Gwilym R. Jones
Gwedd
Gwilym R. Jones | |
---|---|
Ganwyd | 24 Mawrth 1903 Tal-y-sarn |
Bu farw | 29 Gorffennaf 1993 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, newyddiadurwr |
Bardd a golygydd y cylchgrawn wythnosol Y Faner am dros 25 mlynedd oedd Gwilym Richard Jones (24 Mawrth 1903 – 29 Gorffennaf 1993). Cafodd ei fagu yn Nhalysarn, Dyffryn Nantlle, Gwynedd.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Dechreuodd ei waith fel newyddiadurwr ar staff Yr Herald Cymraeg yng Nghaernarfon cyn symud i Faner ac Amserau Cymru yn 1945. Cyhoeddodd pum cyfrol o gerddi ynghyd â dwy nofel fer, Y Purdan (1942) a Seirff yn Eden (1963). Yn yr Eisteddfod Genedlaethol enillodd y Gadair yn 1938, y Goron (1935) a'r Fedal Ryddiaith (1941). Bu farw yn 1993 yn ddeg ar bedair ugain oed.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Barddoniaeth
[golygu | golygu cod]- Caneuon (1935)
- Cerddi (1969)
- Y Syrcas (1975)
- Y Ddraig (1978)
- Eiliadau (1981)
Rhyddiaith
[golygu | golygu cod]- Y Purdan (1942)
- Seirff yn Eden (1963)
Astudiaethau
[golygu | golygu cod]- W.I. Cynwil Williams (gol.), Bro a Bywyd: Gwilym R. Jones 1903-1993 (Cyhoeddiadau Barddas, 2001)