Hepatitis A
Enghraifft o'r canlynol | clefyd heintus, clefyd hysbysadwy, dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | clefyd heintus firol, hepatitis firol, clefyd a gludir gan ddŵr, clefyd |
Symptomau | Hepatitis, cyfog, chwydu |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae hepatitis A yn glefyd heintus sy'n effeithio ar yr iau ac sydd wedi'i achosi gan feirws hepatitis A (HAV).[1] Ychydig iawn, os o gwbl, yw'r symptomau mewn nifer o achosion, yn arbennig ymhith yr ifanc. Mae'r amser rhwng heintio a symptomau, i'r rhai sy'n eu harddangos, rhwng pythefnos a chwe wythnos.[2] Pan fydd symptomau yn digwydd, maen nhw fel arfer yn para wyth wythnos ac yn gallu cynnwys cyfog, chwydu, dolur rydd, clefyd melyn, twymyn, a phoen abdomenol. Mae tua 10–15% o bobl yn cael y symptonau eto yn ystod y chwe mis yn dilyn yr heintio cyntaf.[3] Prin iawn y bydd yr iau yn methu o ganlyniad, ond mae i'w weld yn bennaf yn yr henoed.
Mae'r clefyd fel arfer yn cael ei ledu drwy fwyta bwyd neu yfed dwr sydd wedi'i heintio gyda ysgarthion sydd wedi'u heintio.[4] Mae pysgod mor sydd heb eu coginio yn ddigonol yn ffynhonnell cymharol gyffredin.[5] Gall hefyd gael ei ledu trwy gysylltiad agos a pherson sydd wedi'i heintio. Er nad yw plant yn arddangos symptomau pan maen nhw wedi'u heintio, maen nhw'n dal yn gallu heintio eraill. Yn yr heintiad cyntaf, mae person yn imiwn am weddill eu bywyd.[6] Mae diagnosis requires blood testing, as the symptoms are similar to those of a number of other diseases. It is one of five known hepatitis viruses: A, B, C, D, and E.
Mae brechiad hepatitis A yn ddull effeithiol o atal y clefyd.[7] Mae rhai gwledydd yn ei argymell fel mater o drefn i blant a'r rhai sydd â risg uwch o'i ddal sydd heb eu brechu yn barod. Mae'n ymddangos fel petai'n effeithiol am oes. Mae mesurau ataliol eraill yn cynnwys golchi dwylo a choginio bwyd yn drylwyr. Nid oes unrhyw driniaeth benodol ar gael, gyda gorffwys a meddyginiaethau ar gyfer cyfog neu dolur rydd yn cael hargymell yn ôl yr angen. Mae heintiadau fel arfer yn cael eu gwella yn llwyr heb unrhyw glefyd afu pellach. Mae methiant afu aciwt, os yw'n digwydd, yn cael ei drin gyda thrawsblaniad afu.
Yn fyd-eang, mae tua 1.4 miliwn o achosion symptomatig bob blwyddyn a thua 114 miliwn o heintiadau (symptomatig a ansymptomatig). Mae'n fwy cyffredin mewn rhannau o'r byd gyda safon isel o lanweithdra a phrinder dwr diogel.[8] Yn y byd datblygol, mae tua 90% o blant wedi eu heintio erbyn eu bod yn 10 oed, ac felly yn imiwn erbyn eu bod yn oedolion. Mae'n aml i'w weld mewn pyliau mewn gwledydd lled ddatblygol lle nad yw plant yn agored iddo ac nad yw brechiadau yn gyffredin. Yn 2015, arweiniodd hepatitis A aciwt at 11,200 o farwolaethau. Cynhelir Dydd Hepatitis y Byd yn flynyddol ar Orfennaf 28 i godi ymwybyddiaeth o hepatitis firol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Ryan KJ, Ray CG (editors) (2004). Sherris Medical Microbiology (arg. 4th). McGraw Hill. tt. 541–4. ISBN 0-8385-8529-9.CS1 maint: extra text: authors list (link)CS1 maint: Extra text: authors list (link)
- ↑ Connor BA (2005). "Hepatitis A vaccine in the last-minute traveler". Am. J. Med. 118 (Suppl 10A): 58S–62S. doi:10.1016/j.amjmed.2005.07.018. PMID 16271543.
- ↑ "Esto es la hepatitis: Conócela, enfréntate a ella". Infoterio Noticias | Ciencia y Tecnología (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 2023-02-15.
- ↑ Matheny, SC; Kingery, JE (1 December 2012). "Hepatitis A.". Am Fam Physician 86 (11): 1027–34; quiz 1010–2. PMID 23198670. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 March 2014. http://www.aafp.org/afp/2012/1201/p1027.html.
- ↑ Bellou, M.; Kokkinos, P.; Vantarakis, A. (March 2013). "Shellfish-borne viral outbreaks: a systematic review.". Food Environ Virol 5 (1): 13–23. doi:10.1007/s12560-012-9097-6. PMID 23412719.
- ↑ The Encyclopedia of Hepatitis and Other Liver Diseases. Infobase. 2006. t. 105. ISBN 9780816069903. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-08. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Hepatitis A immunisation in persons not previously exposed to hepatitis A.". Cochrane Database Syst Rev 7: CD009051. 2012. doi:10.1002/14651858.CD009051.pub2. PMID 22786522.
- ↑ "Hepatitis A Fact sheet N°328". World Health Organization. July 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 February 2014. Cyrchwyd 20 February 2014. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)