Guildhaume Myrddin-Evans
Guildhaume Myrddin-Evans | |
---|---|
Ganwyd | 17 Rhagfyr 1894 Abertyleri |
Bu farw | 15 Chwefror 1964 Regent's Park |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwas sifil |
Plant | George Watkin Myrddin-Evans |
Roedd Guildhaume Myrddin-Evans (17 Rhagfyr 1894 – 15 Chwefror 1964) yn uwch was sifil ac yn arbennigwr llafur.
Bywyd Cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Guildhaume Myrddin-Evans yn fab i'r Parch Thomas Towy Evans, a Mary (ganwyd James) ei wraig. Cafodd ei addysg yn ysgol elfennol Cwmtyleri, ysgol y sir, Abertyleri, Coleg Llanymddyfri, ac Eglwys Crist, Rhydychen, lle graddiodd gydag anrhydedd Dosbarth I mewn Mathemateg[1].
Teulu
[golygu | golygu cod]Yn 1919 priododd Elizabeth, merch Owen Watkins, Sarn, Sir Gaernarfon a chawsant 2 fab. Roedd yn aelod o gyngor Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr ac Iwerddon o 1943, a gwasanaethodd fel ysgrifennydd capel y Bedyddwyr yn Bloomsbury, Llundain.[1].
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ymunodd a'r Cyffinwyr De Cymru a gwasanaethodd fel Is-Gapten yn y Rhyfel Mawr yn Ffrainc a Fflandrys cyn cael ei niweidio'n ddrwg yn 1917. Daeth yn aelod o ysgrifenyddiaeth bersonol Lloyd George yn Downing Street cyn cael ei benodi yn ysgrifennydd cynorthwyol i gabinet y rhyfel yn 1919. Gweithiodd yn y Trysorlys rhwng 1920 ac 1929 cyn symud i'r Weinyddiaeth Lafur a dod yn ddirprwy swyddog yswiriant gwladol yn 1935. Fel aelod o ddirprwyaeth Prydain roedd e yn Gynhadleddau ar Iawndal y Rhyfel Mawr yn Yr Hâg yn 1929 a 1930[2]. Yn 1938 cafodd ei benodi yn bennaeth adran llafur rhyngwladol[3]. Daeth yn bennaeth y Production Executive Secretariat o fewn swyddfeydd cabinet y rhyfel yn 1941 ac yn ymgynghorydd i Gomisiwn Gweithlu Rhyfel llywodraeth Taleithiau Unedig America yn 1942. Bu hefyd yn ymgynghorydd i lywodraeth Canada[1]. Cafodd ei benodi yn is-ysgrifennydd yn y Weinyddiaeth Lafur a'r Gwasanaeth Gwladol yn 1942 ac yna yn ddirprwy ysgrifennydd yn 1945.
Yn y rol hwn, Guildhaume Myrddin-Evans oedd cynrychiolydd llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gorff llywodraethol y Swyddfa Lafur Ryngwladol rhwng 1945 ac 1959 a bu'n gadeirydd arni dair gwaith. Roedd yn brif ymgynghorwr ar lafur rhyngwladol i'r llywodraeth rhwng 1955 ac 1959.
Yn dilyn ei ymddeoliad penodwyd yn gadeirydd ar Gomisiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru yn 1959. Cyhoeddodd adroddiad y comisiwn yn 1963.[1]
Derbyniodd y C.B. yn 1945 a'r K.C.M.G. yn 1947[1].
Cafodd ei archif ei gyflwyno i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn 2019[4].
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]Ef oedd cyd-awdur y gyfrol The employment exchange of Great Britain (1934).
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 "MYRDDIN-EVANS, Syr GUILDHAUME (1894 - 1964), gwas sifil | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-09-03.
- ↑ "Sir Guildhaume Myrddin-Evans, British Manpower Expert, Dies; Helped Organize Labor Force Before the War-Headed International Parley". The New York Times (yn Saesneg). 1964-02-18. ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2020-09-03.
- ↑ "Evans, Sir Guildhaume Myrddin- (1894–1964), civil servant". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-35179. Cyrchwyd 2020-09-03.
- ↑ "Archifau Fesul Thema | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-30. Cyrchwyd 2020-09-04.