Fyny Gyda'r Swans
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Owain Tudur Jones ac Alun Gibbard |
Cyhoeddwr | Y Lolfa |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 20 Chwefror 2009 |
Pwnc | Cofiannau |
Argaeledd | allan o brint |
ISBN | 9781847711151 |
Tudalennau | 72 |
Genre | Llyfrau ffeithiol |
Cyfres | Cyfres Stori Sydyn |
Llyfr Cymraeg am bêl-droed am Owain Tudur Jones ganddo ef ei hun ac Alun Gibbard yw Fyny Gyda'r Swans sy'n un o gyfrolau'r gyfres Stori Sydyn. Gwasg Y Lolfa a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2009. Yn 2013 roedd y gyfrol allan o brint.[1]
Disgrifiad byr
[golygu | golygu cod]Cyffro bywyd pêl-droediwr gyda'r 'Swans', y cyfryngau a charfan Cymru yw ei themau. Roedd arwyddo i'r Swans yn freuddwyd i Owain Tudur Jones, yn arbennig wrth ennill clod a dyrchafiad o dan Roberto Martinez. Un a wireddodd y freuddwyd honno yw Owain Tudur Jones, a gafodd ei hun yn rhan o’r Bencampwriaeth gyda’r Swans ac yn aelod o garfan Cymru.
Ceir isafbwyntiau hefyd, fel gorfod eistedd ar y fainc yn ystod gêm ar ôl gêm. Ac mae’r rhwystredigaeth hynny yn rhan o fywyd Owain hefyd.
Yn y gyfrol, a ysgrifennwyd gyda chymorth Alun Gibbard, mae Owain yn adrodd ei hanes oddi ar ei lencyndod gyda chlwb Bangor hyd at y foment wefreiddiol pan arwyddodd gytundeb proffesiynol gyda’r Swans. Mor hawdd fyddai iddo ramanteiddio. Ond, na. Dengys, yn hytrach, mor gul yw'r ffin rhwng llwyddiant a methiant.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013
- Daw rhan o'r testun uchod o wefan Gwales; awdur: Lyn Ebenezer.