Ivan Bilibin
Ivan Bilibin | |
---|---|
Ganwyd | 4 Awst 1876 (yn y Calendr Iwliaidd) Tarkhovka |
Bu farw | 7 Chwefror 1942, 8 Chwefror 1942 St Petersburg |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia, Yr Undeb Sofietaidd |
Alma mater | |
Galwedigaeth | darlunydd, arlunydd, arlunydd graffig |
Arddull | book illustration |
Prif ddylanwad | Ilya Repin, Anton Ažbe |
Darlunydd a chynllunydd setiau theatr o Rwsia oedd Ivan Yakovlevich Bilibin (Rwsieg Иван Яковлевич Билибин) (4/16 Awst 1876 – 7 Chwefror 1942).
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Creodd Ivan Bilibin ei arddull arbennig ei hun mewn darlunio llyfrau, arddull â'i gwreiddiau'n ddwfn yn arddulliau steilistig celf canoloesol a gwerinol Rwsia, fel y lubok (printiadau poblogaidd rhad y 19g), brodwaith y werin, lluniau bloc pren a llawysgrifau darluniedig. Mae defnydd Bilibin o linellau cysact wedi'u tynnu'n ofalus yn ei gysylltu â gwaith y mudiad Art Nouveau.
Roedd Bilibin yn cael ei adnabod yn bennaf yn ystod ei oes am ei ddarluniau o olygfeydd allan o chwedlau gwerin Rwsiaidd a hefyd o'r bylinas, arwrgerddi hir hynafol Rwsiaidd, yn ogystal â'i luniau ar gyfer gwaith Alecsander Pwshcin a Mikhail Lermontov. Fe wnaeth lawer o waith ar gyfer y theatr yn ogystal, yn sets anferth lliwgar a greai awyrgylch arbennig ar y llwyfan, yn arbennig ar gyfer operâu fel Chwedl Tsar Saltan, Chwedl y Ceiliog Aur, Y Tywysog Igor a Boris Godunov. Creodd gostiwmau i'r olaf hefyd a chafodd ei waith ei weld ym mhrif theatrau St Petersburg, Moscow, Paris a Prague.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Sergei Golynets, Ivan Bilibin (Leningrad, 1981; argraffiad newydd, Llundain, 1981). ISBN 0330266314