Gogledd Orllewin Clwyd (etholaeth seneddol)
Enghraifft o'r canlynol | Etholaeth Senedd y Deyrnas Unedig |
---|---|
Daeth i ben | 8 Ebrill 1997 |
Dechrau/Sefydlu | 9 Mehefin 1983 |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Cymru |
Roedd Gogledd Orllewin Clwyd yn cyn etholaeth seneddol Gymreig a oedd yn arfer dychwelyd un Aelod Seneddol (AS) i Dŷ'r Cyffredin Senedd y Deyrnas Unedig.
Hanes
[golygu | golygu cod]Cafodd yr etholaeth ei greu ar gyfer etholiad cyffredinol 1983 a chafodd ei diddymu ar gyfer etholiad cyffredinol 1997.
Crëwyd y sedd trwy uno rhannau helaeth o gyn etholaeth Ddinbych a chyn etholaeth Sir y Fflint roedd y ddwy gyn etholaeth yn cael eu dal gan Geidwadwyr. Fe ymgeisiodd Geraint Morgan AS a Syr Anthony Meyer AS, y ddau aelod a oedd yn cynrychioli'r seddi oedd i'w colli yn yr ad-drefnu, i gael eu henwebu ar gyfer y sedd newydd. Cynigiodd Beata Brookes ASE Gogledd Cymru ei henw ar gyfer yr ymgeisyddiaeth hefyd gan greu peth controfersi a sylw yn y wasg.
Mewn cyfarfod tynnu rhestr fer o ymgeiswyr gan fwrdd reoli Cymdeithas Ceidwadol yr etholaeth a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 1983 fe lwyddodd Brookes i ennill yr ymgeisyddiaeth gan i'r bwrdd rheoli penderfynu mae dim ond ei henw hi oedd i'w cyflwyno i gyfarfod dewis gan holl aelodau'r Blaid Geidwadol yn yr etholaeth. Honnodd Syr Anthony bod y cyfarfod yn ffics tra fo Geraint Morgan yn cwyno bod siarad yn y cyfarfod megis pledio achos o flaen rheithgor oedd wedi ei lygru. Plediodd Syr Anthony achos llwyddiannus o flaen Yr Uchel Lys i sicrhau bod ei enw ef yn cael ei gyflwyno i gyfarfod dewis yr aelodaeth cyffredinol yn ogystal ag enw Brookes. Yn y cyfarfod dewis fe lwyddodd Syr Anthony i ennill yr ymgeisyddiaeth o drwch y blewyn.[1]
Cafodd Syr Anthony ei ddad-ddewis fel ymgeisydd Ceidwadol ar gyfer etholiad cyffredinol 1992 ar ôl iddo ymgeisio yn aflwyddiannus i herio'r prif weinidog Margaret Thatcher am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol[2]. Cafodd Syr Anthony ei olynu gan Rod Richards ar ran y Ceidwadwyr, fe gadwodd Richards y sedd hyd ei ddiddymu ym 1997.
Aelodau Seneddol
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Aelod | Plaid | |
---|---|---|---|
1983 | Syr Anthony Meyer | Ceidwadol | |
1992 | Rod Richards | Ceidwadol | |
1997 | diddymu'r etholaeth
|
Etholiadau
[golygu | golygu cod]Etholiadau yn y 1990au
[golygu | golygu cod]Etholiad cyffredinol 1992: Gogledd Orllewin Clwyd[3] | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | Rod Richards | 24,488 | 46.2 | −2.3 | |
Llafur | Chris Ruane | 18,438 | 34.8 | +10.0 | |
Democratiaid Rhyddfrydol | Robert V. Ingham | 7,999 | 15.1 | −7.6 | |
Plaid Cymru | Neil H. Taylor | 1,888 | 3.6 | −0.4 | |
Deddf Naturiol | Ms. Mary S. Swift | 158 | 0.3 | ||
Mwyafrif | 6,050 | 11.4 | −12.3 | ||
Y nifer a bleidleisiodd | 52,971 | 78.6 | +3.5 | ||
Ceidwadwyr yn cadw | Gogwydd | −6.1 |
Etholiadau yn y 1980au
[golygu | golygu cod]Etholiad cyffredinol 1987: Gogledd Orllewin Clwyd | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | Syr Anthony Meyer | 24,116 | 48.5 | −2.5 | |
Llafur | K.L. Thomas | 12,335 | 24.8 | +8.5 | |
Rhyddfrydol | Owen Griffiths | 11,279 | 22.7 | −6.4 | |
Plaid Cymru | Robert Karl Davies | 1,966 | 4.0 | +0.4 | |
Mwyafrif | 11,781 | 23.7 | |||
Y nifer a bleidleisiodd | 49,696 | 75.2 | +2.1 | ||
Ceidwadwyr yn cadw | Gogwydd | −5.5 |
Etholiad cyffredinol 1983: Gogledd Orllewin Clwyd | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | Syr Anthony Meyer | 23,283 | 51.0 | ||
Rhyddfrydol | J.J. Lewis | 13,294 | 29.1 | ||
Llafur | C.I. Campbell | 7,433 | 16.3 | ||
Plaid Cymru | Mrs. M. Rhys | 1,669 | 3.6 | ||
Mwyafrif | 9,989 | 21.9 | |||
Y nifer a bleidleisiodd | 45,679 | 73.1 |