Jessie C. Methven
Jessie C. Methven | |
---|---|
Ganwyd | 1854 Caeredin |
Bu farw | 15 Chwefror 1917 |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | swffragét, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched |
Ffeminist a swffragét o'r Alban oedd Jessie C. Methven (1854 - 15 Chwefror 1917) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched.
Fe'i ganed yng Nghaeredin yn 1854. Bu'n ysgrifennydd anrhydeddus Cymdeithas Genedlaethol Caeredin dros Rhoi'r Bleidlais i Ferched (the Edinburgh National Society for Women's Suffrage), o ganol y 1890au hyd 1906. Yn dilyn hynny, ymunodd ag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched, grŵp mwy milwriaethus. Disgrifiai ei hun fel "sosialydd annibynnol".[1]
Dyddiau cynnar
[golygu | golygu cod]Rhieni Jessie Cunningham Methven oedd Janet Allan a Thomas Methven. Roedd y teulu'n byw yn 25 Great King Street, Caeredin lle bu hithau fyw, drwy gydol ei bywyd gyda'i chwiorydd Helen a Minnie a'i brawd Henry, masnachwr hadau. Mae cyfrifiad 1901 yn ei chofnodi fel "byw ar ei hincwm ei hun".[2] Yn 1885 cynhaliodd ei mam "drawing room meeting" o Gymdeithas Genedlaethol y Merched ar gyfer rhoi'r Bleidlais i Fenywod, ac etholwyd Methven yn ysgrifennydd i'r gymdeithas.[3]
Ymgyrchodd Methven dros rhoi'r bleidlais i fenywod (neu 'etholfraint') am flynyddoedd lawer ac fe'i disgrifiwyd fel “gweithiwr gweithgar iawn dros yr achos”.[4] Fel ysgrifennydd anrhydeddus Cymdeithas Genedlaethol Caeredin dros Rhoi'r Bleidlais i Ferched, roedd yn awdur toreithiog i bapurau newydd a chynghorau lleol, ac ysgrifennai i godi ymwybyddiaeth y pwysigrwydd o roi'r bleidlais i fenywod. Cododd arian, trefnodd ddeisebau a chymerodd ran mewn protestiadau a chyfarfodydd cyhoeddus heddychlon fel swffragét.
Ond cyn hir a hwyr, dadrithiodd gyda'r dull hwn, ac ymunodd ag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched ym 1906. Cymerodd ran mewn protestiadau swffragetaidd ac fe'i harestiwyd yn Llundain ar 22 Tachwedd 1911,[5] pan roedd Methven yn un o 223 o brotestwyr y WSPU yn Nhŷ'r Cyffredin. Roedd wedi teithio gyda phum menyw arall o Gaeredin (Elizabeth ac Agnes Thomson, Edith Hudson, Alice Shipley a Mrs Grieve). Cafodd ddedfryd o 10 diwrnod o garchar a dirwy o ddeg swllt (10/-) am dorri ffenestri.[6]
Aelodaeth
[golygu | golygu cod]Bu'n aelod o Gymdeithas Genedlaethol Caeredin dros Hawliau Merched i Bleidleisio, Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ The Women's Suffrage Movement: A Reference Guide 1866-1928. Awdur: Crawford, Elizabeth (1999). Routledge.
- ↑ 1901 England, Wales & Scotland Census.
- ↑ The Women's Suffrage Movement in Britain and Ireland. Crawford, Elizabeth (2006). Routledge. tud. 223.
- ↑ A Guid Cause. Leneman, Leah (1995). Mercat Press. tud. 41.
- ↑ The Suffragist Disturbances. The Scotsman. Caeredin; 23 Tachwedd 1911.
- ↑ Prisoners sentenced Friday, 24 Tachwedd 1911. Suffragette Collection. Yr Archifdy Cenedlaethol.