Neidio i'r cynnwys

Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2022

Oddi ar Wicipedia
Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2022
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad mewn cyfres, cynadleddau Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig Edit this on Wikidata
Dechreuwyd6 Tachwedd 2022 Edit this on Wikidata
Daeth i ben20 Tachwedd 2022 Edit this on Wikidata
Cyfrescynadleddau Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gancynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2021, cynadleddau Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig Edit this on Wikidata
Olynwyd ganCynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2023 Edit this on Wikidata
LleoliadSharm el-Sheikh Edit this on Wikidata
Prif bwncgweithredu ar yr amgylchedd Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethYr Aifft Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://cop27.eg/#/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2022 neu Gynhadledd Partion yr UNFCCC, y cyfeirir ati amlaf fel COP27,[1] oedd 27fed cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd, a gynhaliwyd rhwng 6 Tachwedd a 20 Tachwedd 2022[2] yn Sharm El Sheikh, yr Aifft. Tarddiad y talfyriad COP yw Conference of the Parties.

Fe’i cynhaliwyd o dan arlywyddiaeth Gweinidog Materion Tramor yr Aifft, Sameh Shoukry, gyda mwy na 92 o benaethiaid gwladwriaethau yn bresennol. Amcangyfrifir bod 35,000 o gynrychiolwyr o 190 o wledydd yno'n bresennol. Hon oedd yr uwchgynhadledd hinsawdd gyntaf a gynhaliwyd yn Affrica ers 2016.[3]

Mae'r gynhadledd wedi'i chynnal yn flynyddol ers cytundeb hinsawdd cyntaf y Cenhedloedd Unedig ym 1992. Fe'i defnyddir gan lywodraethau i gytuno ar bolisïau i gyfyngu ar godiadau tymheredd byd-eang ac addasu i effeithiau sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd.[4] Arweiniodd y gynhadledd hon at greu'r gronfa 'colled a difrod' gyntaf.[5]

Cefndir

[golygu | golygu cod]
Gweinidog Materion Tramor yr Aifft Sameh Shoukry oedd llywydd COP27.

Cyhoeddwyd yr Aifft fel gwesteiwr y gynhadledd yn dilyn cais llwyddiannus a lansiwyd yn 2021.[6][7][8][9] Ar 8 Ionawr 2022 cyfarfu Gweinidog Amgylchedd yr Aifft, Yasmine Fouad, ag Arlywydd COP26 Alok Sharma i drafod paratoadau ar gyfer y gynhadledd.[10][11] Cynghorodd trefnwyr yr Aifft yr aelod wladwriaethau i roi tensiynau ac anghytundeb ynghylch sofraniaeth ac ymosodiad Rwsia ar Wcráin yn 2022 er mwyn sicrhau bod y trafodaethau’n llwyddiannus.[12]

Noddwyd y gynhadledd gan Coca-Cola. Awgrymodd nifer o ymgyrchwyr amgylcheddol fod hyn yn wyrddwynu (greenwashing), o ystyried llygredd plastig y cwmni.[13]

Yn ôl nifer y mynychwyr y COP hwn oedd yr ail fwyaf ar ôl COP26 yn Glasgow, gyda 33,449 o gyfranogwyr. Roedd yr holl wledydd a gymerodd ran, gan gynnwys Dinas y Fatican, wedi cadarnhau Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd. Roedd 11,711 o gyfranogwyr o 1,751 o sefydliadau anllywodraethol. Arweiniodd yr Emiraethau Arabaidd Unedig y ddirprwyaeth fwyaf gyda 1,073 o gyfranogwyr, ac yna Brasil (573), a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo (459). Daeth llawer o'r deg dirprwyaeth fwyaf o wledydd Affrica.[14] Mynychodd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, y gynhadledd.[15]

Yn ystod y copa

[golygu | golygu cod]

Ar 7 ac 8 Tachwedd, dechreuodd y gynhadledd gydag Uwchgynhadledd Arweinwyr y Byd, a ddilynwyd gan drafodaethau ar bynciau fel cyllid hinsawdd, datgarboneiddio, addasu i newid hinsawdd ac amaethyddiaeth yn ystod yr wythnos gyntaf. Disgwylir i'r ail wythnos gwmpasu rhywedd, dŵr a bioamrywiaeth . [16] Bydd arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, prif weinidog yr Iseldiroedd Mark Rutte ac arlywydd Senegal Macky Sall yn cynnal digwyddiad ar gyflymu ymaddasu i newid hinsawdd yn Affrica . [15] Mae India wedi ceisio eglurder a diffiniad ar gyllid hinsawdd yn ogystal ag ysgogi gwledydd eraill i ddarparu technoleg i frwydro yn erbyn hinsawdd a thrychinebau. [17]

Cyhoeddodd yr Almaen a'r Unol Daleithiau fod dros $250 miliwn mewn adnoddau i gefnogi economi ynni gwyrdd a glân yr Aifft. Bydd y rhaglen yn defnyddio ynni gwynt a solar newydd ac yn datgomisiynu cyfarpar cynhyrchu nwy naturiol, aneffeithlon.[18]

Chwaer Alaa Abd El-Fattah yn protestio y tu allan i Swyddfa Dramor, Cymanwlad a Datblygu Lloegr yn ystod y gynhadledd.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Burke, Kieran (15 November 2021). "HRW slams decision for Egypt to host COP27". Deutsche Welle (yn Saesneg). Cyrchwyd 19 December 2021.
  2. "Sharm el-Sheikh Climate Change Conference – November 2022: 6 Nov – 20 Nov 2022". unfccc.int. Cyrchwyd 5 November 2022.
  3. Friedman, Lisa (11 November 2022). "What Is COP27? And Other Questions About the Big U.N. Climate Summit". The New York Times.
  4. "COP27: What is the Egypt climate conference and why is it important?". BBC News. 25 October 2022. Cyrchwyd 27 October 2022.
  5. "Climate change: Five key takeaways from COP27". BBC News (yn Saesneg). 20 November 2022. Cyrchwyd 21 November 2022.
  6. "Egypt to host COP27 international climate conference in 2022 -ministry". Reuters (yn Saesneg). Cairo. 11 November 2021. Cyrchwyd 19 December 2021.
  7. "Egypt to host COP27 international climate conference next year". The Economic Times. 12 November 2021. Cyrchwyd 19 December 2021.
  8. "Egypt selected to host UN climate change conference COP27 in 2022 after significant bids to counter problem". Egypt Today (yn Saesneg). Cairo. 11 November 2021. Cyrchwyd 19 December 2021.
  9. "Road to COP 27: It's time for Africa to lead the climate conversations". The Independent (yn Saesneg). 15 November 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 November 2021. Cyrchwyd 19 December 2021.
  10. "Ministry of Environment – EEAA > Home". www.eeaa.gov.eg. Cyrchwyd 19 December 2021.
  11. "Egypt's Environment Minister discusses preparations for COP27 Climate Conference". Egypt Independent. 16 January 2022. Cyrchwyd 18 April 2022.
  12. Harvey, Fiona (28 September 2022). "Cop27: Egyptian hosts urge leaders to set aside tensions over Ukraine". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 4 October 2022.
  13. Green, Graeme; McVeigh, Karen (4 October 2022). "Cop27 climate summit's sponsorship by Coca-Cola condemned as 'greenwash'". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 4 October 2022.
  14. McSweeney, Robert (9 November 2022). "Analysis: Which countries have sent the most delegates to COP27?". Carbon Brief. Cyrchwyd 10 November 2022.
  15. 15.0 15.1 Limb, Lottie (1 November 2022). "The European leaders heading to COP27 as Sunak U-turns after backlash". euronews (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 November 2022.
  16. Limb, Lottie (7 November 2022). "What is COP27 and why is it so important?". euronews (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 October 2022.
  17. "India's agenda at the COP27 summit in 10 points". mint. 6 November 2022. Cyrchwyd 8 November 2022.
  18. "Fact Sheet: President Biden Announces New Initiatives at COP27 to Strengthen U.S. Leadership in Tackling Climate Change". U.S. Embassy in Egypt (yn Saesneg). 2022-11-11. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-11-15. Cyrchwyd 2022-12-08.

Ffynonellau

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]