Jade Jones
Jones (glas) yng Ngemau Olympaidd 2012 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gwybodaeth bersonol | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Enw llawn | Jade Louise Jones | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ganwyd | Bodelwyddan, Cymru[1] | 21 Mawrth 1993|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Taldra | 1.7 m (5 tr 7 mod) | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pwysau | 57 kg (126 lb) | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Camp | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gwlad | Y Deyrnas Unedig | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Chwaraeon | Taekwondo | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Camp | –57 kg | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod o fedalau
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Diweddarwyd 20 Mai 2019. |
Chwaraewr taekwondo o Gymru yw Jade Louise Jones MBE (ganwyd 21 Mawrth 1993). Cafodd ei geni yn Bodelwyddan. Enillodd Jones y fedal aur yng nghystadleuaeth 57 kg taekwondo Gemau Olympaidd 2012 yn Llundain, y tro cyntaf erioed i Brydain ennill medal aur yn y gamp[2] a llwyddodd i amddiffyn ei choron wrth gipio'r fedal aur yng Ngemau Olympaidd 2016 yn Rio de Janeiro[3].
Daeth yn bencampwraig tae kwondo y byd yn Mai 2019 drwy gipio'r fedal aur ym Mhencampwriaethau'r Byd a gynhaliwyd ym Manceinion.[4]
Cafodd ei henwi'm Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn yn 2012[5]. Enillodd y fedal aur yng nghystadleuaeth 57 kg taekwondo yng Ngemau Olympaidd 2016 hefyd. Yng Ngemau Olympaidd 2020, collodd ei phwl agoriadol.[6]
Gyrfa taekwondo
[golygu | golygu cod]Ganed Jones yn Bodelwyddan, Sir Ddinbych,[1] a mynychodd Ysgol Uwchradd Y fflint cyn gadael er mwyn dod yn chwaraewrwaig taekwondo proffesiynol[7]. Mae Jones yn rhan o Academi Taekwondo GB sydd wedi ei leoli ym Manceinion.
Yn 2010 casglodd Jones fedal efydd ym Mhencampwriaethau Taekwondo Ewrop yn Saint Petersburg, Rwsia.[8] a chafodd ei dewis i gystadlu yn y Gemau Olympaidd Iau cyntaf yn Singapôr yn 2010 lle llwyddodd i ennill y fedal aur wrth drechu Thanh Thao Nguyen o Fietnam yn y rownd derfynol[9][10]. Cafodd ei henwi'n Bersonoliaeth Chwaraeon Ifanc BBC Cymru yn 2010[11].
Llwyddodd Jones i ennill un o brif bencampwriaethau'r byd taekwondo wrth ennill Pencampwriaeth Agored America yn 2011 yn Austin, Texas in February 2011. Cipiodd y fedal aur yn y −62 kg diwrnod ar ôl ennill efydd yn yr adran −57 kg [12]. Casglodd fedal arian ym Mhencampwriaethau Taekwondo'r Byd yn Gyeongju, De Corea yn 2011yn yr adran pwysau plu[13].
Cafodd Jones ei dewis fel aelod o dîm Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd 2012 yn Llundain gan ddod y Prydeinwraig cyntaf erioed i ennill medal aur taekwondo a'r person ieuengaf yn nhîm Prydain i ennill medal wrth iddi drechu Hou Yuzhuo o Tsieina yn y rownd derfynol[14].
Llwyddodd Jones i ennill Grand Prix Taekwondo'r Byd ym Manceinion yn 2015[15] wrth adeiladu tuag at Gemau Olympaidd 2016 yn Rio de Janeiro.
Yn wahanol i Llundain 2012 lle roedd buddugoliaeth Jones yn annisgwyl, roedd y Gymraes yn un o'r ffefrynau ar gyfer Rio de Janeiro 2016[16] a llwyddodd i drechu Eva Calvo o Sbaen 16-7 er mwyn amddiffyn ei medal aur[3][16].
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Jade Jones: Taekwondo gold medal joy for Olympian". BBC News Wales. 10 Awst 2012.
- ↑ "About Jade". GB Taekwondo.
- ↑ 3.0 3.1 "Gemau Olympaidd Rio: Aur i Jade Jones yn y Taekwondo". BBC Cymru Fyw. 19 Awst. Check date values in:
|date=
(help) - ↑ Jade Jones yn bencampwr byd… “o’r diwedd” , Golwg360. Cyrchwyd ar 20 Mai 2019.
- ↑ "Welsh Sports Personality of the Year 2012: Jade Jones triumphs". BBCSport. 10 Rhagfyr 2012.
- ↑ "Jones stunned in first round in Tokyo". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-07-25.
- ↑ "Teenage kicks! Ecstatic Jade Jones takes Britain's first ever Taekwondo gold". www.standard.co.uk. 9 Awst 2012.
- ↑ Griffiths, Gareth (4 Mehefin 2012). "Jade Jones going for gold medal at 2012 Olympics". Wales Online.
- ↑ "Jade Jones wins Britain's first Youth Olympics gold". BBC Sport. 17 Awst 2010.
- ↑ Williams, Bob (23 December 2010). "Jade Jones named British Olympic Association taekwondo athlete of the year". The Telegraph. Cyrchwyd 16 July 2012.
- ↑ Williams, Bob (7 Rhagfyr 2010). "Jade Jones wins BBC Cymru Wales Junior Sportswoman of the Year 2010". The Telegraph.
- ↑ Hope, Nick (21 Chwefror 2011). "Youth Olympian Jade Jones claims first senior title". BBC Sport.
- ↑ Hope, Nick (4 Mai 2011). "Jade Jones wins World Championship silver medal". BBC Sport.
- ↑ "Jade Jones wins Olympic taekwondo gold for Great Britain". BBC Sport. 9 Awst 2012.
- ↑ "GB's Jade Jones wins gold at World Taekwondo Grand Prix". BBC Sport. 27 Hydref 2015.
- ↑ 16.0 16.1 "Jade Jones wins Taekwondo gold medal at Rio Olympics 2016 as GB star recreates London triumph". The Telegraph. 19 Awst 2016.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Genedigaethau 1993
- Chwaraewyr o Gymru
- Pobl o Sir y Fflint
- Enillwyr Gwobr Personoliaeth Chwaraeon Cymreig BBC Cymru
- Merched yr 20fed ganrif o Gymru
- Merched yr 21ain ganrif o Gymru
- Cystadleuwyr yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2012
- Cystadleuwyr yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2016
- Cystadleuwyr yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2020
- Cystadleuwyr yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2024
- Pobl o Gymru â medal aur yn y Gemau Olympaidd