Ie dros Gymru
Ie dros Gymru! yw'r enw a ddefnyddir i gyfeirio at ddau grŵp trawsbleidiol ar wahân o blaid datganoli a ffurfiwyd yn y cyfnod cyn refferenda datganoli 1997 a 2011 a gynhaliwyd yng Nghymru.
Ymgyrch 1997
[golygu | golygu cod]Cadeirwyd Ie dros Gymru! gan Kevin Morgan, Athro o Brifysgol Caerdydd . Trefnydd cenedlaethol yr ymgyrch oedd Daran Hill. [1]
Yn ystod yr ymgyrch am Gynulliad i Gymru, bu farw'r Dywysoges Diana mewn damwain car ym Mharis, Ffrainc. Roedd yr ymgyrch wedi ei gohirio dros dro, ac roedd rhai yn ystyried pa effaith y byddai marwolaeth Tywysoges Cymru yn ei chael ar y refferendwm. Roedd llawer o sylwebwyr yn pryderu y byddai marwolaeth y dywysoges a chanolbwyntio ar y Teulu Brenhinol yn tynnu sylw oddi ar y ddadl ar ddatganoli ac yn effeithio ar y nifer fyddai'n pleidleisio. [2]
Ymgyrch 2011
[golygu | golygu cod]Lansiwyd grŵp 2011 ar 4 Ionawr 2011. [3] Cadeirydd y grŵp oedd Roger Lewis, prif weithredwr grŵp Undeb Rygbi Cymru. [4]
Cefnogwyd yr ymgyrch gan ddwy blaid llywodraeth glymblaid Cymru'n Un yn y Cynulliad : Plaid Lafur Cymru a Phlaid Cymru, yn ogystal â'r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Werdd Cymru . [5]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Datganoli Cymreig
- Etholiadau yng Nghymru
- Senedd
- Annibyniaeth Gymreig
- Ymgyrch Senedd i Gymru
- Rhestr o symudiadau yng Nghymru
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Daran Hill's Profile". Positif Politics. 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-10-06. Cyrchwyd January 25, 2011.
- ↑ "That's when I ran to the phone..." BBC Wales. 18 September 2007.
- ↑ "Official launch of Yes Campaign in Wales". BBC News. 2011-01-04.
- ↑ "Assembly powers campaign can 'unite Wales'". BBC News. 2010-12-14.
- ↑ "Vote "Yes for Wales" on 3rd March". greenparty.org.uk. 27 February 2011. Cyrchwyd 12 March 2022.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Leighton Andrews, Cymru'n Dweud Ie: Y Stori Tu Mewn i ymgyrch refferendwm Ie Dros Gymru, ( Seren.Pen-y-bont ar Ogwr) 1999
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol yr ymgyrch "IE" "Ie dros Gymru" Archifwyd 2011-01-09 yn y Peiriant Wayback
- Ein Cynulliad Archifwyd 2016-10-27 yn y Peiriant Wayback, grŵp cymorth ymgyrch Ie Dros Gymru
- Dylunwyr logo ymgyrch "IE" 2011 "Ie dros Gymru". Archifwyd 2011-06-28 yn y Peiriant Wayback
- 'Ie dros Gymru' Cofnodion Ymgyrch Refferendwm 1997 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru