Evelina Haverfield
Evelina Haverfield | |
---|---|
Ganwyd | 9 Awst 1867 Inverlochy Castle |
Bu farw | 21 Mawrth 1920 Bajina Bašta |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | nyrs, swffragét |
Tad | William Scarlett, 3rd Baron Abinger |
Mam | Helen Magruder |
Priod | Henry Wykeham Brooke Tunstall Haverfield, John Henry Balguy |
Plant | John Campbell Haverfield, Brook Tunstall Haverfield |
Ffeminist a swffragét o'r Alban oedd Evelina Haverfield (9 Awst 1867 - 21 Mawrth 1920) a oedd yn nyrs ac yn ymgyrchydd dros hawliau merched.
Fe'i ganed yn Inverlochy Castle, Kingussie ar 9 Awst 1867 a bu farw yn Bajina Bašta, Serbia o niwmonia.
Yn gynnar yn yr 20g, ymunodd Evelina Haverfield ag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod, ymgyrch i sicrhau'r bleidlais i fenywod a sefydlwyd gan Emmeline Pankhurst. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gweithiodd fel nyrs yn Serbia. Ar ôl y rhyfel, dychwelodd yno gyda'i chydymaith Vera Holme i sefydlu cartref i blant amddifad yn nhref Bajina Bašta, yng ngorllewin y wlad.[1][2][3][4][5][6]
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Ar ei thystysgrif geni, sillefir ei henw fel Honourable Evilena Scarlett (gydag 'e' yn ei henw bedydd).[7][8] Hi oedd trydydd plentyn William Scarlett, 3ydd barwn Abinger a'i wraig Helen (Eileen) Magruder a oedd yn ferch i gomodôr yn llynges UDA.[8][9][10] Rhannwyd ei phlentyndod rhwng Llundain ac ystad Inverlochy.[11] Yn 1880 aeth i'r ysgol yn Düsseldorf, yr Almaen. Ar 10 Chwefror 1887, yn 19 oed, priododd â Swyddog Magnelau Brenhinol, yr Uwchgapten Henry Wykeham Brooke Tunstall Haverfield, yn Kensington, Llundain, ac aeth y cwpl i fyw i Sherborne, Dorset. Roedd ei gŵr 20 mlynedd yn hŷn na hi.[8][11] Roedd yn briodas hapus a chawsant ddau fab, John Campbell Haverfield (ganwyd 1887) a Brook Tunstall Haverfield (ganwyd 1889); bu farw Henry Haverfield ei gŵr, wyth mlynedd yn ddiweddarach. Ar 19 Gorffennaf 1899, priododd John Henry Balguy cyfaill ei gŵr, ond ni newidiodd ei henw. Wedi 10 mlyned o briodas gwahanodd y ddau, ond ni chawsant ysgariad.[12]
Yn 1911 cychwynodd ar berthynas gyda'i chyd-ymgyrchydd a'r actores Vera "Jack" Holme, perthynas a barodd hyd at ei marwolaeth.
Yr ymgyrchydd
[golygu | golygu cod]Ymunodd â changen Sherborne o Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau Pleidlais Menywod (National Union of Women's Suffrage Societies). Yn 1908 mynychodd rali yn Neuadd Frenhinol Albert a dechreuodd gefnogi'r swffragetiaid milwriaethus, gan ymuno ag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod (WSPU). Cymerodd ran mewn nifer o brotestiadau ac fe'i harestiwyd sawl gwaith am rwystro ac am ymosod ar yr heddlu.[8][11]
Yn 1909 cymerodd Haverfield ran mewn gorymdaith dros y Mesur o Hawliau (Bill of Rights). Ceisiodd aelodau'r WSPU, dan arweiniad Emmeline Pankhurst, fynd i mewn i Dŷ'r Cyffredin. Cawsant eu rhwystro gan yr heddlu a chafodd dros 100 o fenywod eu harestio, gan gynnwys Haverfield. Yn dilyn protest arall gan y WSPU yn 1910 cafodd ei harestio am ymosod ar swyddog heddlu ar ôl ei daro yn y geg. Yn ôl cofnodion y llys, roedd hi wedi dweud "Mi wnes i daro'r heddwas, ond nid yn ddigon caled. Y tro nesaf y dof â gwn llaw gyda mi."[8][10] Fe'i harestiwyd sawl gwaith wedi hynny.[13]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Rhyw: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
- ↑ Dyddiad geni: "Hon. Evalina Scarlett". The Peerage.
- ↑ Dyddiad marw: "Hon. Evalina Scarlett". The Peerage.
- ↑ Tad: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
- ↑ Mam: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
- ↑ "Women's Reserve Ambulance – World War One". COHSE Britain's Health Service Union.
- ↑ "SR Birth Search Return for Scarlett 1865 – 1869". Scotland's People.
- ↑ 8.0 8.1 8.2 8.3 8.4 Crawford, Elizabeth (Medi 2004). "Haverfield, Evelina (1867–1920)". Oxford Dictionary of National Biography. Oxford University Press. Cyrchwyd 23 Ionawr 2010.
- ↑ "Lt.-Gen. William Frederick Scarlett, 3rd Baron Abinger". The Peerage.
- ↑ 10.0 10.1 Crawford, Elizabeth (2001). The women's suffrage movement: a reference guide, 1866–1928. Routledge. t. 279. ISBN 0-415-23926-5.
- ↑ 11.0 11.1 11.2 Gaddes, Boyce (22 Awst 2009). "The Life of Evelina Haverfield". FirstWorldWar.com. Cyrchwyd 23 Ionawr 2010.
- ↑ Women and War: A Historical Encyclopaedia from Antiquity to the Present, vol. 1, ed. Bernard A. Cook, ABC CLIO, 2006, tud. 277
- ↑ "Papers of Vera (Jack) Holme". The National Archives. Cyrchwyd 30 Mehefin 2013.