Cytundeb Saint-Germain
Enghraifft o'r canlynol | cytundeb heddwch |
---|---|
Dyddiad | 10 Medi 1919 |
Iaith | Ffrangeg, Saesneg |
Rhagflaenwyd gan | Armistice of Villa Giusti |
Lleoliad | Château de Saint-Germain-en-Laye |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd Cytundeb Saint-Germain-en-Laye (cyfeirir yn gyffredin fel Cytundeb Saint-Germain neu Cytundeb St Germain), a lofnodwyd yn y dref o'r un enw ger Paris ar 10 Medi 1919 [1] yn ganlyniad y cyfarfod i drafod amodau heddwch ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf rhwng y Cynghreiriaid buddugol ac Gwerinaieth Awstria-Almaeneg gwladwriaeth olynnol Ymerodraeth Awstria-Hwngari. Gan bod yr Ymerodraeth eisoes wedi dod i ben gyda datganiad annibynieth Hwngari ar 16 Tachwedd 1918 roedd y materion a drafodwyd yn Saint-Germain yn gyfyngedig i Awstria Almaeneg a ddaeth yn wladwriaeth olynnol i'r Ymerodraeth. Ar fyniant Ffrainc, eithriwyd Awstria o'r trafodaethau er y gorfodwyd iddi hi i lofnodi'r cytundeb terfynol.
Cyd-destun
[golygu | golygu cod]Roedd Ymerodraeth Awstria-Hwngari wedi dod i ben yn weithredol erbyn cynnull cyfarfod i drafod y Cytundeb (oherwydd i'r cenhedloedd olynnol ddatgan annibyniaeth oddi arni). Roedd Awstria Almaeneg wedi dechrau ymsefydlu, ac ar 30 Hydref 1918, etholwyd y sosialydd, Dr Karl Renner, yn Ganghellor gyntaf yr Awstria-Almaeneg newydd. Renner byddai cynrychiolydd Awstria ac ef byddai'n arwyddo Cytundeb Saint-Germain.
Y gwladwraethau a lofnododd y Cytundeb oedd Pwerau'r Cynghreiriaid: Y Deyrnas Undeig, Ffrainc, yr Eidal, yr Unol Daleithiau a Siapan a'r hyn a elwir yn "partneriaid pŵer" (Gwlad Belg, Cuba, Gwlad Groeg, Nicaragua, Panama, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Rwmania, Gwlad Thai, Tsiecoslofacia, Tsieina a Teyrnas y Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid - y Iwgoslafia yn y dyfodol). Cafodd y cytundeb ei ddrafftio yn Ffrangeg - iaith dehongli yn achos anghysondebau - Saesneg, Eidaleg a Rwsia, ond nid yn Almaeneg.
Deliwyd ag achos yr Almaen gyda Chytundeb Versailles a Hwngari gan Gytundeb Trianon.
Prif Deilliannau'r Cytundeb
[golygu | golygu cod]- Yn ôl Erthygl 177 o'r Cytundeb gorfodwyd i Awstria (a'r Pwerau Canolog eraill, Almaen, Twrci) dderbyn cyfrifoldeb am ddechrau'r Rhyfel Mawr
- Yn Erthygl 88 sefydlwyd mai enw'r wladwriaeth newydd fyddai Awstria (Österreich) ac nid Deutschösterreich, sef, dewisenw'r Awstriaid eu hunain
- Gwaharddwyd y wladwriaeth newydd rhag uno gyda'r Almaen - yr Anschluss a ddigwyddodd, maes o law dan Hitler i gefnogaeth gref gan yr Awstriaid yn 1938
- Gwaharddwyd hi rhag gweithgynhyrchu a masnachu arfau
- Cyfynwyd ei byddin i 30,000 o ddynion a gwaharddwyd conscriptiwn
- Gorfwyd i'r wladwriaeth newydd dalu iawndal sylweddol i'r Cynghreiriaid ac i ad-dalu gweithiau niferus celf y trysorlys Ymerodraeth yr Habsburgiaid, er bod llawer o'r gwaith celf wedi bod yn Awstria ers canrifoedd ac wedi'i gaffael yn gyfreithlon.
Colledion Tiriogaethol
[golygu | golygu cod]O ran y tiriogaethau, cafodd y canlynol eu cymryd oddi ar Awstria:
- Galisia - dyfarnwyd i Wlad Pwyl (a ail-ffurfiwyd fel gwladwriaeth rydd wedi bron canrif heb fodoli). Serch hynny, roedd hyn yn erbyn dymuniad nifer fawr o drigolion rhan ddwyreiniol y dalaith, sef ardal Lemberg (Lviv) oedd yn Rwtheniaid ac am ymuno ag Iwcrain. Dosbarthwyd llawer o'r tiroedd yma, gan gynnwys Lviv, i Iwcrain wedi'r Ail Ryfel Byd.
- Bohemia, Moravia a rhai ardaloedd o Awstria Isaf - dyfarnwyd i wladwriaeth newydd Tsiecoslofacia ynghyd â thirgaeth Almaeneg y Sudeten. Daeth y tiroedd a'r boblogaeth sylweddol yma o 3 miliwn o Almaenwyr yn achos ac esgus dros ddatgymalu Tsiecoslofacia gan Adolf Hitler a'r Natsiaid yn 1938.
- De Tirol, tiriogaeth Trent, Dyffryn Canale, nifer o ynysoedd Dalmatia a dinasoedd Trieste a Zara - dyfarnwyd i'r Eidal. Golygai hyn fod Awstria wedi colli pob mynediad a phorthladd ar Fôr y Canoldir.
- Bukovina - dyfarnwyd i Rwmania - dyma'r wladwriaeth Moldofa bresennol, fwy neu lai.
- Rhan o daleithiau Styria a Carinthia - dyfarnwyd i Deyrnas y Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid (a newidiodd ei enw, maes o law, i Iwgoslafia.
- Enclave Tientsin - a adferwyd i Tsieina
Cytunwyd i gynnal refferendwm yn ninas Klagenfurt i benderfynu ar ei dyfydol, unai fel rhan o'r Awstria newydd neu i ymuno gyda Theyrnas SCS (Iwgoslafia). Cynhaliwyd y refferendwm ar 10 Hydref 1920 a pleidleisiodd y tiriogaeth dros ymuno ag Awstria.
Gydag arwyddo Cytundeb Trianon (a oedd yn delio â dyfodol Hwngari) ffurfiwyd tiriogaeth bresenol Gweriniaeth Awstria sy'n bodoli hyd heddiw.
Mae'r map o'r tiriogaethau a ddaeth yn annibynnol o'r Ymerodraeth yn debyg mewn sawl ffordd i'r map o Unol Daleithiau Awstria Fawr ffederal a drafodwyd ar ddechrau'r 20g er mwyn mynd i'r afael gyda'r gwahanol alwadau am gydnabyddiaeth gwleidyddol ac ieithyddol o fewn yr hen Ymerodraeth.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Austrian treaty signed in amity". The New York Times. 11 September 1919. t. 12.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Cytundeb Saint-Germain yn Saesneg
- Map animeiddiedig o Ewrop ar ddiwedd y Rhyfel Mawr
- Map o Ewrop a Chytundeb St Germain Archifwyd 2015-03-16 yn y Peiriant Wayback yn omniatlas.com