David Smith
David Smith | |
---|---|
Ganwyd | 2 Mawrth 1989 Eastleigh |
Dinasyddiaeth | Prydain Fawr |
Galwedigaeth | boccia player |
Gwobr/au | MBE, OBE |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Chwaraewr boccia sy'n cystadlu yn y Gemau Paralympaidd yw David John Smith OBE (ganed 2 Mawrth 1989).[1]
Mae e'n dod o Eastleigh, Hampshire, ac mae ganddo fe barlys yr ymennydd.[2] Ar ôl graddio o Prifysgol Abertawe penderfynodd aros yng Nghymru. Mae e'n byw ac yn hyfforddi yn Abertawe, lle mae'n cynnal clwb boccia cymunedol hefyd.[1] Mae Smith yn adnabyddus am ei wallt lliwgar.[3]
Roedd Smith rhan o dîm boccia Prydain y Gemau Paralympaidd am y tro cyntaf yn 2008, lle enillodd y tîm fedal aur. Enillodd Smith fedal efydd ei hun yn 2012, ac wedyn medal aur yng Ngemau Paralympaidd 2016 ym Mrasil,[1] gan ddod yn chwaraewr boccia mwyaf llwyddiannus Gwledydd Prydain.[2] Ym Mharis yn 2024 collodd Smith yn y rownd gyn derfynol, felly methodd ag ennill medal.[3]
Penodwyd Smith yn Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd yn 2022.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 "David Smith OBE" (yn Saesneg). Boccia UK. Cyrchwyd 1 Medi 2024.
- ↑ 2.0 2.1 "Eastleigh's gold medallist David Smith flies flag for GB to close Paralympics". Hampshire Live (yn Saesneg). 5 Medi 2021. Cyrchwyd 1 Medi 2024.
- ↑ 3.0 3.1 "Smith 'out of gas' as he misses out on Bronze". BBC Sport (yn Saesneg). 1 Medi 2024. Cyrchwyd 1 Medi 2024.
- ↑ "The full list of Welsh people on the Queen's New Year Honours list". Wales Online (yn Saesneg). 31 Rhagfyr 2021. Cyrchwyd 1 Medi 2024.