democratiaid yn etholiad 2020.[7] Ar 7 Tachwedd 2020, daeth cyhoeddiad am bleidleisiau a gyfrwyd yn Philadelphia, Pennsylvania. Cyfrifwyd felly fod Biden a Harris wedi ennill y dalaith gyda mwyafrif o dros 0.5% a felly sicrhau dros 270 pleidlais yn y coleg etholiadol.[8]

Harries gyda'r Cawcws cynghresol Menywod Du

Ymgeisyddiaeth Arlywyddol 2024

[golygu | golygu cod]

Ym mis Gorffennaf 2024, tynnodd yr Arlywydd Biden yn ôl o'r gystadleuaeth i ennill enwebiad arlywyddol y Blaid Ddemocrataidd. Dwedodd y byddai'n cymeradwyo'r Is-Arlywydd Harris fel yr ymgeisydd newydd.[9] Ar 3 Awst, dewiswyd Harris yn ffurfiol fel enwebai'r Democratiaid. Hi yw'r fenyw ddu gyntaf a'r fenyw gyntaf o Dde Asia i sefyll ar ran plaid wleidyddol fawr yn yr Unol Daleithiau.[10] Ar 6 Awst, Harris mai llywodraethwr Minnesota, Tim Walz, fyddai hi ffrind rhedeg.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "My Story | U.S. Senator Kamala Harris of California". www.harris.senate.gov (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-14. Cyrchwyd 2020-08-03.
  2. CNN, Eric Bradner. "Kamala Harris signs book deal amid 2020 speculation". Cyrchwyd 12 Hydref 2018.
  3. "Kamala Harris raises $1.5 million in first 24 hours; ties record set by Sanders in 2016". Cyrchwyd 23 Ionawr 2019.[dolen farw]
  4. "Bernie Sanders raises 6 million in first 24 hours of campaign". Cyrchwyd 25 Chwefror 2019.
  5. Perks, Ashley (2020-07-29). "VP hopefuls jockey for position as Biden's final decision nears". TheHill (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-08-03.
  6. Laura Pullman, Philip Sherwell. "Veep hopeful Kamala Harris has history to rival Obama's" (yn Saesneg). ISSN 0140-0460. Cyrchwyd 2020-08-03.
  7. "Y ddynes groenddu Kamala Harris fyddai Dirprwy Arlywydd Joe Biden". Golwg360. 2020-08-12. Cyrchwyd 2020-08-12.
  8. Joe Biden yw enillydd ras arlywyddol yr Unol Daleithiau , Golwg360, 7 Tachwedd 2020.
  9. Shear, Michael (21 Gorffennaf 2024). "Biden Drops Out of Presidential Race, Endorses Harris". The New York Times (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Gorffennaf 2024. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2024.
  10. "Dewis Kamala Harris yn ffurfiol fel enwebai'r Democratiaid yn yr Unol Daleithiau". newyddion.s4c.cymru. 2024-08-03. Cyrchwyd 2024-08-05.
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Mike Pence
Is-Arlywydd Unol Daleithiau America
20 Ionawr 2021 – presennol
Olynydd:
deiliad
Cyngres yr Unol Daleithiau
Rhagflaenydd:
Barbara Boxer
Seneddwr dros Delaware
gyda Dianne Feinstein

3 Ionawr 201718 Ionawr 2021
Olynydd:
Alex Padilla