Ffos Noddun
Gwedd
![]() Trem ar Ffos Noddun, yn edrych i fyny'r afon tuag at Raeadr y Graig Lwyd. | |
Math | ceunant ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Betws-y-coed ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.067621°N 3.783286°W, 53.067237°N 3.782108°W ![]() |
![]() | |
Ceunant cul diarffordd ar Afon Conwy yw Ffos Noddun, Ffos Noddum neu Ffos Anoddun (Saesneg: Fairy Glen) a leolir ar gyrion Betws-y-Coed, Conwy, yng ngogledd Cymru. Gelwir y coetir hynafol o'i hamgylch yn Goed Ffos Noddum, a ddynodir yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Man brydferth boblogaidd ydyw sydd yn denu nifer o dwristiaid. Saif gwesty'r Fairy Glen a'i faes parcio gerllaw, ar ochr yr A470, ac mae modd cyrraedd Ffos Noddun drwy ddilyn llwybr ar draws tir preifat. Gofynnir i ymwelwyr dalu ffi fechan mewn blwch. Mae Pont yr Afanc, pont restredig Gradd II ym Mro Garmon, yn croesi Afon Conwy yn agos iawn at Ffos Noddun.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/cc/Fairy_Glen_-_Ffos_Noddum_-_geograph.org.uk_-_8500.jpg/220px-Fairy_Glen_-_Ffos_Noddum_-_geograph.org.uk_-_8500.jpg)
Cyfansoddwyd cerdd Saesneg am Ffos Noddun gan Wilhelmina Stitch ym 1925.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/ef/The_Fairy_Glen%2C_Bettws-y-Coed_%281133977%29.jpg/220px-The_Fairy_Glen%2C_Bettws-y-Coed_%281133977%29.jpg)