Neidio i'r cynnwys

John Nettles

Oddi ar Wicipedia
John Nettles
GanwydJohn Vivian Drummond Nettles Edit this on Wikidata
11 Hydref 1943 Edit this on Wikidata
St Austell Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cernyw Cernyw
Alma mater
Galwedigaethactor teledu, actor, llenor, hanesydd, actor llwyfan, actor ffilm Edit this on Wikidata
Arddullcomedi Shakespearaidd Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata

Mae John Nettles (ganed 11 Hydref 1943) yn actor poblogaidd sy'n enwog am ei rannau yn y cyfresi ditectif Bergerac a Midsomer Murders fel DCI Tom Barnaby.[1]

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Nettles yn St Austell , Cernyw , ym 1943. Roedd ei fam naturiol yn nyrs Wyddelig a ddaeth i weithio ym Mhrydain Fawr yn ystod yr Ail Ryfel Byd . Cafodd ei fabwysiadu adeg ei eni gan y saer Eric Nettles a'i wraig Elsie. Mynychodd Ysgol Ramadeg St Austell. Ym 1962, astudiodd hanes ac athroniaeth ym Mhrifysgol Southampton. Yno fe berfformiodd gyntaf fel actor, ac ar ôl graddio ymunodd â Theatr y Royal Court.[2]

Gyrfa actio

[golygu | golygu cod]

Wedi chware man rannau mewn ffilmiau a rhaglenni teledu megis A Family at War, The Liver Birds, Dickens of London a Robin of Sherwood enillodd Nettles y rhan arweiniol yn y rhaglen ditectif Bergerac ym 1981. Rhedodd Bergerac, oedd wedi ei osod ar Ynys Jersy, am 87 pennod hyd 1991. Ar ôl i'r gyfres dod i ben Bergerac gwnaeth Nettles bum tymor gyda'r Royal Shakespeare Company, yn ymddangos yn The Winter's Tale, The Merry Wives of Windsor, Julius Caesar, Richard III a The Devil is Ass. Ym 1992, ymddangosodd mewn pennod o Boon.

Ym 1995, dechreuodd Nettles chwarae rhan Tom Barnaby yn y gyfres ditectif Midsomer Murders. Ym mis Chwefror 2009, cyhoeddwyd bod Nettles wedi penderfynu gadael y gyfres Roedd ei ymddangosiad olaf ar y sgrin ar 2 Chwefror 2011, wedi ymddangos mewn 81 o benodau.[3]

Yn 2016 a 2017, roedd Nettles yn chware rhan Ray Penvenen yn ail a thrydydd tymor y ddrama hanesyddol Poldark.

Yn 1966, priododd Nettles â'i wraig gyntaf, Joyce. Ganwyd eu merch, Emma Martins, ym 1970 ac yn ddiweddarach symudodd i Jersey gyda'i thad. Priododd ei ail wraig, Cathryn Sealey, ym mis Gorffennaf 1995 yn Evesham , Swydd Gaerwrangon.

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]

Penodwyd Nettles yn Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) yn Anrhydeddau Pen-blwydd 2010 . [17] Ar 21 Medi 2012 dyfarnwyd doethuriaeth er anrhydedd iddo gan Brifysgol Plymouth. Cytunodd hefyd i fod yn noddwr elusen yn Nyfnaint The Mare and Foal Sanctuary ym mis Gorffennaf 2014.[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "John Nettles Biography". www.acorndvd.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-03-29. Cyrchwyd 2020-03-29.
  2. "Profile: John Nettles". BBC News. 2010-06-12. Cyrchwyd 2020-03-29.
  3. Holmwood, Leigh (2009-02-12). "John Nettles to quit ITV1's Midsomer Murders". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2020-03-29.
  4. "How a donkey brought Midsomer Murders star John Nettles to a new life in Devon". Devon Life. Cyrchwyd 2020-03-29.