Gyda'r Glannau
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Iaith | Cymraeg |
Nofel fer gan Edward Tegla Davies ("Tegla") yw Gyda'r Glannau, gyhoeddwyd yn y gyfres clawr meddal boblogaidd gan Llyfrau'r Dryw, Llandybïe, yn 1941.
Hunangofiant ffug gweinidog Wesleiaidd yw'r nofel. Ei deitl llawn, yn null y cofiannau Cymraeg traddodiadol, yw
- GYDA'R GLANNAU / sef Atgofion / y Parchedig / WILLIAM CICERO-WILLIAMS / gyda nodiadau / gan / E. TEGLA DAVIES.
Fel yr awgryma ei enw, mae William Cicero-Williams yn hoff o draethu ar bob pwnc dan haul. Rhyw hunangofiant ffug am Tegla ei hun ydyw mewn gwirionedd, yn seiliedig ar ei brofiadau fel gweinidog Wesleiaidd yn symud o gylchdaith i gylchdaith o gwmpas trefi bach yng nghefn-gwlad Cymru.