Hywel ab Ednyfed
Hywel ab Ednyfed | |
---|---|
Bu farw | 1247 |
Tad | Ednyfed Fychan |
Mam | Tangwystl ferch Llywarch |
Esgob Llanelwy o 1240 i 1247 oedd Hywel ab Ednyfed (bu farw 1247), y cyfeirir ato hefyd fel Hywel II.[1]
Cymharol ychydig a wyddom am Hywel. Mae'n bosibl ei fod yn un o feibion Ednyfed Fychan, er nad oes sicrwydd am hynny. Cyfeirir ato sawl gwaith yn nogfennau'r cyfnod yng nghwmni'r Tywysog Dafydd ap Llywelyn, mab Llywelyn Fawr.[2]
Cyfeirir at Hywel ym Mrut y Tywysogion fel yr esgob a gysegrodd Frodordy Llan-faes, Môn. Cododd y Tywysog Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) fynachlog yn Llan-faes i'r Brodyr Troednoeth er anrhydedd i'w wraig y Dywysoges Siwan, merch y brenin John o Loegr ar ôl iddi farw yn 1237. Dyma'r cofnod ym Mrut y Tywysogion:
- Y flwyddyn ragwyneb y bu farw Dâm Siwan, ferch Ieuan frenin, gwraig Llywelyn ap Iorwerth, fis Chwefror yn llys Aber; ac y'i claddwyd mewn mynwent newydd ar lan y traeth a gysegrasai Hywel, esgob Llanelwy. Ac o'i hanrhydedd hi ydd adeiladawdd Llywelyn ap Iorwerth yno fynachlog (i'r Brodyr) Troednoeth a elwir Llan-faes ym Môn.[3]
Bu farw Hywel ger Rhydychen yn 1247, efallai tra yno fel rhan o lysgenhadaeth Gwynedd yn y trafodaethau a arweiniodd at Gytundeb Woodstock yn y flwyddyn honno, ar ran y Llywelyn ap Gruffudd ifanc a'i frawd Owain.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]