Harry Bowen
Harry Bowen | |
---|---|
Ganwyd | 4 Mai 1864 Llanelli |
Bu farw | 17 Awst 1913 Bynea |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb, swyddog gêm rygbi'r undeb |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Llanelli |
Safle | Cefnwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Roedd David Henry "Harry" Bowen (4 Mai 1864 - 17 Awst 1913) yn chwaraewr rygbi'r undeb ryngwladol a chwaraeodd rygbi clwb i Lanelli a rygbi rhyngwladol i Gymru .[1] Ar ôl iddo ymddeol o chwarae daeth yn weinyddwr a dyfarnwr rygbi. Fe’i cofir orau fel capten poblogaidd Llanelli, a sgoriodd y gôl adlam buddugol yn erbyn Māori Seland Newydd ar eu taith ym 1888 .
Gyrfa chwarae
[golygu | golygu cod]Ymunodd Bowen â Llanelli yn 15 oed a daeth yn ffefryn clwb yn gyflym.[2] Cafodd ei ddewis gyntaf i gynrychioli Cymru fel rhan o Bencampwriaeth y Cenhedloedd Cartref 1883 yn erbyn Lloegr yng ngêm agoriadol y gystadleuaeth newydd. O dan gapteiniaeth Charles Lewis, roedd Bowen yn un o dri chwaraewr o Lanelli a ddewiswyd ar gyfer y gêm, ac ynghyd â chyd-chwaraewyr Alfred Cattell a Thomas Judson oedd y chwaraewr cyntaf i gynrychioli Llanelli ar lefel ryngwladol. Roedd y gêm yn un unochrog, gyda Lloegr yn fuddugol, er bod y chware Cymreig o safon uwch na'r cyfarfyddiad cyntaf rhwng y ddau dîm. Roedd gêm nesaf y twrnamaint yn gêm oddi cartref i'r Alban, ac arbrofodd Cymru trwy chware efo dim ond un cefnwr am y tro cyntaf.[3] Roedd Bowen yn un o’r pâr o gefnwyr, mewn ar gyfer gêm Lloegr gyda’r capten Lewis, roedd y detholwyr yn ffafrio Lewis, a gollyngwyd Bowen.
Ym 1884 roedd Bowen yn rhan o garfan Llanelli a gyrhaeddodd rownd derfynol Cwpan Her De Cymru 1884, gan wynebu Casnewydd . Wedi'i chwarae yng Nghastell-nedd, curodd Llanelli Gasnewydd o un cais i ddim. Ym 1886 cyfarfu’r ddau dîm eto yn rownd derfynol yr un gystadleuaeth, y tro hwn roedd Bowen yn gapten ar Lanelli, ar ôl cael y swydd wedi ymddeoliad canol tymor Frederick Margrave.[4] Pan oedd Llanelli yn fuddugol eto, dathlwyd eu dychweliad i'r dref gan y bobl leol a'u cyfarchodd â miloedd o rocedi a goleuadau lliw. Awgrymodd 'Touchstone', gohebydd chwaraeon y Western Mail y dylid "coffáu Bowen mewn cerflun tunplat".[5]
Ym 1884 symudodd Bowen i Ogledd Lloegr am gyfnod byr, pan arwyddodd i Dewsbury ; ond ar ôl chwarae "dim ond llond llaw o gemau", dychwelodd i chwarae yng Nghymru.[6]
Ym 1886 cafodd Bowen ei alw yn ôl i garfan Cymru ar ôl i Arthur Gould o Gasnewydd, a oedd wedi cymryd safle Charles Lewis, newid o fod yn gefnwr i safle'r tri chwarter. Fe roddodd hyn dri chap arall i Bowen, y ddwy gêm ym Mhencampwriaeth 1886 a’r agorwr ym 1887 . Ar ôl colli i Loegr yng ngêm gyntaf twrnamaint 1886, penderfynodd Cymru a chapten Caerdydd, Frank Hancock, dreialu'r system pedwar tri chwarter.[7] Er bod Cymru’n gryf yn eu chwarae cefn cyflym, dechreuodd pŵer pecyn yr Alban, a oedd bellach â mantais o un dyn, ddominyddu’r chwarae blaen. Roedd blaenwyr Cymru yn ymddangos yn anfodlon i roi'r bêl i'r cefnwyr, felly yn ystod y gêm rhoddwyd y gorau i'r dacteg tri chwarter a phenderfynwyd y byddai Bowen yn symud i'r pac i ddarparu atgyfnerthiad, tra bod Gould yn disgyn i'r cefn.[2] Roedd rhai cefnogwyr yn gweld hyn fel symudiad 'gwleidyddol' gan gapten Caerdydd, yn aberthu chwaraewr o Lanelli i ganiatáu safle'r cefnwr i Gould. Ysgrifennodd y Guardian, "i blesio Caerdydd, chwaraewyd pedwar tri chwarter gyda chanlyniadau trychinebus. Pan oedd yn rhaid gwneud lle i ddyn o Gaerdydd, roedd yn rhaid i ŵr o Lanelli, wrth gwrs, wneud lle iddo. " Byddai Bowen yn chwarae un gêm arall i Gymru, gêm gyfartal di sgôr yn erbyn Lloegr ym Mharc y Strade ym 1887, a daeth Hugh Hughes yn ei le yng ngêm nesaf y twrnamaint; ond cafodd Cymru anhawster dod o hyd i gefnwr tymor hir tan ymddangosiad Billy Bancroft yn ystod tymor 1889/90.
Ym 1888, gyda'i yrfa rygbi rhyngwladol y tu ôl iddo, chwaraeodd Bowen yn ei gêm fwyaf nodedig pan oedd yn rhan o dîm Llanelli fu'n wynebu Māori Seland Newydd ar daith. Sgoriodd Bowen nid yn unig gôl adlam ysblennydd [8] o agos at y llinell hanner ffordd, a ddaeth â buddugoliaeth i Lanelli; ond hefyd rhwystrodd ymgais un o'r Māori i gicio at y gôl a fyddai wedi dod a'r gêm yn gyfartal.[9][10] Er i Bowen chwarae rhan hanfodol yn y gêm, ni chafodd ei ddewis ar gyfer tîm Cymru a wynebodd y Māori dridiau yn ddiweddarach yn Abertawe.
Ym mis Ionawr 1889, gadawodd Bowen Llanelli i ymgymryd â swydd ddysgu ym Mangor, er iddo gadw cysylltiad agos â'r clwb.[11] Roedd yn cael ei gofio fel capten diwyd a oedd yn "cadw ei lygaid ar hyd a lled y cae" ac yn dal y gallu i sicrhau ufudd-dod gan ei gyd-chwaraewyr.[12]
Gemau rhyngwladol a chwaraewyd
[golygu | golygu cod]Cymru (rygbi'r undeb) [13]
Fel gweinyddwr
[golygu | golygu cod]Ar ôl ymddeol o chwarae rygbi, cadwodd Bowen ei gysylltiadau ag rygbi'r undeb. Ar ôl dychwelyd i Orllewin Cymru ym 1891 daeth yn weinyddwr ar gyfer Clwb Rygbi Llanelli, gan ymgymryd â rôl ysgrifennydd y clwb.[14] Y flwyddyn nesaf estynnodd ei ddyletswyddau trwy ddod yn drysorydd y clwb, gan ddal y ddwy swydd hyd 1897 pan basiwyd y dyletswyddau i Rhys Harry. Arhosodd Bowen ar fwrdd reoli Llanelli, ac ym 1897 etholwyd ef yn gadeirydd clwb, rôl a ddaliodd hyd 1902. Roedd ei ddyletswyddau i rygbi yn ymestyn y tu hwnt i lefel clwb wrth iddo ddod yn ddewisydd Cymreig a dyfarnwr rygbi yn ddiweddarach.[15] Dyfarnodd ddim ond un gêm ryngwladol, gêm ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd Cartref ym 1905 rhwng Lloegr a'r Alban.[16]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Billot, John (1972). All Blacks in Wales. Ferndale: Ron Jones Publications.
- Collins, Tony (1998). Rugby's Great Split, Class, Culture and Origins of Rugby League Football. Routledge. ISBN 978-0-7146-4867-5.
- Godwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883–1983. Grafton Street, London: Willow Books. ISBN 0-00-218060-X.
- Griffiths, John (1987). The Phoenix Book of International Rugby Records. London: Phoenix House. ISBN 0-460-07003-7.
- Hughes, Gareth (1986). The Scarlets: A History of Llanelli Rugby Club. Llanelli: Llanelli Borough Council. ISBN 0906821053.
- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 0-7083-0766-3.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Harry Bowen". ESPN Scrum. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-09. Cyrchwyd 10 July 2014.
- ↑ 2.0 2.1 Smith (1980), p.62
- ↑ Godwin (1984), p.2
- ↑ Hughes (1986), p.29
- ↑ Smith (1980), p.2
- ↑ Collins (1998), p.56
- ↑ Smith (1980), p.61
- ↑ Billot (1972), p.15
- ↑ Richards, Huw (27 December 2013). "'A model of skill to guide rugby into the future'". ESPN Scrum. Cyrchwyd 10 July 2014.[dolen farw]
- ↑ Billot (1972), p.16
- ↑ Hughes (1986) p.36
- ↑ Hughes (1986) p.30
- ↑ Smith (1980), p.464
- ↑ Hughes (1896), p.257
- ↑ Smith (1980), p.193
- ↑ "Welsh international referee roll of honour". wru.co.uk. 28 December 2005. Cyrchwyd 10 July 2014.