Ffwrnais
Gwedd
- Erthygl am y ddyfais ddiwydiannol yw hon. Am y pentref yng Ngheredigion gweler Ffwrnais, Ceredigion. Am yr ardal yn Llanelli gweler Ffwrnais, Llanelli.
Dyfais a ddefnyddir i dwymo yw ffwrnais. Daw'r enw Cymraeg o'r gair Saesneg furnace sy'n tarddu yn ei dro o'r gair Lladin hynafol fornax (gair sy'n golygu "pobty" neu "ffwrn" yn ogystal â "ffwrnais"; Fornax oedd duwies y pobty ym mytholeg Rhufain Hynafol[1]).
Yn yr Unol Daleithiau a rhai gwledydd eraill mae'r gair yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio systemau twymo tai ac weithiau fel term am odyn. Yng Nghymru a sawl gwlad arall cyfeiria 'ffwrnais' at ffwrneisiau diwydiannol a ddefnyddir at sawl pwrpas, e.e. i dynny metel o fwyn (smeltio) neu mewn purfeydd olew a safleoedd cemegol eraill.
Gall yr ynni gwres i danio ffwrnais gael ei gyflenwi gan danio tanwydd yn uniongyrchol, gan drydan, neu drwy wres a dynnir drwy bibellau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Casell's Latin Dictionary (25ain argraffiad, Llundain, 1948).