G. A. Cohen
G. A. Cohen | |
---|---|
Ganwyd | 14 Ebrill 1941 Montréal |
Bu farw | 5 Awst 2009 Rhydychen |
Dinasyddiaeth | Canada |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, academydd |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Communist Party of Canada |
Gwobr/au | Cymrawd yr Academi Brydeinig |
Athronydd Marcsaidd o Ganada oedd Gerald Allan "Jerry" Cohen (14 Ebrill 1941 – 5 Awst 2009) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau at ysgol feddwl Marcsiaeth ddadansoddol.
Ganed ym Montréal i deulu Iddewig, a gweithwyr ffatri tecstilau oedd ei rieni. Pan oedd yn fachgen 4 i 11 oed, mynychodd Ysgol Morris Winchevsky yn Toronto, ysgol Iddewig a gafodd ei rheoli gan fudiad comiwnyddol. Aeth i ysgol uwchradd wladol ac yn ei arddegau fe fu'n weithgar yn Ffederasiwn Cenedlaethol Ieuenctid Llafur, sef urdd ieuenctid y Blaid Gomiwnyddol yng Nghanada. Derbyniodd ei radd baglor o Brifysgol McGill ym 1961 ac aeth i Brifysgol Rhydychen i astudio athroniaeth dan diwtoriaeth Gilbert Ryle. Magodd gyfeillgarwch clos ag Isaiah Berlin.[1]
Bu Cohen yn ddarlithydd yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) am 22 mlynedd. Ym 1985 fe'i penodwyd yn Athro Chichele ar bwnc damcaniaeth gymdeithasol a gwleidyddol yng Ngholeg yr Holl Eneidiau, Rhydychen. Fe'i penodwyd yn gymrawd gan yr Academi Brydeinig ym 1985. Wedi iddo gael ei ddyrchafu'n athro emeritws yn 2008, penodwyd yn Athro Quain ar bwnc cyfreitheg yn UCL. Bu farw o strôc yn 68 oed.[1]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Karl Marx's Theory of History: A Defence (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1978).
- History, Labour, and Freedom (1988).
- Self-Ownership, Freedom and Equality (1995).
- If You're an Egalitarian, How Come You're So Rich? (2000).
- Rescuing Justice and Equality (2008).
- Why Not Socialism? (2009).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Jane O'Grady, "Obituary: GA Cohen", The Guardian (10 Awst 2009). Adalwyd ar 22 Awst 2020.
- Academyddion o Ganada
- Academyddion Coleg yr Holl Eneidiau, Rhydychen
- Academyddion Coleg Prifysgol Llundain
- Athronwyr yr 20fed ganrif o Ganada
- Athronwyr yr 21ain ganrif o Ganada
- Athronwyr gwleidyddol o Ganada
- Athronwyr Marcsaidd
- Canadiaid Iddewig
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol McGill
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Rhydychen
- Genedigaethau 1941
- Llenorion yr 20fed ganrif o Ganada
- Llenorion yr 21ain ganrif o Ganada
- Marwolaethau 2009
- Pobl o Montréal
- Pobl fu farw o strôc
- Ysgolheigion Saesneg o Ganada