Neidio i'r cynnwys

Harper Lee

Oddi ar Wicipedia
Harper Lee
FfugenwHarper Lee Edit this on Wikidata
Ganwyd28 Ebrill 1926 Edit this on Wikidata
Monroeville Edit this on Wikidata
Bu farw19 Chwefror 2016 Edit this on Wikidata
Monroeville Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Alabama
  • Huntingdon College
  • University of Utah Health Care
  • Monroe County High School
  • Ysgol y Gyfraith Prifysgol Alabama Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, nofelydd, cerddor, sgriptiwr, bardd-gyfreithiwr, rhyddieithwr, actor Edit this on Wikidata
Adnabyddus amTo Kill a Mockingbird Edit this on Wikidata
ArddullSouthern Gothic Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadWilliam Faulkner Edit this on Wikidata
TadAmasa Coleman Lee Edit this on Wikidata
MamFrances Cunningham Finch Edit this on Wikidata
Gwobr/auY Medal Celf Cenedlaethol, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr Pulitzer am Ffuglen, Oriel yr Anfarwolion Alabama Edit this on Wikidata
llofnod

Nofelydd o'r Unol Daleithiau oedd Nelle Harper Lee (28 Ebrill 192619 Chwefror 2016) a oedd yn adnabyddus am ei nofel To Kill a Mockingbird. Roedd y nofel yn llwyddiant o'r cychwyn, gan ennill Gwobr Pulitzer ac fe ddaeth yn glasur o lenyddiaeth Americanaidd fodern.

Roedd y plot a'r cymeriadau wedi eu seilio yn fras ar ei arsylwadau o'i theulu a'i chymdogion, yn ogystal â digwyddiad yn agos i'w thref yn 1936, pan oedd yn 10 mlwydd oed. Mae'r nofel yn ymdrin ac afresymoldeb agwedd oedolion tuag at hil a dosbarth ym Mhellafoedd y De yn ystod y 1930au, drwy lygaid dau blentyn. Roedd y nofel wedi ei ysbrydoli gan yr agweddau hiliol a welodd fel plentyn yn ei chartref o Monroeville. Er mai dim ond un llyfr a gyhoeddodd Lee mewn hanner canrif, fe gwobrwywyd gyda Medal Rhyddid yr Arlywydd am ei chyfraniad i lenyddiaeth.[1] Derbyniodd Lee nifer o raddau er anrhydedd, ond dewisodd peidio siarad ar bob achlysur. Fe wnaeth Lee gynorthwyo ei ffrind agos Truman Capote gyda'i ymchwil ar gyfer ei lyfr In Cold Blood (1966).[2]

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganwyd a magwyd Nelle Harper Lee yn Monroeville, Alabama, yr ieuengaf o bedwar o blant i Frances Cunningham (Finch) a Amasa Coleman Lee.[3] Ei enw cyntaf, Nelle, oedd enw ei mamgu wedi ei sillafu o chwith, a dyna'r enw roedd hi'n defnyddio.[4] Harper Lee oedd ei llysenw.[4] Roedd ei mam yn wraig tŷ; roedd ei thad, yn gyn golygydd a pherchennog papur newydd, yn gyfreithiwr a wasanaethodd gyda Deddfwrfa Daleithiol Alabama o 1926 hyd 1938. Cyn i A.C. Lee ddod yn gyfreithiwr teitl, fe amddiffynnodd dau ddyn du oedd wedi ei gyhuddo o lofruddio perchennog siop gwyn. Cafodd y ddau, tad a mab, eu crogi.[5] Roedd gan Nelle Lee tri brawd neu chwaer: Alice Finch Lee (1911–2014),[6] Louise Lee Conner (1916–2009) ac Edwin Lee (1920–1951).[7]

Wrth fynychu Ysgol Uwchradd Sirol Monroe, datblygodd Lee ddiddordeb mewn llenyddiaeth Saesneg. Ar ôl graddio o ysgol uwchradd yn 1944,[3] fe fynychodd y coleg i ferched (ar y pryd) Huntingdon College yn Montgomery am flwyddyn, yna trosglwyddodd i Brifysgol Alabama yn Tuscaloosa, lle astudiodd y gyfraith am sawl blwyddyn, a lle ysgrifennodd i bapur newydd y brifysgol, ond ni chwblhaodd ei gradd.[3]

Marwolaeth

[golygu | golygu cod]

By farw Lee yn ei chwsg ar fore 19 Chwefror 2016 yn 89 mlwydd oed.[8][9] Hyd ei marwolaeth, roedd hi'n byw yn Monroeville, Alabama.[10]

Gwaith

[golygu | golygu cod]

Llyfrau

[golygu | golygu cod]

Erthyglau

[golygu | golygu cod]
  • "Love—In Other Words". (15 Ebrill 1961) Vogue, pp. 64–65
  • "Christmas to Me". (Rhagfyr 1961) McCall's
  • "When Children Discover America". (Awst 1965) McCall's
  • "Romance and High Adventure" (1983), papur gyflwynwyd yn Eufaula, Alabama, a gasglwyd yn 1985 yn y casgliad Clearings in the Thicket.
  • Llythyr agored ii Oprah Winfrey (Gorffennaf 2006), O: The Oprah Magazine

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "President Bush Honors Medal of Freedom Recipients" (Press release). The White House. 5 Tachwedd 2007. http://georgewbush-whitehouse.archives.gov/news/releases/2007/11/20071105-1.html.
  2. Harris, Paul. Harper Lee sues agent over copyright to To Kill A Mockingbird (en) , 4 Mai 2013.
  3. 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) Nelle Harper Lee. The Encyclopedia of Alabama. Auburn University at Montgomery (19 Mawrth 2007). Adalwyd ar 3 Tachwedd 2010.
  4. 4.0 4.1 Kovaleski, Serge. Harper Lee's Condition Debated by Friends, Fans and Now State of Alabama , 11 Mawrth 2015. Cyrchwyd ar 12 Mawrth 2015.
  5. Shields, Charles J. (2006). Mockingbird: A Portrait of Harper Lee. Henry Holt and Co.. URL
  6. Woo, Elaine. Lawyer Alice Lee dies at 103; sister of 'To Kill a Mockingbird' author (en) , 22 Tachwedd 2014.
  7. Louise L. Conner Obituary (en) .
  8. Harper Lee, 'To Kill a Mockingbird' author, dead at 89 (en) , 19 Chwefror 2016.
  9. Harper Lee dead at age of 89: 'To Kill a Mockingbird Author' passes away (en) , AL.com, 19 Chwefror 2016.
  10. US author Harper Lee dies aged 89 (en) , 19 Chwefror 2016.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]