Neidio i'r cynnwys

Jacobo Árbenz

Oddi ar Wicipedia
Jacobo Árbenz
Ganwyd14 Medi 1913 Edit this on Wikidata
Quetzaltenango Edit this on Wikidata
Bu farw27 Ionawr 1971 Edit this on Wikidata
Dinas Mecsico Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGwatemala Edit this on Wikidata
Galwedigaethacademydd Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Gwatemala Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolRevolutionary Action Party Edit this on Wikidata
llofnod

Milwr a gwleidydd o Gwatemala oedd Juan Jacobo Árbenz Guzmán (Sbaeneg: [xwaŋ xaˈkoβo ˈaɾβens ɣusˈman]; 14 Medi 191327 Ionawr 1971) a wasanaethodd yn Arlywydd Gwatemala o 1951 i 1954. Arddelai bolisïau adain-chwith, gan gynnwys diwygio tir, yn ogystal â chenedlaetholdeb economaidd, gan ddigio tirfeddianwyr, swyddogion ceidwadol y fyddin, a chwmnïau tramor. Gyda chymorth Unol Daleithiau America, cafodd ei ddymchwel mewn coup d'état.

Ganed ef yn Quetzaltenango yn ne-orllewin Gwatemala i deulu cefnog, yn fab i fferyllydd Almaeneg ei iaith o'r Swistir a'i wraig o dras festiso. Ymunodd â'r fyddin a chafodd ei hyfforddi'n swyddog yn Academi Filwrol Genedlaethol Gwatemala. Wedi iddo raddio ym 1935, cafodd ei siomi gan gamdriniaeth gwerinwyr, llafurwyr a charcharorion dan law'r unben Jorge Ubico, ac ymunodd â charfan o swyddogion adain-chwith. Dylanwadwyd ar ei feddwl gwleidyddol gan ei wraig Maria Cristina Vilanova (a briododd ym 1938) a'r comiwnydd José Manuel Fortuny.

Yn sgil gwrthryfel a arweiniwyd gan fyfyrwyr ac undebwyr llafur ym Mehefin 1944, ymddiswyddodd Ubico a sefydlwyd jwnta filwrol i lywodraethu'r wlad. Fodd bynnag, parhaodd y jwnta a'r hen bolisïau, felly yn Hydref 1944 arweiniodd Árbenz a Francisco Arana coup yn y fyddin i ddymchwel cefnogwyr Ubico a galw am etholiadau rhydd. Enillodd Juan José Arévalo yr etholiad yn Rhagfyr, a fe'i urddwyd yn arlywydd ym Mawrth 1945. Penodwyd Árbenz yn weinidog amddiffyn, a chefnogodd ddiwygiadau cymdeithasol Arévalo. Ym 1949, cafodd Árbenz ran bwysig wrth rwystro cynnig gan swyddogion y fyddin i wrthryfela.

Yn etholiad 1950 enillodd Árbenz 65% o'r bleidlais, ac olynodd Arévalo yn arlywydd ar 15 Mawrth 1951. Cychwynnodd yn y swydd gyda chefnogaeth y fyddin a phleidiau'r adain chwith, gan gynnwys Plaid Gomiwnyddol Gwatemala, ac aeth ati i gyflwyno rhagor o ddiwygiadau, gan gynnwys ehangu'r etholfraint, sicrhau hawl y gweithwyr i drefnu, a chyfreithloni rhagor o bleidiau gwleidyddol. Prif bolisi ei raglen oedd i ddifeddiannu tiroedd heb eu trin oddi ar ystadau mawr, gan roi iawndal i'r tirfeddianwyr, ac ailddosbarthu'r tir i amaethwyr tlawd. Manteisiodd rhyw 500,000 o bobl—tua un o bob bump o'r boblogaeth—ar y gyfraith newydd, y mwyafrif ohonynt yn frodorion a fu'n ddieiddo ers y gorchfygiad Sbaenaidd yn yr 16g.

Aeth y diwygiadau tir yn groes i ddymuniadau'r United Fruit Company, cwmni amlwladol gyda'i bencadlys yn Boston, a berchenai ar blanhigfeydd ffrwythau ar draws America Ladin gan gynnwys ystadau enfawr, rheilffyrdd, a phorthladdoedd yng Ngwatemala. Pwysodd United Fruit ar lywodraeth yr Unol Daleithiau i ymyrryd â'r drefn newydd, a chodwyd braw am bresenoldeb comiwnyddion yng nghabinet Árbenz. Gorchmynnodd Dwight D. Eisenhower, Arlywydd yr Unol Daleithiau, weithredu cudd gan yr Adran Amddiffyn a'r CIA i ddymchwel Árbenz, ac ar 18 Mehefin 1954 lansiwyd gwrthryfel gan alltudion Gwatemalaidd gydag arian ac arfau oddi ar yr Americanwyr. Cydymdeimlodd rhai yn y fyddin â'r gwrthryfelwyr, a gwrthododd eraill i ymladd rhag ofn y byddai'r Unol Daleithiau yn goresgyn y wlad, ac felly ymddiswyddodd Árbenz ar 27 Mehefin. Fe'i olynwyd gan arweinydd y gwrthryfel, y Cyrnol Carlos Castillo Armas.

Aeth Árbenz yn alltud, a bu farw yn Ninas Mecsico ym 1971, yn 57 oed. Yn 2011, cyhoeddodd llywodraeth Gwatemala ymddiheuriad swyddogol am ddymchwel Árbenz.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) "Guatemala apologises to Arbenz family for 1954 coup", BBC (20 Hydref 2011). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 5 Mawrth 2022.