John McCain
John McCain | |
---|---|
Ganwyd | John Sidney McCain III 29 Awst 1936 Coco Solo |
Bu farw | 25 Awst 2018 o glioblastoma Cornville |
Man preswyl | Cornville |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, swyddog yn y llynges, hunangofiannydd, peilot awyren ymladd, hedfanwr, sgriptiwr, llenor, awdur, cyflwynydd teledu |
Swydd | Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Tad | John S. McCain, Jr. |
Mam | Roberta McCain |
Priod | Carol McCain, Cindy McCain |
Plant | Meghan McCain, John Sidney McCain IV, James R. D. McCain, Bridget McCain, Sidney McCain |
Gwobr/au | Y Groes am Hedfan Neilltuol, Medal y Seren Efydd, Officer of the Legion of Merit, Calon Borffor, Medal Aer, Commandeur de l'ordre du Ouissam alaouite, Silver Star, Gwobr Rhyddid, Gwobr Proffil Dewrder, Medal Gwasanaeth Haeddiannol, Prisoner of War Medal, Combat Action Ribbon, Navy & Marine Corps Commendation Medal, National Order of Vietnam, Urdd Croes Terra Mariana, Dosbarth 1af, Cadlywydd gyda Seren Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Llengfilwr y Lleng Teilyndod, Officier de la Légion d'honneur, Golden Plate Award, Distinguished Service Cross, Medal y Gwasanaeth Amddiffyn Cenedlaethol, Vietnam Service Medal, Urdd yr Eryr Gwyn, Order of National Hero, St. George's Order of Victory, Urdd y Tair Seren, Ail Dosbarth, Order of Liberty, Navy Unit Commendation, Armed Forces Expeditionary Medal, Vietnam Campaign Medal, Ellis Island Medal of Honor, Philadelphia Liberty Medal, Dr. Nathan Davis Award for United States Senators, Evelyn F. Burkey Award, Grand Cordon of the Order of the Rising Sun, Global Citizen Awards |
Gwefan | https://www.johnmccain.com |
llofnod | |
Gwleidydd o'r Unol Daleithiau oedd John Sidney McCain III (29 Awst 1936 – 25 Awst 2018). Roedd yn seneddwr Arizona. Sefodd fel ymgeisydd am arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau yn 2008, yn cynrychioli'r Blaid Weriniaethol. Ymysg eraill, roedd Rudy Giuliani yn ei gefnogi. Collodd yr etholiad ar 4 Tachwedd i Barack Obama.
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Ganed McCain, mewn Gorsaf Awyrennau Llynges yr UDA o'r enw Coco ym Mharth Camlas Panama, yn fab i John S. McCain Jr. (1911-1981) swyddog yn y llynges a Roberta (Wright) McCain[1]. Ar y pryd, roedd Camlas Panama o dan reolaeth yr Unol Daleithiau.[2]
Gan fod gwaith ei dad yn y llynges yn golygu symud cartref yn aml addysgwyd McCain mewn sawl ysgol gynradd. Ym 1951, setlodd y teulu yng Ngogledd Virginia, a mynychodd McCain Ysgol Uwchradd Episcopal, ysgol breswyl baratoadol breifat yn Alexandria.[3] Gan ddilyn yn ôl traed ei dad a'i daid, aeth McCain i Academi Llynges yr Unol Daleithiau yn Annapolis, gan raddio ym 1958.
Ym 1965, priododd McCain Carol Shepp, model o Philadelphia. Mabwysiadodd McCain ei dau fab a bu iddynt un ferch o'r briodas. Daeth y briodas i ben trwy ysgariad ym 1980.[4]
Ym mis Mai 1980 priododd ei ail wraig Cindy Lou Hensley, athrawes o Phoenix, Arizona.[5]
Gyrfa filwrol
[golygu | golygu cod]Wedi ymadael ag Academi'r Llynges daeth McCain yn aelod cyflogedig o'r llynges. Cychwynnodd ei yrfa fel llumanwr dan hyfforddiant i ddyfod yn beilot awyrennau’r llynges. Cwblhaodd ei hyfforddiant hedfan ym 1960 a daeth yn beilot awyrennau ymosodiadau agos i'r ddaear; fe'i neilltuwyd i sgwadronau A-1 Skyraider ar fwrdd y llongau cludo awyrennau USS Intrepid a USS Enterprise gan wasanaethu ym Môr y Caribî a'r Môr Canoldir.[6] Symudodd i wasanaethu ar fwrdd yr USS Forrestal gan hedfan awyrennau A-4 Skyhawk. Yn 1967 danfonwyd y Forrestal i fod yn rhan o luoedd yr Unol Daleithiau oedd yn ymladd Rhyfel Fietnam.[7] Ar 29 Gorffennaf 1967 aeth y Foresstal ar dân,[8] wrth i McCain ceisio help cyd beilot dianc o'r danchwa ffrwydrodd bom a chafodd ei daro yn ei frest a'i goesau gan fflawiau o'r ffrwydriaid. Symudwyd McCain i wasanaethu ar fwrdd yr USS Oriskany, llong cario awyren arall oedd yn rhan o'r rhyfel yn Fietnam.
Carcharor rhyfel
[golygu | golygu cod]Ar 26 Hydref 1967 tra ar gyrch bomio cafodd awyren McCain ei saethu i lawr ger Hanoi. Torrodd McCain ei freichiau a'i goesau wrth gael ei daflu allan o'r awyren. Bu bron iddo foddi ar ôl iddo lanio mewn llyn. Cafodd ei dynnu allan o'r llyn gan filwyr o Ogledd Fietnam a'i danfon yn garcharor rhyfel i Garchar Hỏa Lò yn Hanoi.[9] Er bod McCain wedi cael ei anafu'n ddifrifol, gwrthododd ei garcharwyr ei drin. Cafodd ei guro ac yn holi er mwyn ceisio cael gwybodaeth ganddo.
Yng nghanol 1968, penodwyd ei dad John S. McCain Jr. yn bennaeth holl luoedd yr Unol Daleithiau yn y theatr Fietnam. Cynigwyd rhyddhad cynnar i McCain gan luoedd Fietnam er mwyn iddynt ymddangos yn drugarog at ddibenion propaganda. Gwrthodwyd y cynnig. Tra'n garcharor dioddefodd McCain artaith ddifrifol a bu'n dioddef o ddysentri.
Bu McCain yn garcharor rhyfel yng Ngogledd Fietnam am bum mlynedd a hanner hyd iddo gael ei ryddhau ar 14 Mawrth 1973. Roedd ei anafiadau yn ystod y rhyfel yn ei adael yn barhaol analluog i godi ei freichiau yn uwch na'i ben.
Wedi dychwelyd i'r Unol Daleithiau cafodd McCain driniaeth am ei anafiadau a oedd yn cynnwys misoedd o therapi corfforol dwys. Mynychodd y Coleg Rhyfel Cenedlaethol yn Fort McNair yn Washington, D.C. yn ystod 1973-1974. Ailsefydlwyd McCain erbyn diwedd 1974 a chafodd ei statws hedfan ei adfer. Ym 1976, daeth yn swyddog arweiniol ar sgwadron hyfforddi a oedd wedi'i lleoli yn Florida.
Gwasanaethodd McCain fel cysylltiad y Llynges â Senedd yr Unol Daleithiau o 1977. Ymadawodd a'r llynges ar 1 Ebrill 1981. Ar ôl ymddeol ymgartrefodd yn Arizona. Ymysg ei addurniadau a gwobrau milwrol niferus mae Medal Seren Arian, dwy fedal Lleng y Teilwng, Groes Hedfan Neilltuol, tair Medal Seren Efydd, dwy Fedal Calon Borffor, dwy Fedal Cymeradwyaeth y Corffluoedd Llynges a'r Môr-filwyr, a Medal Carcharor Rhyfel.
Gyrfa Wleidyddol
[golygu | golygu cod]Aelod o'r Gyngres
[golygu | golygu cod]Ym 1982, etholwyd McCain i Dŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau. Roedd yn cynrychioli Arizona.[10]
Bu'n gwasanaethu fel aelod Bwyllgor y Tŷ ar Faterion Mewnol ac wedyn fel aelod o Bwyllgor y Tŷ ar Faterion Tramor. Ar ddechrau ei yrfa wleidyddol roedd McCain yn gefnogol i'r Arlywydd Ronald Reagan.[11] Roedd yn gefnogol i'r polisïau cyllidol a alwyd yn Reaganomics. Bu yn weithredol ar filiau yn ymwneud â Materion Americanwyr Cynhenid. Cefnogodd y rhan fwyaf o agweddau ar bolisi tramor gweinyddiaeth Reagan, gan gynnwys ei safiad cryf yn erbyn yr Undeb Sofietaidd a pholisïau yn ymwneud â Chanolbarth America, megis cefnogi'r Contras yn Nicaragua. Ond daeth yn wrthwynebwr i'r defnydd o fôr-filwyr yr UD yn Libanus ac yn feirniadol o'r Arlywydd Reagan am dynnu'r milwyr yn ôl yn rhy hwyr.[12]
Aelod o'r Senedd
[golygu | golygu cod]Wedi ymddeoliad Seneddwr Ceidwadol Arizona, Barry Goldwater, etholwyd McCain i 'w olynu ym 1986, gan gymryd ei sedd ar ddechrau 1987.[13]
Daeth y Seneddwr McCain yn aelod o'r Pwyllgor Gwasanaethau Arfog, y pwyllgor fu'n gwneud gwaith cyswllt y Llynges efo yn flaenorol; ymunodd â'r Pwyllgor Masnach a'r Pwyllgor Materion Indiaid hefyd. [95] Parhaodd i gefnogi agenda Brodorion America. Fel gamblwr gydol oes gyda chysylltiadau agos â'r diwydiant hapchwarae [14] bu McCain yn un o brif awduron Deddf Rheoleiddio Hapchwarae Indiaid 1988, sy'n rheoleiddio codau ynglŷn â mentrau gamblo Americaniaid Brodorol. Roedd McCain hefyd yn gefnogwr cryf i'r ddeddfwriaeth Gramm-Rudman a oedd yn gorfodi toriadau gwariant awtomatig yn achos diffygion yn y gyllideb.[15]
Ymosododd McCain ar yr hyn a welodd fel dylanwad llygredig cyfraniadau gwleidyddol mawr gan gorfforaethau, undebau llafur, sefydliadau eraill, ac unigolion. Gan ddechrau ym 1994, bu'n gweithio gyda'r Seneddwr Democrataidd dros Wisconsin, Russ Feingold, ar ddiwygio cyllid ymgyrchu. Gwrthwynebwyd ymdrechion McCain a Feingold gan rai a derbyniodd budd gan yr arianwyr mawr yn y ddwy blaid a gan rai oedd yn gweld terfynau ariannol yn ymosodiad ar yr hawl cyfansoddiadol o ryddid lleferydd. Llwyddodd gwrthwynebwyr y mesur i'w rhwystro rhag myn i bleidlais trwy herwddadlau (siarad mor hir fel nad oes amser ar ôl i bleidleisio ar fesur).[16]
Ymgyrch arlywyddol 2000
[golygu | golygu cod]Ar 27 Medi 1999 Cyhoeddodd McCain ei fod am sefyll i fod yn ymgeisydd y Gweriniaethwyr yn yr etholiad Arlywyddol oedd i'w gynnal ym mis Tachwedd 2000.[17][18] Y ffefryn i gael ei enwebu oedd llywodraethwr Texas, George W Bush. Roedd Bush yn cael ei gefnogi gan y sefydliad pleidiol a gan arianwyr mawr. Er gwaethaf hyn fe lwyddodd McCain i guro Bush yn rhwydd yn rhagetholiad New Hampshire. Cafodd McCain 49% o'r bleidlais a Bush dim ond 30%.[19]
Roedd ymgyrch Bush a'r sefydliad Gweriniaethol yn ofni pe bai McCain yn gallu ail adrodd ei lwyddiant yn rhagetholiad De Carolina bydda'i ymgyrch yn ennill momentwm na fyddai modd ei rwystro.
Er mwyn sicrhau na fyddai McCain yn ennill De Carolina bu ymgyrch ffiaidd o fudur yn ei erbyn yn y dalaith, gyda'r papur newydd The Arizona Republic yn dweud bod y gystadleuaeth rhwng McCain a Bush yn Ne Carolina wedi mynd lawr yn hanes gwleidyddol y genedl fel un a syrthiodd i'r dyfnderoedd isaf mewn ymgyrchoedd arlywyddol.[17]
Bu cefnogwyr Bush yn cyhuddo McCain o fradychu ei gyd cyn milwyr trwy ddiffyg cefnogaeth iddynt yn y Senedd, o fod yn hoyw, o fod yn dad i blentyn anghyfreithiol croenddu (roedd ef a'i wraig wedi mabwysiadu plentyn amddifad o Fangladesh. Honnwyd bod ei wraig yn gaeth i gyffuriau a'i bod ei iechyd meddwl wedi cael ei effeithio gormod gan ei brofiadau ryfel i wneud o’n ffit i fod yn Arlywydd.[20][21] Gwadodd Bush fod ganddo unrhyw ran yn yr ymosodiadau.
Canlyniad y rhagetholiad oedd 53% i Bush a 42% i McCain. Methodd ei ymgyrch i adfer o'r golled a thynnodd allan o'r ras ym mis Mawrth 2000,[22] gan roi ei gefnogaeth i ymgyrch Bush ychydig yn niweddarach.[23]
Gyrfa seneddol 2000-2008
[golygu | golygu cod]Dechreuodd McCain 2001 trwy anghytuno a gweinyddiaeth newydd George W. Bush ar nifer o faterion, gan gynnwys diwygio iechyd, newid hinsawdd a deddfwriaeth gwn. Ym mis Mai 2001, roedd McCain yn un o ddim ond dau Weriniaethwr Seneddol i bleidleisio yn erbyn toriadau treth Bush. Heblaw am wahaniaethau â Bush ar sail ideolegol, roedd cryn anghynnesrwydd rhwng y ddau yn waddol o ymgyrch y flwyddyn flaenorol.[16][24]
Wedi ymosodiadau 11 Medi, 2001, cefnogodd McCain dymuniad Bush i gynnal rhyfel dan arweiniad yr U.D. yn Afghanistan. Ysgrifennodd ef a'r seneddwr Democrataidd Joe Lieberman y ddeddfwriaeth a greodd Comisiwn 9/11.[25]
Yn y cyfamser, mewn trafodaethau dros y camau arfaethedig yr Unol Daleithiau yn erbyn Irac, roedd McCain yn gefnogwr cryf i weinyddiaeth Bush.[24][26]
Ym mis Hydref 2003, cydlynodd McCain a Lieberman y Ddeddf Stiwardiaeth Hinsawdd a fyddai wedi cyflwyno system gyda'r nod o ddychwelyd allyriadau nwyon tŷ gwydr i lefelau 2000; trechwyd y bil gyda 55 o bleidleisiau i 43 yn y Senedd.[27]
Oherwydd ei amser fel carcharor ryfel, roedd McCain yn betrus am y modd yr oedd carcharorion oedd yn cael eu dal yn y Rhyfel ar Derfysgaeth yn cael eu croesholi. Ym mis Hydref 2005, cyflwynodd McCain gwelliant i'r bil Diffyniadau Amddiffyn ar gyfer 2005, a phleidleisiodd y Senedd 90-9 i gefnogi'r gwelliant. Mae'n gwahardd rhoi triniaeth annynol i garcharorion, gan gynnwys carcharorion ym Guantanamo Bay, trwy gyfyngu ar ymholiadau milwrol i'r technegau sy'n cael eu cymeradwyo yn Llawlyfr Maes Byddin yr Unol Daleithiau ar Holi.[28] Er bod Bush wedi bygwth defnyddio ei feto yn erbyn y bil pe bai diwygiad McCain wedi'i gynnwys, cyhoeddodd yr arlywydd ym mis Rhagfyr 2005 ei fod am dderbyn telerau McCain ac y byddai "yn ei gwneud hi'n glir i'r byd nad yw'r llywodraeth hon yn arteithio ac y byddwn yn cadw at y confensiwn rhyngwladol o artaith, boed hi yma gartref neu dramor ". Arweiniodd y safiad hwn, ymysg eraill, at McCain yn cael ei enwi gan y cylchgrawn Time fel un o 10 Seneddwr Gorau America yn 2006.[29]
Ymgyrch Arlywyddol 2008
[golygu | golygu cod]Yr ymgyrch am yr enwebiad Gweriniaethol
[golygu | golygu cod]Cyhoeddodd McCain yn ffurfiol ei fwriad i redeg ar gyfer arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau ar 25 Ebrill 2007 yn Portsmouth, New Hampshire.[30]
Yn ystod cylch etholiad 2006, roedd McCain wedi mynychu 346 o ddigwyddiadau ac wedi helpu i godi mwy na $ 10.5 miliwn ar ran ymgeiswyr Gweriniaethol. Daeth McCain hefyd yn fwy parod i ofyn i fusnes a diwydiant am gyfraniadau ymgyrchu, wrth fynnu na fyddai cyfraniadau o'r fath yn effeithio ar unrhyw benderfyniadau swyddogol y byddai'n eu gwneud.[31] Er gwaethaf cael ei ystyried fel y ceffyl blaen ar gyfer yr enwebiad gan yr arbenigwyr gwleidyddol, wrth i 2007 ddechrau, roedd McCain yn yr ail le y tu ôl i gyn Maer Dinas Efrog Newydd, Rudy Giuliani, mewn arolygon cenedlaethol Gweriniaethol wrth i'r flwyddyn fynd rhagddo.[32]
Roedd gan McCain broblemau codi arian yn ystod hanner cyntaf 2007, yn rhannol oherwydd ei gefnogaeth i Ddeddf Diwygio Mewnfudo Cynhwysfawr 2007, a oedd yn amhoblogaidd ymhlith yr etholwyr sylfaenol Gweriniaethol. Roedd McCain yn bolio'n wael mewn arolygon cenedlaethol, yn aml yn sefyll yn y trydydd neu'r bedwerydd safle gyda 15% neu lai o gefnogaeth.[33][34]
Erbyn mis Rhagfyr 2007, roedd y ras Gweriniaethol yn aneglur, nid oedd yr un o'r ymgeiswyr haen uchaf yn dominyddu'r ras. Roedd pob un ohonynt yn meddu ar brif wendidau gyda gwahanol elfennau o etholwyr sylfaen Gweriniaethol.[35] Roedd McCain yn dangos adfywiad, yn enwedig gyda chefnogaeth frwd yn New Hampshire - lleoliad ei fuddugoliaeth yn 2000 - a chafodd ei gryfhau ymhellach gan gymeradwyaeth The Boston Globe, The New Hampshire Union Leader, a bron i ddau ddwsin o bapurau newydd taleithiol. Penderfynodd McCain beidio ag ymgyrchu'n sylweddol yng nghawcws Iowa, a gafodd ei ennill gan gyn Llywodraethwr Arkansas, Mike Huckabee.[36]
Bu i gynllun ail danio'r ras McCain llwyddo pan enillodd rhagetholiad New Hampshire ar Ionawr 8, gan drechu cyn Llywodraethwr Massachusetts Mitt Romney mewn cystadleuaeth agos. Yng nghanol mis Ionawr, daeth McCain gyntaf yn rhagetholiad De Carolina, gan orchfygu Mike Huckabee. Wythnos yn ddiweddarach, enillodd McCain rhagetholiad Florida, gan guro Romney eto mewn cystadleuaeth agos. Rhoddodd Giuliani'r gorau i'w ymgyrch gan gymeradwyo McCain.[37]
Ar 5 Chwefror, enillodd McCain y mwyafrif o daleithiau ar Ddydd Mawrth Ysblennydd y rhagetholiadau Gweriniaethol, gan roi arweiniad clir iddo yn yr ymgyrch am yr enwebiad Gweriniaethol. Ymadawodd Romney o'r ras ar 7 Chwefror.[38] Rhoddodd buddugoliaethau McCain yn rhagetholiadau 4 Mawrth fwyafrif o'r cynadleddwyr iddo, a daeth yn enwebai tybiedig y Gweriniaethwyr.[39]
Yn y cyfamser bu Barack Obama a Hillary Clinton yn ymladd brwydr hir am enwebiad y Democratiaid.[40]
Yr ymgyrch am yr arlywyddiaeth
[golygu | golygu cod]Pan ddewiswyd Obama yn enwebai tybiedig y Democratiaid yn gynnar ym mis Mehefin, cynigiodd McCain gyfarfodydd neuadd tref ar y cyd, ond yn hytrach, gofynnodd Obama am ddadleuon mwy traddodiadol yn yr Hydref.[41]
Trwy gydol haf 2008, roedd Obama yn arwain McCain yn gyffredinol mewn arolygon cenedlaethol, fel arfer gyda mantais mewn ffigyrau sengl.[42] Roedd Obama yn arwain hefyd mewn sawl talaith gogwydd allweddol.
Ar 29 Awst, 2008, cyhoeddodd McCain mae Llywodraethwr Alaska, Sarah Palin, oedd ei ddewis fel cymar yn y ras.[43] Dim ond yr ail dro i enw merch cael ei gynnig gan un o'r pleidiau mawr. Ar 3 Medi, 2008, dewiswyd McCain a Palin yn ymgeiswyr arlywyddol ac is arlywyddol y Blaid Weriniaethol, yn swyddogol, yng Nghonfensiwn Cenedlaethol Gweriniaethol 2008 yn Saint Paul, Minnesota. Tynnodd McCain o flaen Obama mewn arolygon cenedlaethol yn dilyn y confensiwn, gan fod y Palin yn apelio at bleidleiswyr craidd Gweriniaethol a oedd wedi bod yn ansicr o enwebiad McCain.[44] Wrth i'r ymgyrch mynd rhagddi roedd ymateb y pleidleiswyr i Palin yn tyfu'n fwyfwy negyddol, yn enwedig ymhlith yr etholwyr annibynnol a phleidleiswyr eraill a oedd yn pryderu am ei chymwysterau.[45]
Cynhaliwyd y ddadl Arlywyddol gyntaf ar 26 Medi. Cynhaliwyd dadl arall ar 7 Hydref; fel yr un cyntaf, awgrymodd yr arolygon wedi'r ddadl fod Obama wedi ennill.[46] Cynhaliwyd y ddadl arlywyddol derfynol ar 15 Hydref.
Yn ystod ac ar ôl y ddadl derfynol, bu McCain yn cymharu polisïau arfaethedig Obama i sosialaeth ac, yn aml, ddefnyddiodd Joe y plymwr fel symbol o freuddwydion busnesau bach America a fyddai'n cael eu rhwystro gan lywyddiaeth Obama.[47]
Daeth ralïau McCain yn fwyfwy brwnt, gyda mynychwyr yn tynnu sylw at liw croen Obama ac yn dangos teimlad gwrth Mwslimaidd a gwrth Americaniaid Affricanaidd cynyddol. Yn ystod rali ymgyrch yn Minnesota, dywedodd Gayle Quinnell, cefnogwr McCain 75 mlwydd oed nad oedd hi'n ymddiried yn Obama oherwydd "ei fod yn Arab", atebodd McCain sylw at y fenyw gan ddweud, "Na ma'am. Mae'n ddyn teuluol, dinesydd, rwy'n digwydd anghytuno efo ar faterion sylfaenol." [48] Ystyriwyd ymateb McCain yn un o eiliadau mwyaf gwar yr ymgyrch ac roedd yn dal i gael ei ystyried, sawl blwyddyn yn ddiweddarach, fel enghraifft o barch dinesig ym maes gwleidyddiaeth America. Dywedodd Meghan McCain na all hi fynd diwrnod heb i rywun cyfeirio at yr achlysur, gan nodi bod yna lawer o bobl yn ceisio cael ei thad i ymosod ar Obama trwy honni ei fod yn Fwslim ac nid yn Americanwr go iawn, ond bod ei thad wedi gwrthod. "Gallaf gofio meddwl ei fod yn foment moesol, anhygoel, ond efallai y byddai pobl yn y Blaid Weriniaethol a fyddai'n eithaf dig," meddai.[49]
Cynhaliwyd yr etholiad ar 4 Tachwedd, a rhagamcanwyd bod Barack Obama wedi ennill tua 11:00 pm Amser Safonol y Dwyrain; Cyflwynodd McCain ei araith gonsesiwn yn Phoenix, Arizona tua ugain munud yn ddiweddarach. Yn ei araith fe nododd arwyddocâd hanesyddol arbennig ethol Obama fel yr Arlywydd Americanwr Affricanaidd cyntaf y wlad. Yn y diwedd, enillodd McCain 173 o bleidleisiau coleg etholiadol ac Obama 365. Methodd McCain i ennill y rhan fwyaf o'r taleithiau ymylol a chollodd rhai oedd yn draddodiadol Gweriniaethol. Enillodd McCain 46 y cant o'r bleidlais boblogaidd ledled y wlad, o'i gymharu â 53 y cant i Obama.[50]
Salwch terfynol
[golygu | golygu cod]Ar 14 Gorffennaf, 2017, cafodd McCain craniotomi yn Ysbyty Clinig Mayo yn Phoenix, Arizona, er mwyn trin clot gwaed uwchben ei lygad chwith. Pum niwrnod yn ddiweddarach, cyhoeddodd ei feddygon bod canlyniadau ymchwiliad labordy yn deillio o'r llawdriniaeth yn cadarnhau bod glioblastoma yn bresennol, sef tiwmor ymennydd ymosodol iawn.[51][51][52]
Ar 25 Gorffennaf, 2017, llai na phythefnos ar ôl y llawdriniaeth ymennydd, dychwelodd McCain i'r Senedd, a bwriodd bleidlais benderfynol gan ganiatáu i'r Senedd ddechrau ystyried biliau i newid polisïau iechyd cyhoeddus a gyflwynwyd dan arlywyddiaeth Obama.[53]
Ar 24 Awst, 2018, cyhoeddodd teulu McCain na fyddai bellach yn cael triniaeth am ei ganser a bu farw ddiwrnod yn ddiweddarach.[54]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Timberg, Robert. Chapter One, John McCain, An American Odyssey yn The New York Times on the Web. adalwyd 24 Awst 2018
- ↑ Morison, Samuel Eliot. The Two-Ocean War: A Short History of the United States Navy in the Second World War (Naval Institute Press, 2007), p. 119.
- ↑ Woodward, Calvin. "McCain's WMD Is A Mouth That Won't Quit". Associated Press. USA Today (Tachwedd 4, 2007). adalwyd 25 Awst 2018.
- ↑ Steinhauer, Jennifer. "Bridging 4 Decades, a Large, Close-Knit Brood", The New York Times (Rhagfyr 27, 2007). adalwyd 24 Awst 2018
- ↑ Frantz, Douglas, "The 2000 Campaign: The Arizona Ties; A Beer Baron and a Powerful Publisher Put McCain on a Political Path", The New York Times, A14 (Chwefror 21, 2000). 24 Awst 2018. "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Awst 2018. Cyrchwyd Tachwedd 6, 2008. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link) - ↑ Feinberg, Barbara. John McCain: Serving His Country, p. 18 (Millbrook Press 2000). ISBN 0-7613-1974-3.
- ↑ McCain, Faith of My Fathers, tud. 167–68.
- ↑ Weinraub, Bernard. "Start of Tragedy: Pilot Hears a Blast As He Checks Plane", The New York Times (Gorffennaf 31, 1967). Adalwyd Mawrth 28, 2008.
- ↑ Dan & Muller, Bill. "John McCain Report: Prisoner of War", The Arizona Republic (Mawrth 1, 2007). Adalwyd Tachwedd 10, 2007.
- ↑ Thornton, Mary. "Arizona 1st District John McCain" Archifwyd 2013-08-08 yn y Peiriant Wayback, The Washington Post (16 Rhagfyr 1982). Adalwyd 10 Mai 2008.
- ↑ Alexander, Man of the People, pp. 98–99, 104
- ↑ Dan and Muller, Bill. "John McCain Report: Arizona, the early years", The Arizona Republic (Mawrth 1, 2007)
- ↑ Dan and Muller, Bill, "John McCain Report: The Senate calls", The Arizona Republic (Mawrth 1, 2007). Adalwyd Tachwedd 23, 2007.
- ↑ Becker, Jo; Van Natta, Don. "For McCain and Team, a Host of Ties to Gambling", The New York Times (Medi 27, 2008). Adalwyd Medi 29, 2008.
- ↑ Alexander, Man of the People, tudp. 112
- ↑ 16.0 16.1 Maisel, Louis and Buckley, Kara. Parties and Elections in America: The Electoral Process, pp. 163–66 (Rowman & Littlefield 2004). ISBN 0-7425-2670-4
- ↑ 17.0 17.1 Dan and Muller, Bill. "John McCain Report: The 'maverick' runs", The Arizona Republic (Mawrth 1, 2007). Adalwyd Rhagfyr 27, 2007
- ↑ "McCain formally kicks off campaign", CNN (Medi 27, 1999). Adalwyd Rhagfyr 27, 2007
- ↑ Corn, David. "The McCain Insurgency", The Nation (Chwefror 10, 2000). Adalwyd Ionawr 1, 2008
- ↑ Steinhauer, Jennifer. "Confronting Ghosts of 2000 in South Carolina", The New York Times (Hydref 19, 2007). Adalwyd Ionawr 7, 2008
- ↑ "Dirty Politics 2008", NOW, PBS (Ionawr 4, 2008). Adalwyd Ionawr 6, 2008
- ↑ McCaleb, Ian Christopher. "Bradley, McCain bow out of party races" Archifwyd Ionawr 25, 2008, yn y Peiriant Wayback, CNN (Mawrth 9, 2000). Adalwyd Rhagfyr 30, 2007.
- ↑ Marks, Peter. "A Ringing Endorsement for Bush"[dolen farw], The New York Times (Mai 14, 2000). Adalwyd Mawrth 1, 2008.
- ↑ 24.0 24.1 Dan and Muller, Bill. "John McCain Report: The 'maverick' and President Bush", The Arizona Republic (Mawrth 1, 2007). adalwyd Rhagfyr 27, 2007.
- ↑ "Senate bill would implement 9/11 panel proposals", CNN (8 Medi 2004). Adalwyd 17 Ionawr 2008.
- ↑ McCain, John. "No Substitute for Victory: War is hell. Let's get on with it", The Wall Street Journal (26 Hydref 2001). Adalwyd 17 Ionawr 2008.
- ↑ "Summary of the Lieberman-McCain Climate Stewardship Act" Archifwyd 11 Ebrill 2008 yn y Peiriant Wayback, Pew Center on Global Climate Change. Adalwyd 24 Ebrill 2008.
- ↑ "McCain, Bush agree on torture ban", CNN (15 Rhagfyr 2005). Adalwyd 16 Awst 2006.
- ↑ Calabresi, Massimo and Bacon Jr., Perry. "America's 10 Best Senators" Archifwyd 2008-09-06 yn y Peiriant Wayback, "John McCain: The Mainstreamer" Archifwyd 2008-10-05 yn y Peiriant Wayback, Time (26 Ebrill 2006) adalwyd 24 Awst 2018
- ↑ "McCain launches White House bid", BBC News (25 Ebrill 2007). adalwyd 24 Awst 2018
- ↑ Birnbaum, Jeffrey and Solomon, John. "McCain's Unlikely Ties to K Street", The Washington Post (31 Rhagfyr 2007) adalwyd 24 Awst 2018
- ↑ Kirkpatrick, David D. and Pilhofer, Aron. "McCain Lags in Income, but Excels in Spending", The New York Times (15 Ebrill 2007). adalwyd 24 Awst 2018.
- ↑ "McCain lags in fundraising, cuts staff" Archifwyd 19 Ionawr 2008 yn y Peiriant Wayback, CNN (2 Gorffennaf 2007). Adalwyd 6 Gorffennaf 2007.
- ↑ "Lagging in Fundraising, McCain Reorganizes Staff", NPR (2 Gorffennaf 2007). Adalwyd 6 Gorffennaf 2007.
- ↑ Witosky, Tom. "McCain sees resurgence in his run for president" Archifwyd 24 Mai 2012 yn archive.today, The Des Moines Register (17 Rhagfyr 2007). Adalwyd Rhagfyr 29, 2007.
- ↑ "CNN: McCain wins New Hampshire GOP primary", CNN (Ionawr 8, 2008). Adalwyd Ionawr 8, 2008.
- ↑ Holland, Steve. "Giuliani, Edwards quit White House Race", Reuters (30 Ionawr 2008). Adalwyd 30 Ionawr 2008.
- ↑ Sidoti, Liz. "Romney Suspends Presidential Campaign", Associated Press (7 Chwefror 2008). Adalwyd 22 Chwefror 2017.
- ↑ "McCain wins key primaries, CNN projects; McCain clinches nod", CNN (4 Mawrth 2008). Adalwyd 4 Mawrth 2008.
- ↑ Page, Susan. "McCain runs strong as Democrats battle on" USA Today (28 Ebrill 2008). Adalwyd 10 Mai 2008.
- ↑ Pickler, Nedra. "Obama, McCain Fail To Agree On Town Halls" Archifwyd 2013-05-09 yn y Peiriant Wayback, Associated Press. CBS News (13 Mehefin 2008). Adalwyd 19 Gorffennaf 2012.
- ↑ "General Election: McCain vs. Obama", Real Clear Politics. Adalwyd Awst 11, 2008.
- ↑ "McCain taps Alaska Gov. Palin as vice president pick", CNN (Awst 29, 2008). Adalwyd Awst 29, 2008.
- ↑ Berman, Russell. "McCain-Palin Surging in the Polls" Archifwyd 2018-08-26 yn y Peiriant Wayback, The New York Sun (Medi 9, 2008). Adalwyd Rhagfyr 31, 2008.
- ↑ Cohen, Jon and Agiesta, Jennifer. "Perceptions of Palin Grow Increasingly Negative, Poll Says", The Washington Post (Hydref 25, 2008). Adalwyd Rhagfyr 31, 2008.
- ↑ Steinhauser, Paul. "Obama picks up second debate win, poll says", CNN (Hydref 8, 2008). Adalwyd Hydref 12, 2008.
- ↑ Bumiller, Elisabeth. "In Ohio, McCain Is Everywhere Even if Joe the Plumber Isn't", The New York Times (Hydref 30, 2008) Adalwyd Rhagfyr 31, 2008.
- ↑ "McCain Responds to 'Arab' Epithet at Rally: 'Obama a Decent Family Man'", Huffington Post (Hydref 10, 2008).
- ↑ King, Alexandra (Chwefror 10, 2018). "Meghan McCain sees 'a lot of gray' with Trump voters and their views". CNN. Cyrchwyd 24 awst, 2018. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ "President – Election Center 2008", CNN. Adalwyd Tachwedd 19, 2008.
- ↑ 51.0 51.1 Scutti, Susan (Gorffennaf 19, 2017). "Sen. John McCain had aggressive brain tumor surgically removed". CNN.
- ↑ "McCain Recovering After Cancer Surgery". ABC News. Awst 21, 2000. Cyrchwyd Gorffennaf 20, 2017.
- ↑ Werner, Erica. (Gorffennaf 28, 2017). "McCain, fighting cancer, turns on GOP and kills health bill". ABC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Gorffennaf 29, 2017. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ New York Times John McCain to Discontinue Treatment for Brain Cancer, Family Says adalwyd 25 awst 2018
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol Ymgyrch Arlywyddol
- (Saesneg) Tudalen swyddogol ar Senedd yr Unol Daleithiau Archifwyd 1999-05-08 yn y Peiriant Wayback
Cyngres yr Unol Daleithiau | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Barry Goldwater |
Seneddwr dros Arizona gyda Dennis DeConcini, Jon Kyl 1987 – 2018 |
Olynydd: deiliad |
Swyddi gwleidyddol pleidiol | ||
Rhagflaenydd: George W. Bush |
Ymgeisydd Arlywyddol y Blaid Weriniaethol 2008 (collodd) |
Olynydd: presennol |