Neidio i'r cynnwys

David Powel

Oddi ar Wicipedia
David Powel
Ganwyd1549 Edit this on Wikidata
Bu farw1598 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethhanesydd, clerig Edit this on Wikidata

Clerigwr a hanesydd o Gymru oedd David Powel (tua 15521598). Mae'n adnabyddus yn bennaf fel awdur y gyfrol ddylanwadol Historie of Cambria, now called Wales.

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Roedd yn fab i Hywel ap Dafydd o Llandysilio-yn-Iâl a Bryneglwys yn Sir Ddinbych. Aeth i astudio i Rydychen tua 1568, gan symud i Goleg Iesu pan sefydlwyd hwnnw yn 1571. Dywedir mai ef oedd y person cyntaf i raddio o'r coleg.

Dath yn ficer Rhiwabon yn 1570 ac ychwanegodd ficeriaeth Llanfyllin yn 1571, cyn cyfnewid Llanfyllin am ficeriaeth Meifod yn 1579. Yn 1588/9 daeth yn rheithor Llansantffraid-ym-Mechain. Dywedir iddo gynorthwyo yr Esgob William Morgan i gyfieithu'r Beibl.

Ym 1583 gofynnwyd iddo baratoi cyfieithiad Humphrey Lhuyd o Frut y Tywysogion i'r wasg. Helaethodd Powel ar y gwaith yma, ac yn 1584 cyhoeddodd Historie of Cambria, now called Wales, carreg filltir bwysig iawn yn hanesyddiaeth Cymru.

Priododd Elisabeth, ferch Cynwrig o Farchwiail, a chawsant dri mab.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]


Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.