Gaynor Morgan Rees
Gwedd
Gaynor Morgan Rees | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor |
Actores o Gymraes yw Gaynor Morgan Rees. Daeth i amlygrwydd cenedlaethol am ei rhan fel Diana, merch Twm Twm (Ryan Davies) yn y gyfres comedi boblogaidd Fo a Fe, a ddarlledwyd ar BBC Cymru o 1972 hyd 1977.
Yn enedigol o Abercwmboi, Cwm Cynon yn y de, symudodd i weithio i'r BBC ym Mangor yn 1962 ar ôl graddio o'r coleg drama ac mae hi wedi byw yn y gogledd byth ers hynny; ers 1984 mae hi'n byw yn nhref Dinbych lle mae hi'n weithgar gyda Theatr Twm o'r Nant.[1]
Mae'n gynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Tref Dinbych.[2]
Teledu a ffilm
[golygu | golygu cod]- Fo a Fe (BBC Cymru, Mawrth 1972 - Ionawr 1977), fel Diana
- Off to Philadelphia in the Morning (1978, teledu), fel Anne Parry
- Calon Gaeth (2006), fel Nano
- Arwyr (2008, teledu) fel Megan
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ S4C
- ↑ Cyng - Cllr Gaynor Morgan Rees. Cyngor Tref Dinbych. Adalwyd ar 28 Rhagfyr 2020.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gaynor Morgan Rees ar IMDB