Neidio i'r cynnwys

Elinor Jones

Oddi ar Wicipedia
Elinor Jones
GanwydMawrth 1946 Edit this on Wikidata
Llanwrda Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyflwynydd teledu Edit this on Wikidata
PlantHeledd Cynwal Edit this on Wikidata

Cyflwynydd teledu o Gymraes yw Elinor Jones (ganwyd Mawrth 1946). Cyflwynodd nifer o raglenni teledu yn Gymraeg ac yn Saesneg ers y 1970au.

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Rachel Elinor Jones yn Llanwrda. Fel plentyn, cystadlodd mewn eisteddfodau yn canu ac adrodd, gan ymddangos ar deledu sawl gwaith. Aeth i'r coleg i astudio diwynyddiaeth.

Cychwynnodd Elinor ei gyrfa fel athrawes, yn dysgu mewn ysgolion cynradd ym Margoed a Rhiwbeina, Caerdydd. Yn y 1970au cynnar, gwelodd rhywun hi'n rhoi darlith ar addysg plant a chafodd ei chrybwyll i Dorothy Williams, cynhyrchydd yn HTV Cymru. Fe'i gwahoddwyd i gyflwyno cyfres o raglenni i ysgolion, gan gymryd ambell ddiwrnod i ffwrdd o'i gwaith fel athrawes. Cafodd gynnig gwaith llawn-amser fel cyhoeddwraig rhaglenni gyda HTV a rhoddodd y gorau i ddysgu.

Wedi blwyddyn o wneud y gwaith, ganwyd ei merch Heledd Cynwal yn 1975 a'i bwriad oedd dod yn fam lawn-amser. Yna cynigiwyd swydd iddi fel cyflwynydd newyddion ar raglen Y Dydd. Aeth i weithio ar y rhaglen am dri diwrnod yr wythnos gan ddibynnu ar gymydog i edrych ar ôl ei phlentyn. Yn yr un cyfnod, roedd yn cyflwyno rhai rhaglenni plant a'r rhaglen gylchgrawn prynhawn i ferched - Hamdden.

Wedi dyfodiad S4C, aeth y contract rhaglenni newyddion i BBC Cymru felly daeth ei swydd yn HTV i ben. Er hynny, cynigiodd HTV waith iddi yn cyflwyno sioeau eraill. Cychwynnodd gyda rhaglen deithio. Yn ddiweddarach cyflwynodd sioe sgwrsio ei hun, Elinor. Darlledwyd y fersiwn Cymraeg ar S4C a'r un Saesneg ar HTV Wales, lle cyfwelodd nifer o enwogion fel Geraint Evans, Humphrey Lyttelton, Kenneth Williams, Anthony Hopkins, Jeff Banks a Ruth Madoc. Yn y 1990au, cyflwynodd raglenni eraill yn Saesneg fel On The Road With Elinor.

Ar S4C, daeth yn gyflwynydd ar y rhaglen gylchgrawn Heno. Yn 1988, daeth yn gyflwynydd ar y rhaglen newydd P'nawn Da (a ail-enwyd yn Wedi 3 yn 2006). Penderfynodd adael y rhaglen yn 2011 pan oedd yn 65 mlwydd oed. Cyflwynodd ei rhaglen olaf ar ddydd Gwener, 2 Medi 2011.[1]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Mae ganddi un ferch o'i phriodas gyntaf, Heledd Cynwal.[2] Yn 1984 penderfynodd symud o Gaerdydd yn ôl i'w ardal enedigol. Prynodd hen dŷ Gwynfor Evans, Talar Wen yn Bethlehem, Sir Gaerfyrddin, pan ymddeolodd ef i Bontcarreg.[3] Mae'n byw yno gyda'i gŵr Dr Lyn Davies, cyn-bennaeth cerddoriaeth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Ar 6 Ebrill 2014, cafodd ei gwneud yn Uchel Siryf Dyfed gyda'r seremoni yn gyfan gwbl yn Gymraeg am y tro cyntaf. [4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Elinor Jones on her life as a TV presenter , WalesOnline, 2 Medi 2011. Cyrchwyd ar 10 Ebrill 2021.
  2. Mother and daughter on the couch; TV presenter Elinor Jones and daughter Heledd Cynwal's first interview together. (en) , Western Mail, 24 Rhagfyr 2001. Cyrchwyd ar 12 Ebrill 2001.
  3. Politician who was an icon for a generation (en) , WalesOnline, 28 Ebrill 2005. Cyrchwyd ar 11 Ebrill 2021.
  4. Y ddarlledwraig Elinor Jones yn dod yn Uchel-Siryf Dyfed , BBC Cymru Fyw, 7 Ebrill 2014. Cyrchwyd ar 10 Ebrill 2021.