Ian Jones
Ian Jones | |
---|---|
Ganwyd | 14 Ionawr 1959 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Swydd | prif weithredwr |
Gweithredwr ym myd teledu yw Ian Jones (ganwyd 14 Ionawr 1959) a oedd yn Brif Weithredwr S4C rhwng 2011 a 2017. Mae ganddo brofiad o weithio yn y DU ac yn yr UDA, gan ddal swyddi uchel yn National Geographic TV ac A&E Networks cyn ymuno â S4C yn Ebrill 2012. Penderfynodd adael ei swydd gyda S4C yn 2017 ac ei olynydd oedd Owen Evans.[1]
Bywyd personol ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganwyd Jones yn Nhreforys, Abertawe yn 1959 i Margaret Jones a Lyle Jones. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Gyfun Ystalyfera, ac astudiodd economeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Roedd Jones yn weithredwr comisiynu ac yn rhan o'r tîm gwreiddiol wrth lansio S4C yn 1982, gan aros hyd 1985 pan ymunodd â ITV fel rheolwr uned yn ei is-adran adloniant.
O 1987-1989 roedd Jones yn gynhyrchydd teledu annibynnol, cyn dychwelyd i S4C fel cyfarwyddwr Rhyngwladol a Chydgynhyrchu yn 1992.
Gadawodd S4C eto yn 1996 i ddod yn gyfarwyddwr o adran ryngwladol STV, ac am gyfnod byr yn 2000 roedd yn brif swyddog gweithredol STV. Gadawodd STV yn hwyrach yn 2000 i fod yn ddirprwy rheolwr gyfarwyddwr o adran ryngwladol Granada hyd 2004.
Rhwng 2004 a 2007 roedd Jones yn lywydd National Geographic TV International, ac wedi hynny roedd yn dal swyddi yn Target Entertainment Group a A&E Networks. Cafodd ei benodi yn brif weithredwr S4C ym mis Hydref 2011 ond ni gychwynnodd y swydd tan Ebrill 2012.
Swyddi arall
[golygu | golygu cod]Mae Ian Jones yn Ymddiriedolwr, Cymru, o elusen Cymorth i Ddioddefwyr, Cyfarwyddwr CDN, aelod o Rhwydwaith Amrywiaeth Creadigol, yn aelod o Fwrdd Ymgynghorol Croeso Cymru, yn gyn-Gadeirydd Bafta Cymru ac yn Gymrawd Anrhydeddus o Brifysgol Aberystwyth.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ S4C yn cyhoeddi fod ei Brif Weithredwr yn gadael ei rôl ar ddiwedd 2017. S4C (9 Rhagfyr 2016). Adalwyd ar 15 Mai 2017.