Docusad
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | cyfansoddyn cemegol |
Màs | 444.216 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₂₀h₃₇nao₇s |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd unol daleithiau america c |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae docusad, a elwir hefyd yn halwynau docusad neu dioctil sulffosucinad, yn garthydd o'r math sy'n meddalu carthion a ddefnyddir i drin rhwymedd[1]. Fe'i hystyrir yn ddewis da mewn plant sydd a charthion caled. Ar gyfer rhwymedd sy'n digwydd fel sgil effaith defnydd cysglyn, fe ellir ei ddefnyddio ar ei ben ei hun neu gyda charthydd symbylydd. Gellir ei gymryd fel capsiwl trwy'r genau neu fel tawddgyffur yn y pen ôl. Fel rheol mae'n gweithio o fewn un i dri diwrnod.
Sgil effeithiau
[golygu | golygu cod]Mae sgil effeithiau yn anghyffredin. Yn achlysurol bydd claf yn cael crampiau yn yr abdomen neu'r dolur rhydd. Mae effeithlonrwydd yn lleihau gyda defnydd hirdymor, a gall arwain at broblemau gweithrediad y coluddyn. Mae docusad yn iawn i'w defnyddio yn ystod beichiogrwydd a bwydo ar y fron[2].
Mecanwaith
[golygu | golygu cod]Mae'n gweithio trwy ganiatáu i fwy o ddŵr gael ei amsugno gan yr ysgarthion. Fel arfer mae'n dod ar ffurf sodiwm, calsiwm, neu halen potasiwm.
Argaeledd
[golygu | golygu cod]Mae ducosad ar gael trwy ragnodiad neu o fferyllfa pan fydd fferyllydd cymwys yn bresennol. Mae ar gael fel cyffur generig neu o dan yr enwau brand Dioctyl®; Docusol®; DulcoEase®; Norgalax®
Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "DOCUSATE SODIUM". NICE / BNF. Cyrchwyd 09/03/2018. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ "Docusate". NHS UK. Cyrchwyd 09/03/2018. Check date values in:
|access-date=
(help)[dolen farw]