Ifor ap Glyn
Ifor ap Glyn | |
---|---|
Ganwyd | 22 Gorffennaf 1961 Llundain |
Man preswyl | Dinbych, Caernarfon |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, cynhyrchydd teledu, sgriptiwr |
Swydd | Bardd Cenedlaethol Cymru |
Bardd Cymraeg yw Ifor ap Glyn (ganwyd 22 Gorffennaf 1961). Enillodd y Goron ym 1999 - am ei gerdd Golau yn y Gwyll, ac yn 2013 am ei gerdd "Terfysg".[1] Fel bardd, mae wedi perfformio'i waith ar draws y byd. Yng Nghymru, mae'n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Caernarfon, a bu'n Fardd Plant Cymru rhwng 2008 a 2009. Fe yw Bardd Cenedlaethol Cymru presennol.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Fe'i ganwyd a magwyd yn Llundain i rieni Cymraeg.[2] Astudiodd ym Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, ac ar ôl graddio a byw yn y brifddinas am gyfnod, fe symudodd i Ddinbych, cyn ymgartrefu yng Nghaernarfon gyda'i deulu. Sefydlodd, gydag eraill, gwmni cynhyrchu ffilm a theledu o'r enw Cwmni Da, sydd wedi ennill sawl gwobr am ei waith ym maes rhaglenni hanes a ffeithiol.[3]
Ar 1 Mawrth 2016 cyhoeddwyd y byddai'n olynu Gillian Clarke fel Bardd Cenedlaethol Cymru gan ddechrau ar y gwaith yn Mai 2016.[2]
Ar 17 Gorffennaf 2017 derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor.[4]
Gwaith creadigol
[golygu | golygu cod]Llyfrau
[golygu | golygu cod]- Ifor ap Glyn (1991). Holl Garthion Pen Cymro Ynghyd. Y Lolfa. ISBN 978-0-86243-238-6.
- Ifor ap Glyn (1998). Golchi Llestri Mewn Bar Mitzvah. Darluniwyd gan Dewi Glyn Jones. Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 978-0-86381-534-8.
- Ifor ap Glyn (2001). Cerddi Map yr Underground. Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 978-0-86381-754-0.
- Ifor ap Glyn (2008). Lleisiau'r Rhyfel Mawr. Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 978-1-84527-210-4.
- Ifor ap Glyn (2011). Waliau'n Canu. Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 978-1-84527-340-8.
- Ifor ap Glyn (2016). Tra Bo Dau. Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 978-1-84527-560-0.
- Ifor ap Glyn (2018). Hanes yr Iaith Mewn 50 Gair. Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 978-1-84527-652-2.
- Ifor ap Glyn (2018). Cuddle Call?. Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 978-1-84527-678-2.
Rhaglenni teledu
[golygu | golygu cod]Ifor ap Glyn oedd cyflwynydd a chynhyrchydd y rhaglenni isod:
- Lleisiau'r Rhyfel Mawr
- Popeth yn Gymraeg
- Ar Lafar
- Frongoch – Birthplace of the IRA
- Tai Bach y Byd / The Toilet – an Unspoken History
- Llefydd Sanctaidd
Theatr
[golygu | golygu cod]Ysgrifennodd Ifor ap Glyn y sioeau theatr isod:
- Branwen
- Frongoch
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [Terfysg Gwefan y BBC]; adalwyd 07 Awst 2013
- ↑ 2.0 2.1 Ifor ap Glyn yw'r Bardd Cenedlaethol newydd , BBC Cymru Fyw, 1 Mawrth 2016.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-03-18. Cyrchwyd 2012-07-03.
- ↑ Chris Coleman i’w anrhydeddu gan Brifysgol Bangor. Prifysgol Bangor (17 Gorffennaf 2017).
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Ifor ap Glyn ar Twitter
- Blog gan Ifor ap Glyn Archifwyd 2006-02-18 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Cyfweliad am Ar Lafar, Western Mail
- Bywgraffiad ar wefan Llenyddiaeth Cymru Archifwyd 2014-03-02 yn y Peiriant Wayback
- Egin llenorion o Gymru
- Genedigaethau 1961
- Beirdd yr 20fed ganrif o Gymru
- Beirdd yr 21ain ganrif o Gymru
- Beirdd Cenedlaethol Cymru
- Beirdd Cymraeg o Gymru
- Cyflwynwyr teledu o Gymru
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd
- Cymry Llundain
- Dramodwyr yr 20fed ganrif o Gymru
- Dramodwyr yr 21ain ganrif o Gymru
- Dramodwyr Cymraeg o Gymru
- Pobl a aned yn Llundain
- Prifeirdd