John Henry Newman
John Henry Newman | |
---|---|
Ganwyd | John Henry Newman 21 Chwefror 1801 Llundain |
Bu farw | 11 Awst 1890 o niwmonia Edgbaston |
Man preswyl | Edgbaston |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | diwinydd, bardd, offeiriad Anglicanaidd, offeiriad Catholig, nofelydd, academydd, emynydd, athronydd, llenor |
Swydd | cardinal-diacon |
Cyflogwr | |
Dydd gŵyl | 9 Hydref |
Mam | Jemima Fourdrinier |
Cardinal, diwinydd a bardd o Loegr oedd John Henry Newman (21 Chwefror 1801 – 11 Awst 1890). Roedd yn ffigwr pwysig a dadleuol yn hanes crefyddol Lloegr yn y 19g.
Fe'i ganwyd yn Ninas Llundain, yn fab i fancer. Astudiodd yng Ngholeg y Drindod, Rhydychen, a daeth yn gymrodor o Goleg Oriel ym 1823. Fe'i ordeiniwyd yn offeiriad yn Eglwys Loegr ym 1825.
Ym 1833 traddododd ei bregeth enwog "National Apostasy", yr oedd Newman yn ei hystyried yn ddechrau Mudiad Rhydychen, cylch o eglwyswyr a geisiodd adfer rhai traddodiadau Cristnogol hŷn i'r Eglwys Anglicanaidd. Ar ôl dadlau chwerw yn Rhydychen ym 1842 ciliodd Newman a chriw o'i ddilynwyr i bentref cyfagos Littlemore, lle dilynon nhw ffordd o fwy lled fynachaidd.
Ar 8 Hydref 1845 fe'i derbyniwyd i'r Eglwys Gatholig Rufeinig. Y flwyddyn ganlynol teithiodd i Rufain lle y'i ordeiniwyd yn offeiriad yn yr Eglwys Gatholig. Ar ôl iddo ddychwelyd i Loegr ymgartrefodd yn y pen draw yn Edgbaston, Birmingham, lle bu'n byw am bron i ddeugain mlynedd. Sefydlodd Oratori Birmingham yn y faestref honno.
Ym 1879 fe'i gwnaethpwyd yn gardinal gan Pab Leo XIII. Fe'i canoneiddiwyd gan yr Eglwys Gatholig yn 2019.
Llenyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Tracts for the Times (1833–41)
- (gydag eraill) Lyra Apostolica (cerddi, 1836)
- Loss and Gain (nofel, 1848)
- Lectures on the Present Position of Catholics in England (1851)
- The Idea of a University (1852, 1858)
- Callista (nofel, 1855)
- Apologia Pro Vita Sua (hunangofiant crefyddol, 1864, 1865)
- The Dream of Gerontius (cerdd epig, 1865)
- An Essay in Aid of a Grammar of Assent (1870)