Ioan Siencyn
Gwedd
Ioan Siencyn | |
---|---|
Ffugenw | Ioan Siencyn |
Ganwyd | 1716 Llechryd |
Bu farw | 1796 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Bardd Cymraeg oedd John Jenkin (1716 – 1796) neu Ioan Siencyn (hefyd Ioan Siengcin).[1]
Fe'i ganed ym mhlwyf Llechryd, Ceredigion yn 1716, yn fab i grydd a bardd gwlad. Cafodd ei brentisio fel crydd i'w dad a dysgodd elfennau barddoniaeth ganddo hefyd. O 1754 hyd 1793 enillodd ei fywiolaeth fel athro yn Nanhyfer, Sir Benfro, mewn un o ysgolion Griffith Jones, Llanddowror.[1]
Fel bardd, roedd yn ymwybodol o grefft draddodiadol Beirdd yr Uchelwyr, er nad yn perthyn iddynt. Canai gerddi mawl ar y mesurau caeth a rhydd i uchelwyr ei fro. Cyhoeddwyd detholiad o'i gerddi yn 1823.[1]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Casgliad o Ganiadau Difyr (1823)
Cyhoeddwyd 'Cân i ddymuno llwyddiant i long newydd... a elwir Hebog' yn:
- E. G. Millward (gol.), Blodeugerdd Barddas o Gerddi Rhydd y Ddeunawfed Ganrif (Cyhoeddiadau Barddas, 1991). Rhif 47.